Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Teithio mewn awyren a’r amgylchedd

Mae teithio mewn awyren yn gwneud cyfraniad cynyddol at newid yn yr hinsawdd a gall gael effaith ar ansawdd aer lleol a sŵn. Gallwch helpu i leihau eich effaith ar yr amgylchedd drwy ddewis teithio llai mewn awyren. Gallwch hefyd wneud iawn am yr allyriadau carbon sy'n cael eu cynhyrchu yn sgîl eich teithiau.

Y mater ehangach

Yn 2006, roedd teithio mewn awyren yn gyfrifol am 6.4 y cant o allyriadau carbon deuocsid y DU - y prif nwy tŷ gwydr sy'n achosi newid yn yr hinsawdd. Mae rhagolygon yn awgrymu y gallai'r ffigwr hwn gynyddu. Os na wneir dim, gallai allyriadau carbon deuocsid a gynhyrchir gan hedfan fod yn gyfrifol am oddeutu 10 y cant o gyfanswm allyriadau carbon deuocsid y DU erbyn 2020. Mae teithio mewn awyren hefyd yn gyfrifol am ambell effaith newid yn yr hinsawdd nad yw'n yn ymwneud â charbon deuocsid, er bod ansicrwydd gwyddonol sylweddol yn dal i fodoli ynghylch graddfa'r effeithiau hyn.

Ceisiwch deithio'n llai aml

Gall lleihau pa mor aml yr ydych yn teithio, leihau'ch effaith chi ar y newid yn yr hinsawdd - a gallai hefyd arbed arian ac amser i chi. Yn aml, ceir ffyrdd o gyflawni'r hyn a ddymunwch heb orfod teithio mor bell neu mor aml:

  • ystyriwch gyfleusterau fideo-gynadledda a thele-gynadledda yn hytrach na hedfan i gyfarfodydd busnes
  • ystyriwch gymryd gwyliau yn y DU
  • bydd cymryd un gwyliau hirach yn cael llai o effaith na mynd ar sawl trip byr os ydych yn hedfan bob tro

Ystyriwch opsiynau gwahanol i hedfan

Os oes angen i chi deithio, gall defnyddio ffyrdd eraill o gyrraedd yno helpu i leihau'ch effaith ar yr amgylchedd.

Ystyriwch allyriadau eich taith o'i gymharu gyda defnyddio'r trên neu fws, a'r amser teithio o ddrws i ddrws.

Gallech hefyd ystyried rhannu car, naill ai gyda chydweithwyr neu ffrindiau, neu fel rhan o gynllun wedi'i drefnu.

Yn olaf, gallech ddewis peidio â hedfan hyd yn oed pan fyddwch yn gwneud teithiau rhyngwladol.

Gwrthbwyswch yr effaith o daith mewn awyren na ellir ei hosgoi

Os na ellir osgoi teithio mewn awyren, gallech feddwl am wrthbwyso'r allyriadau.

Mae hedfan yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd oherwydd bod awyrennau yn llosgi tanwydd, ac mae hyn yn cynhyrchu allyriadau. Gallwch wneud iawn am eich allyriadau drwy dalu i rywun arbed neu leihau'r un faint o ollyngiadau - gelwir hyn yn wrthbwyso.

Mae nifer cynyddol o gwmnïau hedfan yn cynnig cynllun gwrthbwyso pan fyddwch yn prynu tocyn i hedfan. Chwiliwch am y rhain, neu cyfrifwch a gwrthbwyswch eich taith drwy ddarparwr gwrthbwyso ar wahân.

Dylai gwrthbwyso ddod fel dewis olaf os na allwch osgoi teithio mewn awyren. Gall helpu i leihau effaith eich gweithgarwch yn y tymor byr, ond nid yw'n cymryd lle cynhyrchu llai o allyriadau yn y lle cyntaf.

Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar y ffordd i'r maes awyr

Mae traffig ffyrdd yn cyfrannu'n helaeth at lygredd aer ger meysydd awyr. Gall gadael eich car gartref a chanfod ffyrdd eraill o deithio i'r maes awyr helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd a llygredd aer lleol.

Fel arfer, mae gan feysydd awyr gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da, a gallech weld fod bws neu drên yn gynt ac yn fwy hamddenol na mynd mewn car.

Os bydd angen i chi yrru, mae gan lawer o feysydd awyr y DU gynlluniau rhannu car. Tarwch olwg ar wefannau'r meysydd awyr am ragor o wybodaeth, chwiliwch ar-lein neu ewch ar y ddolen isod i gael gweld rhestr o gynlluniau.

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU