Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan unrhyw ddarparwr gwasanaeth sy'n darparu gwasanaeth i'r cyhoedd yn y DU ddyletswyddau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, pa un a ydynt yn codi am y gwasanaeth hwnnw ai peidio.
Mae darparwyr gwasanaethau yn cynnwys llety gwyliau, atyniadau i ymwelwyr, bwytai, a darparwyr cludiant. Allan nhw ddim gwrthod darparu'r gwasanaeth i chi a chithau'n berson anabl, na darparu gwasanaeth o safon is i chi oherwydd eich anabledd, oni ellir cyfiawnhau hynny.
Efallai y bydd angen i ddarparwyr gwasanaethau wneud 'addasiadau rhesymol' i unrhyw rwystrau a all atal person anabl rhag defnyddio neu gael gafael ar eu gwasanaeth.
Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, dim ond newidiadau sy'n 'rhesymol' y mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau eu gwneud. Bydd newidiadau syml i gynllun ystafelloedd, gwell arwyddion a gwybodaeth a hyfforddiant staff yn gwella mynediad i gwsmeriaid anabl.
Yr hyn sy'n ymarferol i sefyllfa'r darparwr gwasanaeth sy'n bwysig a pha adnoddau sydd ganddo. Ni fydd yn rhaid iddynt wneud newidiadau sy'n anymarferol neu y tu hwnt i'w modd.
Dyma enghreifftiau o newidiadau rhesymol y gellir eu gwneud:
Bydd gwneud eu gwasanaethau'n fwy hwylus nid yn unig o fudd i bobl anabl ond gallai hefyd ysgogi gwesteion i'w hargymell i eraill ac ymweliadau eildro. Er enghraifft:
Os ydych yn teimlo bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y dymunech ofyn am gyngor gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Elusen yw Tourism for All UK, sy'n cynnig arbenigedd a chymorth i'r sector twristiaeth a lletygarwch i ddarparu gwasanaethau sy'n hwylus i bawb, yn ogystal â rhoi cyngor i bobl anabl ynghylch llety a gwasanaethau twristiaeth eraill.