Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ailddefnyddio a chael gwared ar offer trydanol

Bob blwyddyn, mae pobl ym Mhrydain yn taflu tua miliwn o dunelli o eitemau trydanol. Gallwch arbed arian ac arbed ynni drwy gadw eitemau megis cyfrifiaduron a ffonau symudol am fwy o amser. Helpwch i atal cemegau niweidiol rhag gollwng i’r amgylchedd drwy ailgylchu eitemau trydanol, yn hytrach na’u taflu gydag ysbwriel y cartref.

Cadw offer am fwy o amser

Bydd y rhan fwyaf o ffonau symudol yn gweithio am o leiaf pum mlynedd.

Mae gwneud eitemau trydanol yn defnyddio llawer o ynni a deunyddiau gwerthfawr, gan gynnwys metelau gwerthfawr megis arian. Gall offer trydanol hefyd gynnwys cemegau megis plwm a mercwri. Gall y cemegau hyn ollwng i’r amgylchedd a niweidio pobl neu anifeiliaid os na cheir gwared ar eitemau mewn modd gofalus. Gallwch arbed arian a lleihau gwastraff drwy gadw eich offer am fwy o amser, felly rhowch gynnig ar yr awgrymiadau canlynol.

Uwchraddio cyfrifiaduron

Os yw eich cyfrifiadur yn heneiddio, gallech wneud y canlynol:

  • ystyried ei wella yn hytrach na phrynu un newydd, drwy gynyddu ei gof (RAM) neu newid y gyriant caled
  • holi siop gyfrifiadur, neu chwilio ar-lein, i gael cyngor, i gael darnau ac i gael cymorth technegol i uwchraddio
  • cadw eich monitor presennol os ydych chi’n cael cyfrifiadur newydd

Cadw ffonau symudol am fwy o amser

Nid oes angen i chi gael ffôn symudol newydd bob blwyddyn; bydd y rhan fwyaf o ffonau'n gweithio am o leiaf pum mlynedd. Gallai cadw eich ffôn presennol arbed arian i chi, gan fod cost ffôn newydd fel arfer yn cael ei gynnwys mewn tariffau misol. Holwch eich cwmni ffôn ynghylch y gwahanol dariffau sydd ar gael os nad ydych chi am uwchraddio eich ffôn (‘SIM yn unig’).

Ailddefnyddio offer

Yn aml, gellir ailddefnyddio eitemau trydanol, gan gynnwys ceblau a phlygiau.

Yn aml, gellir ailddefnyddio eitemau trydanol nad oes arnoch eu heisiau, gan gynnwys ceblau a phlygiau. Yn wir, mae dros hanner yr eitemau trydanol a deflir dal yn gweithio, neu fe allent gael eu trwsio’n rhwydd. Ceisiwch ddod o hyd i gartref newydd i eitemau trydanol nad oes arnoch eu heisiau drwy wneud y canlynol:

  • chwilio ar-lein am fudiadau megis Freecycle neu Freegle a allai eich helpu i ddod o hyd i rywun sydd eisiau eich hen offer
  • defnyddio map ar-lein y Rhwydwaith Ailddefnyddio Dodrefn i ddod o hyd i elusen ailddefnyddio yn eich ardal - bydd llawer ohonynt yn fodlon cymryd nwyddau trydanol
  • edrych ar wefan eich cyngor - mae’n bosib y bydd yn rhestru cynlluniau elusennol lleol sy’n derbyn eitemau trydanol

Ailddefnyddio cyfrifiaduron

Os yw eich offer cyfrifiadurol yn gweithio, efallai y gallwch ei werthu. Ceisiwch hysbysebu ar-lein, mewn papur newydd lleol neu ar hysbysfyrddau lleol.

Gallech chi hefyd roi eich hen gyfrifiadur neu eitemau eraill megis argraffwyr, llygod, ceblau pŵer ac allweddellau i bobl eraill. Ceisiwch ddefnyddio'r dolenni isod i ddod o hyd i gartref newydd ar gyfer eich cyfrifiadur personol.

Cyn i chi basio eich cyfrifiadur ymlaen neu ei ailgylchu, sicrhewch eich bod yn dileu unrhyw wybodaeth nad oes arnoch eisiau i neb arall ei weld. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut i wneud hyn.

Ailgylchu nwyddau trydanol

Mae’r symbol hwn yn golygu na ddylech gael gwared ar yr eitem gydag ysbwriel arferol y cartref

Os oes rhaid i chi gael gwared ar hen offer trydanol, sicrhewch y caiff ei ailgylchu mewn modd diogel. Bydd hyn yn helpu i arbed ynni ac yn helpu i atal cemegau niweidiol rhag difetha’r amgylchedd. Mae’r symbol ‘bin olwynion wedi’i groesi allan’ a geir ar nifer o eitemau trydanol yn golygu na ddylai gael ei roi gydag ysbwriel arferol y cartref.

Prynu eitemau trydanol newydd

Pan fyddwch yn prynu eitem drydanol newydd, gofynnwch sut fydd y siop yn eich helpu i gael gwared ar yr eitem rydych chi’n ei newid. Fel rhan o’r rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE), mae’n rhaid iddynt wneud un o’r canlynol:

  • mynd â’r hen eitem oddi arnoch yn y siop a chael gwared arni mewn modd diogel
  • mynd â’r hen eitem ymaith wrth iddynt ddanfon eitem newydd
  • rhoi gwybod i chi lle cewch chi fynd â’r hen eitem i’w hailgylchu am ddim

Opsiynau ailgylchu eraill

Dyma bethau eraill y gallwch eu gwneud er mwyn cael gwared ar wastraff trydanol:

  • mynd ag ef i’ch canolfan ailgylchu a gwastraff lleol (safle amwynder dinesig) ble y caiff ei ailgylchu mewn modd diogel
  • trefnu bod eich awdurdod lleol yn dod i gasglu eitemau mawr o’ch cartref (gellir codi tâl am y gwasanaeth hwn)

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi deipio manylion ble'r ydych chi'n byw cyn eich cyfeirio at wybodaeth a gwasanaethau lleol.

Ailgylchu batris

Mae gan nifer o eitemau trydanol, megis gliniaduron a ffonau symudol, fatris y gellir eu hailgylchu.

Mae rhai cynghorau lleol eisoes yn casglu batris gyda gwasanaeth casglu pethau i’w hailgylchu o ddrws i ddrws, neu maent yn darparu biniau mewn canolfannau ailgylchu a gwastraff lleol. Bydd y ddolen isod yn dangos a oes man ailgylchu batris yn eich ardal.

Gan ddechrau ym mis Chwefror 2010, fe gewch ailgylchu pob batri o’r cartref, un ai mewn archfarchnad neu mewn siopau sy’n gwerthu batris.

Allweddumynediad llywodraeth y DU