Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd

Yma, cewch wybod beth mae mudiadau, busnesau a phrosiectau ledled y byd yn ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a pha gamau mae llywodraeth y DU yn eu cymryd. Gallwch chi hefyd wneud gwahaniaeth drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan gynnwys carbon deuocsid (CO2).

Gweithredu byd-eang i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd

Mae llywodraethau o amgylch y byd wedi llofnodi nifer o gytundebau i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

O dan Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, cytunodd nifer o wledydd i weithredu ac i leihau allyriadau. Sefydlodd Protocol Kyoto gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i wledydd leihau eu hallyriadau.

Targedau gan Brotocol Kyoto

Cytunodd nifer o wledydd a lofnodasant y protocol i leihau eu nwyon tŷ gwydr erbyn 2012. Rhoddwyd eu targedau eu hunain i wledydd yr Undeb Ewropeaidd, a bu i’r DU ymrwymo i leihau ei gollyngiadau o 12.5 y cant o’i gymharu â lefelau 1990.

Cynnydd o ran targedau Kyoto a thu hwnt

Mae'r DU ar ei ffordd i gyrraedd ei tharged Kyoto ac i ragori arni. Yn 2010, rhagwelir y bydd gollyngiadau’r DU tua 11 y cant yn is na’r lefelau sy’n ofynnol gan Kyoto.

Mae gan y llywodraeth hefyd gynlluniau tymor hir i leihau CO2 ac allyriadau nwyon tŷ gwydr eraill hyd yn oed ymhellach. Mae’r Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd yn cynnwys targedau sy’n rhwym dan y gyfraith, gan gynnwys cwtogi 80 y cant ar nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.

Beth sy'n digwydd ar ôl Kyoto?

Amcan cynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen mis Rhagfyr 2009 yw penderfynu beth fydd y gweithredu a’r targedau byd-eang ar ôl 2012 (pan fydd targedau Kyoto yn dod i ben). Gallwch ddangos eich cefnogaeth ar gyfer bargen deg yn Copenhagen, a chefnogi gwledydd tlotaf y byd i leihau eu gollyngiadau.

Prosiectau newid yn yr hinsawdd o amgylch y byd

Mae mudiadau a chymunedau ledled y byd yn gweithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Ffermwyr Indiaidd yn plannu coed a gwerthu credydau carbon

Mae cynllun yn un o daleithiau tlotaf India yn caniatáu ffermwyr i dyfu coed y mae'r diwydiant papur wedi addo eu prynu. Caiff gwerth y coed wrth iddynt amsugno CO2 o’r atmosffer ei gydnabod gan Fanc y Byd ar ffurf credydau carbon. Gall cwmnïau sy’n creu nwyon tŷ gwydr brynu credydau i wrthbwyso eu hallyriadau.

Ôl troed carbon niwtral ynys Danaidd

Mae technolegau ynni adnewyddadwy megis tyrbinau gwynt wedi’u gosod ar ynys Samsø, ac mae'r ynys hyd yn oed yn gwerthu ynni i’r tir mawr. Mae mewnforio tanwydd ffosil wedi lleihau'n sylweddol, ac mae biliau trydan trigolion wedi lleihau.

Llywodraeth y DU yn gweithredu

Mae gan y llywodraeth gynlluniau tymor hir a chynlluniau yn y dyfodol agos i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Lleihau allyriadau carbon deuocsid

Bydd y llywodraeth yn cymryd y camau canlynol i leihau ôl troed carbon y wlad:

  • sicrhau y bydd 40 y cant o drydan yn dod o ffynonellau carbon isel, gan gynnwys ynni adnewyddadwy a phŵer niwclear
  • haneru faint o nwy a gaiff ei fewnforio
  • hybu cipio a storio carbon (cipio’r CO2 sy’n cael ei ryddhau wrth losgi tanwydd ffosil megis glo, a’i storio’n ddiogel dan ddaear)
  • cefnogi tanwyddau a thechnolegau newydd (megis ceir trydanol) sy’n lleihau allyriadau CO2 a achosir gan drafnidiaeth
  • pennu ‘cyllidebau carbon’ i ddiddymu cyfanswm allyriadau CO2 y DU – os yw allyriadau yn codi mewn un sector, bydd rhaid arbed yn rhywle arall

Ffyrdd y mae llywodraeth y DU yn gweithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd

Yn ogystal â gosod targedau a nodau, mae’r llywodraeth yn gwneud y canlynol:

  • gweithio gyda chyflenwyr ynni i helpu pobl i wneud eu cartrefi yn fwy ynni-effeithlon
  • cael cyflenwyr ynni i ddarparu mwy o drydan o ffynonellau adnewyddadwy
  • darparu grantiau i annog pobl a mudiadau i gynhyrchu eu gwres a’u pŵer eu hunain o ffynonellau adnewyddadwy
  • codi’r dreth ar fynd â sbwriel i safleoedd tirlenwi – felly mae o fudd ariannol i chi ailgylchu

Beth mae busnesau yn ei wneud

Yn y DU, mae’r sector preifat yn gyfrifol am tua 40 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae busnesau yn chwarae rhan bwysig wrth leihau’r ôl troed carbon cyffredinol.

Masnachu allyriadau

O dan gynlluniau masnachu allyriadau, mae’r llywodraeth yn cyfyngu ar faint o nwyon tŷ gwydr y mae cwmnïau’n cael ei ryddhau. Rhoddir credydau (neu ‘lwfansau’) i gwmnïau, ac mae'r credydau hyn yn cynrychioli hawliau'r cwmnïau i ryddhau nwyon tŷ gwydr o fewn y terfyn. Gall cwmnïau sy’n rhyddhau llai o nwyon werthu’r credydau sydd heb eu defnyddio i gwmnïau sy’n mynd dros y terfyn. Caiff y cwmnïau sydd ag allyriadau uwch eu perswadio i’w lleihau.

Busnesau yn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd

Mae rhai cwmnïau yn gweithredu i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, er enghraifft drwy wneud y canlynol:

  • defnyddio technolegau sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon, megis gwres a phŵer cyfunedig
  • dewis trafnidiaeth fwy gwyrdd, megis ceir trydanol
  • peidio â chludo nwyddau mewn awyren (mae hedfan yn cyfrannu’n helaeth at allyriadau nwyon tŷ gwydr)

Os ydych chi’n gweithio mewn sefydliad lle ceir cyfleoedd i wneud pethau’n fwy gwyrdd, mae gan Business Link gyngor i’ch helpu i ddechrau.

Beth allwch chi ei wneud

Gallwch chi wneud gwahaniaeth i’r newid yn yr hinsawdd drwy wneud dewisiadau mwy gwyrdd; o arbed ynni i wneud dewisiadau gwahanol o ran trafnidiaeth. Mae ‘Byw'n wyrdd: canllaw cyflym i beth allwch chi ei wneud’ yn lle da i ddechrau.

Cymunedau sy’n garedig tuag at yr hinsawdd

Mae cymunedau’n dod at ei gilydd i weithredu er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Amcan Ashton Hayes yw ennill teitl pentref cyntaf Lloegr i fod yn garbon niwtral. Drwy blannu coed ac arbed ynni, mae’r trigolion wedi torri un rhan o bump o'u hallyriadau yn y flwyddyn gyntaf. Mae trigolion Caerwysg hefyd wedi gosod targedau uchelgeisiol i leihau eu hallyriadau CO2.

Ceisiwch chwilio ar y rhyngrwyd am grwpiau cymunedol yn eich ardal chi, neu gallwch ystyried dechrau grŵp eich hun. Mae gan ‘Cymunedau: ffyrdd o fod yn fwy gwyrdd’ rai awgrymiadau ar gyfer grwpiau.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Ei wneud ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU