Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i wyliau a gwyliau byr yn y DU ar gyfer pobl anabl, teuluoedd a gofalwyr. Cael gwybod ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael a hefyd manylion o’r Cynllun Mynediad Cenedlaethol.
Ceir llawer o fudiadau ac elusennau sy'n trefnu ac yn darparu gwyliau i bobl anabl. Gall hyn osgoi'r drafferth a'r amser i chi o drefnu pethau ac fel arfer rydych yn sicr o fynediad hwylus a chymorth - ond efallai na fydd cymaint o ddewis i chi o ran ble i fynd, beth i'w wneud a ble i aros.
Mae 'na sawl math o wyliau sy'n addas i bobl gydag anableddau neu namau gwahanol. Dyma rai syniadau:
Yn ogystal â gwestai a thai aros, ceir y mathau canlynol o lety hefyd:
Bydd llety gwyliau ac atyniadau twristiaid sy’n tanysgrifio i’r Cynllun Mynediad Cenedlaethol wedi ystyried gofynion pobl anabl gydag anghenion arbennig ac wedi gwneud darpariaethau priodol.
Gall cyfarpar arbennig, cerbydau wedi'u haddasu a gwasanaethau nyrsio a gofal fod yn ystyriaethau pwysig ar wyliau. Mae rhai cwmnïau teithio'n delio'n benodol gyda gwyliau ar gyfer pobl anabl. Byddant yn ystyried adeiladau hwylus, atyniadau lleol a chyfleusterau hamdden.
Yn dibynnu ar eich anghenion - a'r cyrchan a ddewiswch - gallai'r gefnogaeth gael ei darparu gan ofalwyr proffesiynol a/neu nyrsys yn ogystal â gwirfoddolwyr. Efallai y gallwch ddewis lefel y gofal gofynnol.
Mae rhai elusennau'n helpu gyda chostau gwyliau ac mae rhai hefyd yn berchen ar eu heiddo'u hunain. Gall teuluoedd ar incwm isel, a chyda phlentyn anabl, fod yn gymwys i gael grant tuag at gost gwyliau. Cysylltwch â'ch adran gwasanaethau cymdeithasol lleol.