Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwrthbwyso carbon

Mae pethau a wnewch o ddydd i ddydd fel gyrru car, hedfan a hyd yn oed defnyddio eich cyfrifiadur yn defnyddio ynni. Mae hyn yn creu allyriadau carbon deuocsid, sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Gallwch wneud iawn am eich allyriadau nad oes modd eu hosgoi drwy dalu i rywun arbed yr un faint o garbon deuocsid. Gelwir hyn yn 'wrthbwyso carbon'.

Sut i fynd i'r afael â'ch allyriadau

Mae sawl cam y gallwch eu cymryd i fynd i'r afael â'ch allyriadau:

  • cyfrifwch faint o garbon deuocsid yr ydych yn ei gynhyrchu yn eich cartref ac wrth deithio (dyma eich 'ôl troed carbon')
  • ceisiwch osgoi neu leihau eich allyriadau, er enghraifft drwy gerdded neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu drwy droi eich gwresogydd i lawr
  • ceisiwch wrthbwyso eich allyriadau nad oes modd eu hosgoi

Sut mae cynlluniau gwrthbwyso'n gweithio?

Yn gyntaf, mae angen i chi gyfrifo'r gollyngiadau yr ydych yn eu cynhyrchu. Gallwch ddewis gwrthbwyso rhywfaint neu'r cyfan o'ch allyriadau nad oes modd eu hosgoi. Er enghraifft, gallech wrthbwyso eich milltiroedd car am flwyddyn neu daith dramor mewn awyren.

Yna, bydd angen i chi brynu'r un faint o 'gredydau carbon' gan brosiectau sydd wedi arbed carbon deuocsid. Mae'r prosiectau yma'n dibynnu ar eich arian gwrthbwyso chi i'w hariannu.

I ble mae'r arian yn mynd?

Ceir sawl gwahanol fath o brosiect gwrthbwyso. Yn gyffredinol, maent yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni neu ynni adnewyddadwy. Dyma rai enghreifftiau o'r math o brosiectau a allai gynhyrchu credyd a ddefnyddir i wrthbwyso:

  • darparu poptai solar sydd newydd gael eu datblygu i bobl yn Aceh, Indonesia, yn ogystal â chynwysyddion dargadw gwres ar gyfer coginio, gwresogi, diheintio dŵr a chadw bwyd
  • gweithredu mesurau effeithlonrwydd ynni mewn gwesty twristiaid yn India
  • harneisio ynni dŵr afon (heb argaeau) yn Fiji
  • sefydlu'r ffatri ynni gwynt gyntaf yn Cyprus
  • casglu methan i gynhyrchu trydan o safleoedd tirlenwi yn Durban, De Affrica
  • cynhyrchu trydan o'r gweddillion a gynhyrchir gan felin siwgr yn Ecuador

Mae rhai cynlluniau gwrthbwyso yn cynnwys plannu coed, ond gall gymryd sawl blwyddyn cyn gwireddu'r manteision amgylcheddol. Mae hefyd yn anodd mesur faint yn union o garbon deuocsid sy'n cael ei arbed. O'r herwydd, ychydig iawn o brosiectau o'r fath sydd wedi'u cymeradwyo gan y Cenhedloedd Unedig ar hyn o bryd. Nid oes disgwyl y bydd gwrthbwyso o brosiectau o'r fath yn cynnwys y nod ansawdd.

Dewis cynllun gwrthbwyso

chwiliwch am logo y Cynllun Sicrhau Ansawdd ar gyfer Gwrthbwyso Carbon

Mae mwy a mwy o gwmnïau, gan gynnwys cwmnïau hedfan, yn sefydlu cynlluniau ar gyfer eu cwsmeriaid i wrthbwyso eu hallyriadau.

Mae'r Cynllun Sicrhau Ansawdd ar gyfer Gwrthbwyso Carbon wedi'i sefydlu i'ch helpu chi i ddewis cynllun o ansawdd da. Gall credydau gwrthbwyso carbon sy'n bodloni gofynion penodol sydd wedi'u gosod gan y llywodraeth gael eu gwerthu gyda nod ansawdd gan ddarparwr credydau gwrthbwyso. Golyga'r nod y bydd y darparwr gwrthbwyso yn gwneud y canlynol:

  • cyfrifo eich allyriadau'n gywir
  • gwerthu credydau carbon o ansawdd uchel sy'n cydymffurfio gyda Phrotocol Kyoto ac wedi cael eu gwirio gan y Cenhedloedd Unedig
  • darparu'r credydau o fewn blwyddyn i chi eu prynu, a sicrhau nad yw'r un credyd yn cael ei brynu'r eilwaith
  • cynnig prisiau agored am eu credydau (faint maen nhw'n ei gostio fesul tunnell)
  • darparu gwybodaeth i chi ynghylch rôl gwrthbwyso wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chyngor ar leihau'ch ôl troed carbon.

Bydd rhai darparwyr yn gwerthu credydau gwrthbwyso gyda'r nod ansawdd a hebddo. Nid yw hyn yn golygu fod y credydau gwrthbwyso heb y nod ansawdd o reidrwydd o ansawdd gwael. Yn hytrach, golyga nad yw'r llywodraeth yn gallu gwarantu safon y credydau gwrthbwyso, a hynny efallai oherwydd y math o gredydau allyriadau a ddefnyddiant.

Os carech brynu credydau gwrthbwyso sydd heb eu gwarantu gan y nod ansawdd, efallai y byddech chi o bosib yn hoffi sicrhau:

  • bod y gwrthbwyso yn golygu gostyngiadau allyriadau gwirioneddol
  • bod y gwrthbwyso yn cynnig manteision eraill (amgylcheddol neu gymdeithasol) y carech eu cefnogi

Yw hyn yn 'wellhad' ar gyfer newid yn yr hinsawdd?

Na. Ni fydd gwrthbwyso'n gwrthdroi'r effeithiau sydd eisoes wedi'u hachosi gan garbon deuocsid. Ni ellir dadwneud y niwed amgylcheddol a achoswyd gan y gollyngiadau hynny. Drwy arbed yr un faint o garbon deuocsid yn rhywle arall, fodd bynnag, gallwch helpu i leihau'r gollyngiadau byd-eang cyfredol.

Additional links

Ei wneud ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU