Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Bwyd a diod: dewisiadau mwy gwyrdd

Mae bwyd yn achosi bron i draean yr effaith y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei gael ar y newid yn yr hinsawdd. Mae hefyd yn ychwanegu at broblemau amgylcheddol eraill, megis llygredd dŵr. Gallwch helpu drwy leihau gwastraff, dewis bwyd sy’n cael llai o effaith ar y newid yn yr hinsawdd a dewis bwyd môr cynaliadwy.

Gwastraffu llai o fwyd

Bwyd a diod sy’n cael eu gwastraffu

Teflir gwerth £12 biliwn y flwyddyn o fwyd a diod a allai fod wedi cael eu defnyddio

Mae teulu cyffredin yn y DU yn gwario tua £480 y flwyddyn ar fwyd a diod a allai fod wedi cael eu defnyddio ond sy'n cael eu taflu. Nid yw gwastraffu bwyd ddim ond yn costio arian i chi, mae hefyd yn gwastraffu'r ynni a'r adnoddau sydd ar y bwyd ei angen i'w gynhyrchu, ei becynnu, ei storio a'i gludo.

Byddai cwtogi ar wastraff bwyd o fudd i'r amgylchedd. Os byddai pawb yn peidio â gwastraffu bwyd a allai gael ei fwyta, byddai’n lleihau cymaint ar ollyngiadau CO2 ag y byddai cymryd un car o bob pedwar oddi ar ffyrdd y DU.

Ewch i ymweld â gwefan ‘Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff’ am ryseitiau ac awgrymiadau ymarferol i’ch helpu chi i wastraffu llai o fwyd.

Dewis bwydydd sy’n garedig tuag at yr hinsawdd

Gall yr awgrymiadau canlynol eich helpu i ddewis bwydydd sydd ag ôl troed carbon llai:

  • mae cig a chynnyrch llaeth yn cael effaith llawer mwy ar y newid yn yr hinsawdd na’r rhan fwyaf o rawnfwyd, corbys, ffrwythau a llysiau
  • gall prynu bwydydd ffres sydd heb eu prosesu olygu llai o allyriadau carbon, gan fod prosesu bwyd a’i rewi neu ei oeri yn defnyddio llawer o ynni
  • gall prynu bwydydd tymhorol sydd wedi eu tyfu yn yr awyr agored helpu i leihau allyriadau CO2, gan nad oes angen tai gwydr wedi'u gwresogi ar y bwydydd.

Cludo bwyd

Nid oes gan fwyd sy’n teithio’n bell ôl troed carbon fawr o angenrheidrwydd. Gall bwyd a gludwyd o bell ar gwch (megis bananas neu afalau), neu fwyd a fewnforiwyd pan oedd yn dymhorol dramor, fod ag ôl troed llai na:

  • bwyd a gynhyrchiwyd yn nes at adref mewn tai gwydr wedi'u gwresogi
  • bwyd y mae angen ei rewi neu ei oeri, yn enwedig am gyfnodau hir

Fodd bynnag, lle mae bwydydd wedi cael eu cynhyrchu eu storio a’u cludo mewn ffyrdd tebyg, gallai dewis bwyd nad ydyw wedi teithio mor bell leihau allyriadau CO2.

A all bwyta’n iach helpu’r amgylchedd?

Byddai diet gyda llai o fraster dirlawn a mwy o ffrwythau a llysiau yn ddewis iach i lawer o bobl. Gallai hefyd fod yn ddewis mwy gwyrdd os byddech yn torri lawr ar fraster dirlawn drwy leihau’r gyfran o gynnyrch cig a llaeth rydych chi’n ei fwyta.

Prynu pysgod cynaliadwy

Mae logo’r Cyngor Stiwardiaeth Forol yn dangos nad yw cynnyrch bwyd môr wedi cyfrannu at orbysgota

Mae tri chwarter y pysgodfeydd morol gwyllt ledled y byd wedi'u defnyddio'n llwyr neu wedi'u gorddefnyddio. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod nifer o bysgodfeydd masnachol y byd yn debygol o fethu mewn llai na 50 mlynedd oni bai i orbysgota gael ei rwystro.

Gallwch chi helpu drwy brynu bwyd môr sydd wedi cael ei gynhyrchu’n gynaliadwy – mae 'labeli bwyd’ yn esbonio’n union beth yw ystyr hyn. Gallwch ddod o hyd i fwyd môr cynaliadwy mewn siopau a bwytai drwy wneud y canlynol:

  • dilyn y dolenni isod, sy’n rhoi cyngor ynghylch pa fwyd môr y dylech ei ddewis
  • edrych am labeli sy’n dangos bod bwyd môr wedi dod o ffynhonnell gynaliadwy, megis logo’r Cyngor Stiwardiaeth Forol
  • gofyn i’ch adwerthwr neu i berchennog eich bwyty a oes ganddynt ddewisiadau bwyd môr cynaliadwy

Dewis bwydydd sy’n garedig tuag at fywyd gwyllt a’r amgylchedd

Mae rhai bwydydd wedi eu gwneud mewn ffyrdd sy’n fwy caredig tuag at fywyd gwyllt, er enghraifft, heb ddefnyddio plaleiddiaid. Mae bwydydd eraill yn cefnogi cefn gwlad a chymunedau lleol, er enghraifft, drwy greu swyddi lleol. Gallwch ddod o hyd i’r rhain drwy wneud y canlynol:

  • chwilio am labeli megis LEAF, organig a’r Cyngor Stiwardiaeth Forol
  • dewis adwerthwyr sy’n ceisio cynnig bwydydd mwy gwyrdd

Os na allwch chi ddod o hyd i ddewisiadau mwy gwyrdd, gallech ofyn i’ch siopau lleol ddechrau eu cynnig. Gall dangos diddordeb annog adwerthwyr i wneud mwy.

Prynu gan gynhyrchwyr

Golyga prynu yn uniongyrchol, er enghraifft o farchnad ffermwyr, y gallwch holi cynhyrchwr ynghylch sut mae ei fwyd yn cael ei gynhyrchu. Ceisiwch chwilio am fwyd:

  • gan ffermwyr sy’n rhoi blaenoriaeth uchel i ofalu am fywyd gwyllt ar eu ffermydd
  • sydd wedi’i gynhyrchu mewn ffordd sy’n helpu i warchod tirweddau gwledig, megis tir pori uchel i ddefaid neu wartheg

Ffyrdd eraill o ddewis bwydydd mwy gwyrdd

Dyma rai o'r pethau eraill y gallwch eu gwneud:

Lleihau teithiau car ar gyfer siopa bwyd

Mae 13 y cant o’r allyriadau carbon sy’n dod o drawsgludo bwyd yn cael ei achosi gan unigolion yn gyrru i’r siopau. Byddai lleihau teithiau car ar gyfer siopa yn helpu i leihau allyriadau carbon, tagfeydd a llygredd aer lleol.

Compostio gwastraff bwyd

Mae mwy na thraean o sbwriel y cartref yn wastraff o'r gegin neu'r ardd. Mae’r rhan fwyaf ohono’n cyrraedd safleoedd tirlenwi, lle mae’n rhyddhau methan – nwy sy’n cael effaith fawr ar y newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, pan gaiff y gwastraff hwn ei gompostio, nid yw’n rhyddhau methan.

Yfed dŵr tap

Mae dŵr yfed o brif gyflenwad y DU yn bodloni safonau uchel iawn. Mae’n defnyddio tua 300 gwaith yn llai o egni na dŵr mewn poteli ac nid yw’n gadael poteli fel gwastraff.

Lleihau gwastraff pecynnu

Gall pecynnu helpu i gadw bwyd – ond mae’n defnyddio adnoddau ac yn niweidio bywyd gwyllt. Mae gan ‘Dewisiadau pecynnu mwy gwyrdd' syniadau ynghylch sut y gallwch chi leihau gwastraff pecynnu.

Storio a choginio bwyd yn effeithlon

Gall dadrewi eich oergell yn aml a rhoi caeadau ar sosbenni wrth goginio arbed ynni. Mae gan ‘Awgrymiadau ar arbed ynni’ fwy o gyngor ynghylch ffyrdd y gallwch chi arbed ynni yn y gegin.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU