Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfarpar, addasiadau a gwasanaethau pan fyddwch ar wyliau

Efallai eich bod chi, neu'r person yr ydych yn gofalu amdano, wedi arfer gyda chyfarpar a/neu addasiadau gartref. Mae'n bwysig holi a yw eich gwesty - neu lety arall - yn gallu diwallu'ch anghenion.

Beth all fod ar gael

Wrth archebu llety'n uniongyrchol, neu wrth ddelio gydag elusen neu gwmni sy'n delio gyda gwyliau i bobl anabl, holwch beth sydd ar gael.

Mae rhai mannau'n gallu cefnogi pobl gydag anghenion gwahanol. Er enghraifft, mae gan rai gwestai ystafelloedd wedi'u haddasu'n benodol ar gyfer pobl ddall neu rannol ddall. Dyma restr o'r mathau o addasiadau a gwasanaethau a all fod ar gael:

  • cawodydd sy'n gallu cymryd cadair olwyn
  • seddau toiled uchel
  • hoistiau trydan neu â llaw ar gyfer y baddon
  • hoistiau gwely trydan neu â llaw
  • systemau larwm yn yr ystafelloedd
  • larymau sy'n dirgrynu

Yn dibynnu ar eich anghenion, holwch ba gymorth y gall y staff darparu. Er enghraifft, ydyn nhw’n gallu helpu defnyddwyr cadair olwyn, neu ydyn nhw wedi'u hyfforddi i ddefnyddio iaith arwyddion?

Allweddumynediad llywodraeth y DU