Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth sy'n digwydd i'ch budd-daliadau pan fyddwch chi ar wyliau?

Os ydych yn derbyn budd-daliadau naill ai fel person anabl neu fel gofalwr, efallai eich bod am wybod beth sy'n digwydd iddynt os ewch ar wyliau.

Y mae’r arweiniad hwn yn rhoi sylw i’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Lwfans Gweini
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Gofalwr

Lwfans Byw i'r Anabl

Os am gyfnod yn unig y byddwch yn aros dramor, gan gynnwys gwyliau, byddwch fel arfer yn parhau i gael y Lwfans Byw i'r Anabl am 26 wythnos.

Efallai y gallwch barhau i gael y Lwfans Byw i'r Anabl am gyfnod hirach os ydych yn mynd dramor am driniaeth feddygol ar gyfer eich salwch neu'ch anabledd. Mae dal yn ofynnol mai dros dro y byddwch yn aros yno.

Mynd dramor yn barhaol

Os ydych yn mynd dramor yn barhaol efallai y gallwch gael y Lwfans Byw i'r Anabl (elfen ofal yn unig) o hyd os ydych yn symud i wlad yn Ardal Economaidd Ewrop neu i’r Swistir.

Lwfans Gweini

Os mai aros dramor am gyfnod yn unig y byddwch, er enghraifft ar wyliau, byddwch fel arfer yn gallu parhau i gael y Lwfans Gweini am 26 wythnos.

Efallai y gallwch barhau i gael y Lwfans Gweini am gyfnod hirach os ydych yn mynd dramor am driniaeth feddygol ar gyfer eich salwch neu anabledd. Rhaid i'ch arhosiad fod dros dro o hyd.

Mynd dramor yn barhaol

Os ydych yn mynd dramor yn barhaol efallai y gallwch gael y Lwfans Gweini o hyd os ydych yn symud i wlad yn Ardal Economaidd Ewrop neu i’r Swistir.

Budd-dal Analluogrwydd

Rhaid i chi ddweud wrth eich Canolfan Byd Gwaith neu'ch canolfan waith leol os ydych yn mynd dramor. Os ydych yn mynd dramor am gyfnod yn unig, gallwch dderbyn Budd-dal Analluogrwydd am 26 wythnos gyntaf eich arhosiad, os nad ydych ar ddiwrnod eich ymadawiad wedi gallu gweithio am o leiaf 6 mis; neu os ydych wedi bod yn analluog i weithio am lai na 6 mis ond rydych allan o Brydain Fawr oherwydd eich bod yn ceisio cael triniaeth am salwch neu anabledd a oedd gennych cyn i chi adael.

Efallai y gallech dderbyn Budd-dal Analluogrwydd dramor am fwy na 26 wythnos os ydych yn aros am gyfnod yn unig a'ch bod yn cael Lwfans Gweini neu Lwfans Byw i'r Anabl. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu'ch canolfan waith leol.

Mynd dramor yn barhaol

Mae'n bosib y gallech gael budd-dal analluogrwydd os ydych yn symud i wlad sydd â threfniant dwy-ffordd gyda'r DU. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu'ch canolfan waith leol.

Lwfans Gofalwr

Os ydych yn cymryd seibiant dros dro oddi wrth y gwaith o ofalu am rywun (er enghraifft, gwyliau), gallwch barhau i dderbyn Lwfans Gofalwr. Gellir cymryd cyfanswm o 4 wythnos o egwyl mewn unrhyw gyfnod o 26 wythnos fel gwyliau. Gall y Lwfans Gofalwr hefyd barhau am gyfnodau pan fyddwch chi neu'r person anabl sy'n derbyn gofal mewn ysbyty.

Rhaid i chi ddweud wrth yr Uned Lwfans Gofalwr os ydych yn cymryd egwyl oddi wrth y gwaith gofalu oherwydd gwyliau, neu reswm arall, megis mynd i ysbyty, neu os yw'r person yr ydych yn gofalu amdano yn mynd ar wyliau neu'n mynd i'r ysbyty.

Efallai y gallwch dderbyn y Lwfans Gofalwr am gyfnod hirach os ydych yn mynd dramor dim ond i helpu'r person yr ydych yn gofalu amdano, a bod y person hwnnw'n gallu derbyn y Lwfans Byw i'r Anabl neu'r Lwfans Gweini o hyd. Rhaid i'ch arhosiad fod dros dro o hyd.

Mynd dramor yn barhaol

Os ydych yn mynd dramor yn barhaol efallai y gallwch gael y Lwfans Gofalwr o hyd os ydych yn symud i wlad yn Ardal Economaidd Ewrop neu i’r Swistir.

Allweddumynediad llywodraeth y DU