Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae deunydd pacio ar hyn o bryd yn cyfrannu tua 18 i 20 y cant at wastraff eich cartref. Gall lleihau faint o ddeunydd pacio rydych yn ei ddefnyddio - ac ailgylchu mwy - helpu i leihau eich sbwriel a lleihau'r difrod i'r amgylchedd. Mae'n bosib y gall dewis cynnyrch a chanddo lai o ddeunydd pacio arbed arian i chi hyd yn oed.
Mae llawer o ffyrdd y gallwch ddefnyddio llai o ddeunydd pacio, er enghraifft:
Mae defnyddio bag am oes ('bag for life') yn hytrach na bagiau siopa a ddefnyddir unwaith yn un o'r ffyrdd hawsaf o osgoi gormod o ddeunydd pacio. Mae tua 45 y cant o siopwyr yn honni iddynt brynu bag am oes ond dim ond 12 y cant sy'n eu defnyddio'n rheolaidd - felly cadwch eich bagiau y gallwch eu hailddefnyddio gyda'ch rhestr siopa er mwyn ei gwneud yn haws eu cofio.
Gallech hefyd ystyried bag siopa cywasgedig iawn y gellir ei ailddefnyddio. Mae'r rhain yn plygu'n fach iawn, sy'n eu gwneud yn gyfleus i'w cario o gwmpas gyda chi.
Os ydych yn defnyddio bagiau plastig, prynwch declyn i'w dal ar gyfer eich cegin fel y gallwch eu hailddefnyddio - er enghraifft, ar gyfer eu rhoi mewn biniau.
Mae llawer o ddeunydd pacio'n angenrheidiol ar gyfer trosglwyddo nwyddau heb eu difrodi, er mwyn eu cadw'n ddiogel neu eu gwneud yn hawdd eu defnyddio. Gall hefyd ymestyn bywyd silff rhai ffrwythau a llysiau. Ni ellir ail-selio ciwcymerau nad ydynt wedi'u gorchuddio ar ôl tri diwrnod, ond mae defnyddio ychydig llai na 2 gram o ddeunydd pacio'n eu cadw'n ffres am hyd at 14 o ddiwrnodau.
Gallwch helpu i amddiffyn yr amgylchedd drwy gael gwared ar ddeunydd pacio na ellir ei osgoi'n ofalus. Erbyn hyn, ceir gwybodaeth ar becynnau llawer o gynhyrchion sut i ailddefnyddio, ailgylchu neu gael gwared ar ddeunydd pacio.
Ailddefnyddio
Mae llawer o ffyrdd o ailddefnyddio deunydd pacio. Ystyriwch brynu pecynnau ail-lenwi fel nad oes yn rhaid i chi daflu hen gynhwysyddion. Gallech brynu wyau rhydd a defnyddio hen gartonau i'w cario adref. Gellir defnyddio deunydd pacio i wneud pethau newydd hefyd, fel celf a chrefft i blant neu ar gyfer storio pethau. I gael rhagor o awgrymiadau, cliciwch ar y ddolen isod.
Ailgylchu
Cafodd bron i 60 y cant o'r deunydd pacio a ddefnyddiwyd yn y DU ei ailgylchu yn 2006 - cynnydd o 27 y cant o'i gymharu â 1998. Fodd bynnag, gellir gwneud mwy; gallwch ailgylchu llawer o'ch deunydd pacio drwy gasgliadau gwastraff eich awdurdod lleol a chyfleusterau eich banciau cymunedol.
I gael rhagor o fanylion am hyn, ewch i'n hadran ailgylchu.
Mae deunydd pacio'n costio i wneuthurwyr ac i fanwerthwyr, ac mae llawer o gwmnïau'n gweithio gyda'r llywodraeth i leihau deunydd pacio. Mae rhai o'r atebion yn cynnwys gwneud deunydd pacio'n ysgafnach (megis poteli, caniau a blychau), sicrhau bod mwy o bobl yn defnyddio systemau ail-lenwi a hunanwaredu, a chynlluniau pecynnu gwell. Mae llawer o wneuthurwyr hefyd yn cynyddu faint o gynnwys wedi'i ailgylchu a ddefnyddir yn eu deunydd pacio.
Er 1998, mae cwmnïau sy'n defnyddio deunydd pacio wedi gwario dros £800m ar gynyddu faint o ddeunydd pacio a gaiff ei ailgylchu.
Hefyd, mae siopau ac archfarchnadoedd wedi cytuno i leihau effaith amgylcheddol bagiau siopa a ddefnyddir unwaith (rhai papur a rhai plastig) o 25 y cant erbyn diwedd 2008. Golyga hyn y caiff 3.25 biliwn yn llai o fagiau eu defnyddio a bydd yn arbed yr hyn sy'n cyfateb i 58,500 tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn.
Mae cyfraith yn y DU yn erbyn gormod o ddeunydd pacio a gaiff ei orfodi gan Safonau Masnach.
Os credwch fod gan rywbeth ormod o ddeunydd pacio a'ch bod am gwyno, gallwch: