Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Byw'n wyrdd: canllaw cyflym i beth allwch chi ei wneud

Gall yr erthygl hon fod o gymorth i chi ddechrau byw'n wyrdd, ac mae'n cynnwys dolenni at wybodaeth fanylach, os ydych chi'n dymuno cael gwybod mwy. Gyda newidiadau syml, gallwch leihau eich ôl-troed carbon, helpu i warchod natur ac arbed arian. Ceisiwch wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon, defnyddio awgrymiadau ar sut i yrru’n fwy gwyrdd a gwastraffu llai o fwyd.

Problemau amgylcheddol: lle allwch chi ddechrau?

Mae’r effeithiau mwyaf y mae pobl yn eu cael ar y newid yn yr hinsawdd yn dod o’r canlynol:

  • ynni a ddefnyddir yn y cartref
  • teithio
  • y bwyd y maent yn ei fwyta

Mae’r rhan fwyaf o broblemau amgylcheddol eraill, megis llygredd neu golli anifeiliaid prin, hefyd yn deillio o ofynion beunyddiol am fwyd, cynhyrchion ac ynni.

Cartref mwy gwyrdd

Mae pedwar person o bob deg yn y DU yn dweud bod arnynt eisiau gwneud mwy i helpu'r amgylchedd.

Arbed ynni yn y cartref yw un o’r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a gall hefyd arbed arian i chi.

Cymorth i arbed ynni

Gallwch fod yn gymwys ar gyfer insiwleiddio eich cartref neu i wneud gwelliannau eraill i arbed ynni yn eich cartref am bris gostyngol. Ffoniwch linell gymorth rhad ac am ddim yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar 0800 512 012 i gael gwybod mwy, neu cwblhewch eu harchwiliad ynni cartref ar-lein. Gallai eu cyngor arbed oddeutu £300 y flwyddyn i chi.

Troi eich gwres i lawr

Trowch eich thermostat i lawr un radd i leihau hyd at 10 y cant ar eich biliau gwres ac i leihau allyriadau carbon.

Prynu cynhyrchion sy’n arbed ynni

Dewch o hyd i’r offer trydanol sy’n defnyddio ynni’n fwyaf effeithlon drwy edrych am y label ‘Energy Saving Recommended’ neu’r label ynni Ewropeaidd (gradd A neu uwch). Mae’r label ynni Ewropeaidd hefyd yn rhoi gwybodaeth i’ch helpu chi i ddewis eitemau sy’n defnyddio llai o ddŵr.

Dewis teithio’n fwy gwyrdd

Gallai car sy’n defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon arbed gwerth tri mis o danwydd y flwyddyn i chi.

Mae teithio personol yn achosi tua chwarter o’r holl niwed y mae unigolion yn ei wneud i’r amgylchedd, ac mae’r rhan fwyaf o hyn yn digwydd drwy ddefnyddio ceir.

Dewis ceir sy’n arbed tanwydd

Os ydych chi’n prynu car newydd, defnyddiwch y label economi tanwydd i ddewis un a fydd yn defnyddio llai o danwydd. Po fwyaf effeithlon y bydd eich car yn defnyddio tanwydd, y lleiaf o dreth y bydd yn rhaid i chi ei thalu.

Gyrru Llai

Defnyddiwch lai ar eich car ar gyfer teithiau byr. Bydd cerdded, seiclo neu fynd ar y bws yn helpu i leihau llygredd aer ac allyriadau carbon. Gall cerdded a seiclo hefyd eich helpu chi i gadw’n heini.

Hedfan llai a gwrthbwyso allyriadau CO2

Meddyliwch am sut allwch chi fodloni’ch gofynion heb hedfan. Er enghraifft, ceisiwch fynd ar wyliau yn nes i'ch cartref a theithio ar drên neu ar long. Os oes rhaid i chi hedfan, meddyliwch am wrthbwyso eich allyriadau CO2. Golyga hyn dalu arian i brosiectau sy’n lleihau allyriadau CO2 mewn ffyrdd eraill, megis sefydlu prosiectau ynni adnewyddadwy.

Dewis bwydydd mwy gwyrdd

Mae bwyd yn achosi bron i draean yr effaith y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei gael ar y newid yn yr hinsawdd.

Gwastraffu llai o fwyd

Mae tŷ cyffredin yn y DU yn gwario £420 y flwyddyn ar fwyd a allai fod wedi cael ei fwyta ond sy'n cael ei daflu. Mae gwastraffu bwyd yn gwastraffu'r holl ynni a ddefnyddiwyd i’w wneud. Ewch i ymweld â gwefan ‘Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff’ am ryseitiau ac awgrymiadau i’ch helpu chi i wastraffu llai o fwyd ac arbed arian.

Prynu bwydydd sy’n garedig tuag at yr hinsawdd

Gall yr awgrymiadau canlynol eich helpu i ddewis bwydydd sydd ag ôl-troed carbon llai.

  • mae cig a chynnyrch llaeth yn cael effaith llawer mwy ar y newid yn yr hinsawdd na’r rhan fwyaf o rawnfwyd, corbys, ffrwythau a llysiau
  • gall prynu bwydydd ffres sydd heb eu prosesu olygu llai o allyriadau carbon, gan fod prosesu bwyd a’i rewi neu ei oeri yn defnyddio llawer o ynni
  • gall prynu bwydydd tymhorol sydd wedi eu tyfu yn yr awyr agored helpu i leihau allyriadau CO2, gan nad oes angen tai gwydr wedi'u gwresogi ar y bwydydd.

Prynu bwydydd sy’n garedig tuag at fywyd gwyllt

Mae rhai bwydydd wedi eu gwneud mewn ffyrdd sy’n fwy caredig tuag at fywyd gwyllt, er enghraifft, heb ddefnyddio plaleiddiaid. Mae bwydydd eraill yn cefnogi cefn gwlad a chymunedau lleol, er enghraifft, drwy greu swyddi lleol. Dewch o hyd i’r rhain drwy edrych am labeli megis LEAF, organig, a’r Cyngor Stiwardiaeth Forol, neu drwy ddewis adwerthwyr sy’n ceisio cynnig bwydydd mwy gwyrdd.

Ailgylchu a gwastraffu llai

Byddai ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau yn hytrach na’u taflu yn golygu llai o wastraff ac yn golygu y byddai angen llai o ynni i wneud eitemau newydd.

Ailddefnyddio ac atgyweirio

Gallwch osgoi gwastraffu drwy ailddefnyddio, uwchraddio ac atgyweirio. Ceisiwch arbed arian drwy uwchraddio cyfrifiaduron a chadw ffonau symudol, yn hytrach na’u newid. Dylech osgoi eitemau y gellir eu taflu, a rhowch eitemau i bobl eraill ar ôl i chi orffen gyda hwy.

Ailgylchu mwy

Gellir ailgylchu bron i ddwy ran o dair o sbwriel y cartref, ac mae'r rhan fwyaf o gynghorau yn casglu papur, gwydr a phlastig i'w hailgylchu o garreg y drws. Mae canolfannau ailgylchu a gwastraff yn aml yn derbyn nifer o bethau eraill, o bren i decstilau a setiau teledu

Dechrau compostio

Gall compostio gwastraff bwyd helpu i leihau allyriadau sy’n achosi’r newid yn yr hinsawdd. Mae nifer o gynghorau lleol yn cynnig biniau compost am brisiau gostyngol ac mae rhai yn casglu gwastraff o’r gegin a gwastraff o’r ardd o’ch cartref chi.

Siopa'n fwy gwyrdd

Yma, cewch wybod am rhai ffyrdd o helpu’r amgylchedd wrth siopa.

Labeli gwyrdd

Defnyddiwch labeli i ddewis eitemau sy’n achosi llai o niwed i’r amgylchedd – er enghraifft, ceir ac oergelloedd sy’n defnyddio ynni yn effeithlon, pysgod sydd wedi eu dal mewn modd cyfrifol a chompost di-fawn.

Gofyn am ddewisiadau mwy gwyrdd

Os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn y mae arnoch ei eisiau, neu os oes arnoch angen mwy o wybodaeth am ddewisiadau mwy gwyrdd, holwch yn y siopau. Po fwyaf y mae pobl yn eu holi, y mwyaf y bydd y siopau’n ystyried cynnig dewisiadau mwy gwyrdd.

Additional links

Ei wneud ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU