Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Edrych ar y ffilm newid yn yr hinsawdd 'Fy CO2'

Mae'r ffilm fer hon yn dangos sut mae defnyddio ynni yn eich cartref yn creu gollyngiadau CO2, a sut y gall pob un ohonom leihau ein gollyngiadau er mwyn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Edrych ar y ffilm

Dilynwch y dolenni isod i lwytho'r ffilm neu i edrych arni. Gallwch dde-glicio'r ddolen gyda'ch llygoden, a dewis 'Cadw'r targed dan yr enw' i gadw'r ffilm ar eich cyfrifiadur. Noder y gallwch ddewis fformat Windows Media neu QuickTime ar gyfer y ffilmiau. Ar gyfer pob un, mae fersiwn lled band uchel (band eang) a fersiwn lled band isel (modem).

Disgrifiad o'r ffilm (adysgrif)

Agor ar olau coch aneglur yn fflachio sy'n llenwi'r rhan fwyaf o'r sgrin. Mae'r camera'n tynnu'n ôl ac yn ffocysu i ddatgelu'r gwefrydd a'r golau'n fflachio arno. Mae'n ymddangos ei fod yn pylsadu fel pe bai ynni mewnol yn ceisio torri allan.

Mae'r camera'n tynnu'n ôl ymhellach, ac yna'n mynd ar daith o gwmpas cartref modern, gan edrych ar enghreifftiau o wastraff ynni yn y cartref.

Gwelwn ef yn mynd drwy'r gegin, yna drwy ystafell amlbwrpas a heibio i'r peiriant golchi. Wrth i'r camera weld yr holl enghreifftiau hyn o wastraffu ynni, ymddengys bod pob teclyn yn pylsadu gydag ynni mewnol yn ceisio dianc ohonynt.

Mae'r camera'n mynd drwy'r ystafell fyw ac yn canfod teledu, yna mae'n symud ac yn dod o hyd i fflam y boeler, ac yna'n mynd ymlaen at y boeler a thap yn gollwng dŵr poeth. Mae'n parhau drwy ystafell wely lle mae mwy o declynnau'n ysgwyd gydag ynni. Yna, aiff drwy ystafell wely arall, mae'n edrych fel ystafell wely plentyn, gyda theledu a chyfrifiadur gemau ymlaen.

Yna, mae'r camera'n tremio drwy'r tŷ ac yn gweld amrywiaeth o switsys eraill wedi'u gadael ymlaen, a'r gwres, ac yna'n dilyn y llif ynni wrth iddo deithio'n gyntaf drwy rai byrddau cylchred ac yna ymuno â'r prif gyflenwad trydan, sy'n gadael y tŷ.

Llais:

'Mae teclynnau'r cartref sy'n dibynnu ar ynni yn rhan o'n ffordd fodern o fyw. Daw'r rhan fwyaf o'r ynni a ddefnyddir ganddynt o losgi nwy, olew a glo, sy'n gollwng carbon deuocsid - CO2 - i'r amgylchedd, gan newid hinsawdd y blaned.'

Mae'r camera'n torri'n uwch ac yn uwch wrth i ni weld pob stryd ac yna bob ardal o dref yn cyfuno eu llifoedd ynni ac mae un llif yn saethu i ffwrdd ar draws y wlad tan i ni gyrraedd gorsaf bŵer lle mae CO2 (wedi'i animeiddio) yn ffrydio i'r atmosffer.

Llais:

'Rydyn ni hefyd yn gwastraffu llawer o ynni'n ddiangen, ac nid yw hynny ond yn cynyddu gollyngiadau CO2, sy'n effeithio ymhellach ar yr hinsawdd.'

Mae'r camera'n dal i godi'n uwch, ac yn y pen draw mae'n edrych ar y Ddaear o'r gofod. Ond yn hytrach na'r blaned las brydferth yr ydym wedi arfer ei gweld, mae wedi'i gorchuddio mewn CO2 (wedi'i animeiddio) sy'n gwneud iddi ymddangos yn 'gochlyd'. Mae'r Ddaear bron fel petai'n pylsadu fel yr holl declynnau o'i blaen.

Mae'r Ddaear 'gochlyd' yn ymdoddi drwodd i'r golau coch a oedd yn fflachio ar y gwefrydd yn yr olygfa agoriadol. Wrth i'r camera dynnu'n ôl eto, mae llaw'n ymestyn i mewn ac yn diffodd y switsh.

Llais:

'Rydym yn awr yn cynhyrchu mwy o CO2 nag y gall y byd ymdopi ag ef.'

Yna, gwelwn gyfres o luniau wrth i bobl ddelio â'r gwastraff ynni a ddangosir yn y dilyniant cyntaf. Wrth i bob teclyn gael ei ddiffodd neu ei droi i lawr, mae'n stopio pylsadu.

Cyfres o luniau: diffodd teledu, diffodd soced plwg, diffodd tap i atal y dŵr poeth rhag gollwng, gostwng gwres, diffodd gwefrydd ffôn symudol - yna gwelwn fwlb sy'n defnyddio ynni yn effeithiol, insiwleiddio atig, golygfa stryd.

Llais:

'Allwn ni ond fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd os yw pawb yn gweithredu, yn awr – gyda'n gilydd – drwy ddefnyddio a gwastraffu llai o ynni ac felly, lleihau'r gollyngiadau CO2 yr ydym i gyd yn gyfrifol amdanynt.'

Yn y diwedd, gwelwn rieni'n cerdded gyda'u plant a beicwyr ar y stryd heb ddim ceir. Awn heibio i baneli solar ar doeau tai a gwelwn y tyrbinau gwynt yn y cefndir. Mae'n diweddu gyda'r ddaear o'r gofod fel yr ydym wedi arfer ei gweld – yn blaned las brydferth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU