Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwastraff ac ailgylchu: canllaw cyflym

Gellir ailgylchu bron dwy ran o dair o sbwriel y cartref. Mae hyn yn arbed ynni a deunyddiau crai ac yn lleihau faint o wastraff a gaiff ei anfon i safleoedd tirlenwi. Gallwch hefyd helpu i leihau gwastraff yn y cartref drwy wneud compost a drwy atgyweirio eitemau a'u hailddefnyddio.

Lleihau gwastraff

Gall ailgylchu helpu i arbed deunyddiau ac arbed ynni, ond gorau oll os gallwch leihau gwastraff bwyd a gwastraff y cartref yn y lle cyntaf. Pan fyddwch yn siopa gallwch ddewis eitemau sydd â llai o becynnu a mynd â'ch bagiau siopa eich hun. Gallwch hefyd geisio prynu cynnyrch y gallwch eu hailddefnyddio yn hytrach nag eitemau sy'n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith.

Ailddefnyddio ac atgyweirio

Golyga atgyweirio neu ailddefnyddio eitemau y byddant yn para'n hirach ac na fydd angen cael eitemau newydd yn eu lle mor fuan. Hyd yn oed ar ôl i chi orffen gyda rhywbeth, yn aml iawn, bydd rhywun arall yn gallu ei ddefnyddio.

Beth am ei werthu, ei roi i elusen neu ei roi i rywun arall drwy gynlluniau megis Freecycle neu Systemau Masnachu Cyfnewid Lleol (LETS)?

Ailgylchu

Os nad ydych chi eisoes wedi dechrau ailgylchu, yma cewch wybod sut i ailgylchu eich gwastraff.

Beth y gellir ei ailgylchu a sut

Dywed saith o bob deg unigolyn yn y DU eu bod yn ailgylchu

Gall teulu nodweddiadol ddyblu neu hyd yn oed dreblu faint maen nhw'n ei ailgylchu.

Mae'r rhan fwyaf o gynghorau'n casglu papur, gwydr, plastig a chardfwrdd oddi ar garreg y drws. Gall safleoedd mwynder dinesig lleol (eich tomen sbwriel leol) hefyd dderbyn nifer o eitemau eraill i'w hailgylchu.

Gellir ailgylchu popeth – o bren, esgidiau, tecstilau a setiau teledu i offer trydanol, bylbiau golau, oergelloedd a rhewgelloedd. Gellir ailgylchu dodrefn bach o bryd i'w gilydd.

Holwch eich cyngor lleol i ganfod beth y gellir ei ailgylchu yn eich ardal chi.

Compostio gwastraff gardd a gwastraff bwyd

Gellir troi dros draean o sbwriel eich cartref yn gompost, gan gynnwys gwastraff bwyd a gwastraff gardd. Os caiff ei anfon i safle tirlenwi, bydd gwastraff organig yn cynhyrchu methan sy'n effeithio'n sylweddol ar newid yn yr hinsawdd. Mae compostio gwastraff fel bagiau te, croen llysiau, papur wedi'i ddarnio a bocsys wyau yn lleihau'r effeithiau hyn ar newid yn yr hinsawdd ac yn arbed lle gwerthfawr mewn safleoedd tirlenwi.

Mae'n hawdd gwneud compost, ac mae'n ffynhonnell faeth naturiol a ffrwythlon i'ch gardd. Mae nifer o Gynghorau yn darparu biniau compost am bris gostyngol, felly cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal.

Cael gwared ar wastraff peryglus yn ddiogel

Mae rhai eitemau yn cynnwys deunydd peryglus ac mae angen cael gwared arnynt yn ofalus er mwyn osgoi problemau amgylcheddol megis llygredd dŵr. Er enghraifft, mae angen cael gwared ar baent, batris, offer trydanol ac olew mewn cyfleuster priodol.

Prynu cynnyrch wedi'i ailgylchu

Mae cynnyrch a wneir o nwyddau wedi'u hailgylchu'n arbed deunyddiau crai ac yn cynyddu'r galw am ddeunyddiau wedi'u hailgylchu. Yn ogystal â chynnyrch papur, gallwch brynu eitemau cartref a ffasiwn wedi'u hailgylchu megis bagiau ysgwydd, hambyrddau plastig, casys pensiliau a ffoil alwminiwm.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU