Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynllunio i fynd i ffwrdd

Gydag unrhyw daith neu wyliau – ym Mhrydain neu dramor - mae'n syniad da gwneud rhywfaint o gynllunio ar gyfer y rhan o'ch gwyliau pan fyddwch yn teithio. Os ydych yn berson anabl, efallai y dylid meddwl am ambell i beth ychwanegol cyn gadael.

Cyfleu eich anghenion

Mae'n bwysig cofio bod gwledydd yn wahanol ac na fydd pob gwasanaeth a chyfleuster ar gael neu'n hwylus i chi. Os oes angen gwasanaeth neu gyfleuster penodol arnoch, dylech holi a ydynt ar gael cyn archebu.

Yn aml, nid yw nam yn amlwg i bobl eraill, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn esbonio'ch gofynion yn glir. Peidiwch â thybio bod staff mewn swyddfeydd trefnu teithiau, swyddfeydd teithio neu feysydd awyr yn gwybod neu'n deall eich anghenion yn awtomatig.

Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth archebu dros y ffôn, drwy'r post neu dros y rhyngrwyd.

Dod o hyd i wybodaeth

Yn y DU, rhaid i wybodaeth a ddarperir gan swyddfeydd teithio, trefnwyr teithiau, meysydd awyr a chwmnïau hedfan fod yn glir ac yn syml.

Dylent hefyd gymryd camau rhesymol i sicrhau bod eu gwasanaethau gwybodaeth ar gael yn hwylus i bobl anabl, er enghraifft gwybodaeth ar gael mewn fformatau hwylus, megis Braille, print bras neu dâp sain.

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd

Nod Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yw rhoi diwedd ar y gwahaniaethu y mae llawer o bobl anabl yn ei wynebu. Mae rhan 3 y Ddeddf yn ymwneud â 'darparwyr gwasanaethau' sy'n cynnwys trefnwyr teithiau, cwmnïau gwyliau a busnesau sy'n darparu llety a gwasanaethau hamdden eraill.

Mae dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau i sicrhau nad ydych, fel cwsmer anabl, yn cael eich trin yn llai ffafriol na chwsmeriaid eraill mewn modd anghyfiawn am reswm sy'n gysylltiedig â'ch anabledd.

Gellir dod o hyd i wybodaeth fanylach am hawliau mynediad, gan gynnwys ‘addasiadau rhesymol’, mewn ‘Mynediad i wasanaethau bob dydd’.

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a theithio'n hwylus mewn awyren

Nid yw teithio mewn awyren yn dod o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Ond mae'r Ddeddf yn berthnasol i'r defnydd o wasanaethau yn y DU, megis systemau archebu a gwasanaethau a chyfleusterau mewn maes awyr. Er enghraifft, mae siopau a chyfleusterau cofrestru yn y maes awyr yn dod o dan y Ddeddf ond nid y gwasanaethau a'r adloniant ar yr awyren.

Ers Gorffennaf 2007, mae hi'n anghyfreithlon i gwmni awyrennau, swyddfa drefnu teithiau neu gwmni gwyliau wrthod i rywun archebu lle ar sail anabledd, neu wrthod gadael i berson anabl fynd ar awyren pan fo ganddynt docyn dilys a lle wedi'i gadw. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw awyren sy'n gadael maes awyr yn yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal ag i unrhyw gwmnïau awyrennau Ewropeaidd sy'n glanio yn yr UE.

Mae'r gyfraith hefyd yn cynnwys pobl â symudedd cyfyngedig, gan gynnwys y rheini sydd wedi colli symudedd dros dro.

Mewn amgylchiadau achlysurol dros ben efallai na fydd yr hawliau hyn yn berthnasol - er enghraifft, pan fydd rhesymau diogelwch neu resymau technegol dilys pam na all person anabl fynd ar yr awyren. Mewn achosion o'r fath, rhaid i chi gael gwybod y rhesymau, a rhaid iddynt gynnig dewis rhesymol arall i chi.

I rwystro pethau rhag mynd o chwith, os bydd arnoch angen cymorth yn y maes awyr neu ar yr awyren, mae'n bwysig eich bod yn gwneud hyn yn glir pan fyddwch yn archebu lle (neu heb fod yn hwyrach na 48 awr cyn gadael).

Cyngor am deithio dramor

Mae adran deithio gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cynnwys cyngor am deithio i wledydd penodol ar gyfer unrhyw un sy'n cynllunio taith dramor.

Allweddumynediad llywodraeth y DU