Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae trigolion y DU yn mynd ar fwy na 40 miliwn o wyliau tramor a thros 100 miliwn o arosiadau dros nos yn y wlad hon bob blwyddyn. Gall dewisiadau ynghylch ble i fynd, sut i fynd a beth i'w wneud ar ôl cyrraedd yno naill ai fod o fudd i'r amgylchedd neu ei niweidio.
Mae chwarter allyriadau carbon deuocsid (CO2) y DU yn cael ei achosi gan drafnidiaeth. Mae cyfran uchel o hyn yn ymwneud â theithio hamdden – er enghraifft, mae pum taith awyren o bob chwech a wneir o'r DU yn cario teithwyr sy'n mynd ar eu gwyliau.
Bydd dewis mynd ar wyliau yn nes at gartref, neu gymryd llai o wyliau hirach yn hytrach na llawer o wyliau byr, yn lleihau effaith eich gwyliau ar y newid yn yr hinsawdd.
Teithio mewn awyren
Mae teithio mewn awyren yn cyfrannu'n gynyddol tuag at allyriadau CO2, ac ar hyn o bryd, mae'n achosi tua 6 y cant o gyfanswm allyriadau'r DU. Po bellaf rydych yn teithio, yn enwedig mewn awyren, y mwyaf yw'ch cyfraniad chi at y newid yn yr hinsawdd.
Os oes rhaid i chi hedfan, un dewis yw gwrthbwyso'r allyriadau carbon y bydd eich taith yn eu cynhyrchu trwy dalu am brosiectau sy'n lleihau allyriadau mewn mannau eraill.
Yn aml, mae dewis arall ar gael heblaw hedfan neu yrru, yn enwedig pan fyddwch yn mynd i ffwrdd am gyfnod hirach. Ar gyfartaledd, tua thraean o'r allyriadau CO2 o daith awyren ddomestig neu fer yn Ewrop a achosir wrth deithio'r un pellter ar drên.
Os ydych chi'n teithio i lethrau sgio Ewrop, mae dal trên yn aml mor gyfleus â dal awyren. Chwiliwch ar-lein am 'ganolfannau sgio y gellir teithio iddynt ar drên' i gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych yn gyrru i'ch man gwyliau, gall defnyddio technegau gyrru effeithlon helpu i leihau eich defnydd o danwydd, arbed arian a lleihau eich effaith ar yr amgylchedd. Hefyd, gallwch helpu drwy ddewis model mwy effeithlon wrth logi car ar eich gwyliau.
Bydd cadw'r arferion da sydd gennych gartref ar gyfer arbed ynni a dŵr yn eich helpu i wneud eich gwyliau yn fwy gwyrdd:
Mae manteisio i'r eithaf ar fwyd a diod sydd wedi'i gynhyrchu 'n lleol, ac ar weithgareddau ac atyniadau lleol, yn cefnogi pobl yr ardal rydych chi'n ymweld â hi. Mae hefyd yn lleihau pa mor bell rydych chi'n teithio gan leihau'r effaith a gewch ar yr amgylchedd.
Gwneir rhai anrhegion a bwydydd mewn rhai gwledydd o blanhigion neu anifeiliaid sydd dan fygythiad, er enghraifft, croen anifeiliaid, ifori, tegeirian, cafiâr neu gwrel.
Gweler 'Cofroddion a rhywogaethau dan fygythiad' i gael gwybod beth y dylid ei osgoi ac i helpu i amddiffyn bywyd gwyllt y wlad rydych chi'n ymweld â hi.
Mae'n bosib y gall eich gwyliau helpu i gefnogi pobl leol a'r amgylchedd: