Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

DIY mwy gwyrdd

Gwerir dros £14 biliwn bob blwyddyn yn y DU ar bren, paent, farneisiau a deunyddiau eraill ar gyfer prosiectau DIY yn y cartref. Gallwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r effaith a gewch ar yr amgylchedd trwy ail-ddefnyddio deunyddiau, prynu coed cynaliadwy a phaent mwy gwyrdd a dewis eich prosiectau'n ofalus.

Dewiswch brosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth i'r amgylchedd

Gall llawer o brosiectau DIY helpu i arbed ynni a dŵr yn ogystal â gwneud eich cartref yn fwy cyfforddus.

Dyma rai syniadau:

  • inswleiddio'ch cartref - collir bron i hanner y gwres mewn cartref cyffredin drwy’r atig a’r waliau
  • bydd inswleiddio'r atig yn helpu i gadw'ch cartref yn gynnes am fwy o amser a gellir ei osod mewn ychydig o oriau
  • inswleiddio eich tanc dŵr poeth - bydd cadw gwres yn helpu i arbed ynni ac yn lleihau eich biliau
  • trwsio dripiau – gall tap sy'n diferu neu'n gorlifo wastraffu llawer o ddŵr (mae dim ond dau ddiferyn yr eiliad yn gwastraffu tua 26 litr o ddŵr mewn diwrnod), ond dim ond rhai ceiniogau y bydd wasier newydd yn ei gostio, a gellir ei osod mewn munudau
  • gosod awyrydd neu ffitiadau chwistrell ar eich tapiau basn - gall cymysgu'r aer leihau hyd at 50 y cant o'r dŵr a ddefnyddiwch

Meddyliwch ddwywaith am brosiectau sy'n defnyddio ynni

Bydd rhai prosiectau DIY yn cynyddu eich defnydd o ynni yn sylweddol, gan gynyddu'ch biliau tanwydd a'ch cyfraniad at newid yn yr hinsawdd. Os yw'n bosib:

  • ceisiwch osgoi gosod gwresogyddion yn eich ystafell haul - anaml yr insiwleiddir ystafelloedd haul yn ogystal â gweddill y tŷ, bydd llawer o'r gwres yn dianc drwy'r gwydr
  • ystyriwch ddefnyddio ynni'r haul ar gyfer nodweddion dŵr a goleuadau yn eich gardd

Mae cyfarpar gweithgynhyrchu yn defnyddio ynni ac adnoddau, ond prin iawn y caiff llawer eu defnyddio. Defnyddir dril cyffredin am lai na 15 munud drwy ei oes. Ystyriwch fenthyg neu logi cyfarpar yn hytrach na phrynu.

Defnyddiwch ddeunyddiau mwy gwyrdd

Gall y deunyddiau a'r gorffeniadau a ddewiswch ar gyfer prosiectau DIY gael effaith ar yr amgylchedd. Nid yw deunyddiau amgylchedd-gyfeillgar o reidrwydd yn costio mwy ac mae llawer ohonynt ar gael yn rhwydd:

  • ceisiwch ddefnyddio pren a adferwyd – mae hyn yn arbed ynni ac adnoddau
  • prynwch bren a ardystiwyd – amcangyfrifir bod o leiaf chwarter y pren sy'n cyrraedd y DU wedi'i gynhyrchu'n anghyfreithlon
  • gellir dod o hyd i bren cynaliadwy a chynhyrchion pren cynaliadwy eraill drwy edrych am labeli gan Gyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC), Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC) neu gynlluniau ardystio coedwigaeth eraill - gofynnwch i'ch adwerthwr am gynlluniau ardystio.

Dewiswch baent, gorffeniadau a deunydd cadw pren sy'n fwy amgylchedd-gyfeillgar

Mae'r rhan fwyaf o baent yn cynnwys cyfansoddion organig anweddol (VOCs), a all fod yn niweidiol i bobl, bywyd gwyllt, planhigion a hyd yn oed deunyddiau adeiladau. Wrth ddewis paent, gorffeniad neu ddeunydd cadw ar gyfer y gwaith yr ydych yn ei wneud, ceisiwch ddod o hyn i'r un â'r effaith lleiaf posib

  • ceir label ar sawl math o baent yn dangos cynnwys VOC - dewiswch y cynnyrch sydd â'r lleiaf o VOC
  • edrychwch a oes rhybudd perygl ar y label - os yw'r dewis gennych, dewiswch gynnyrch heb rybudd perygl
  • gall paent 'naturiol' neu 'naturiol i gyd', paent llaeth a gwyngalch fod â llai o effaith na phaent arferol
  • ceisiwch beidio â phrynu mwy o baent na sydd angen - ni chaiff llawer o baent y bydd pobl yn ei brynu byth ei ddefnyddio
  • chwiliwch am yr Ecolabel Ewropeaidd ar gyfer paent sydd ar gyfer y tŷ, sy'n dangos nad ydynt yn cynnwys plwm, mercwri na deunyddiau trwm eraill ac y cânt eu cynhyrchu o allyriadau toddyddion wedi'u gostwng a sgil-gynhyrchion gwastraff.

Gwaredu paent, gorffeniadau a deunydd cadw pren

Mae angen gwaredu paent, gorffeniadau a deunydd cadw pren yn briodol gan y gallant fod yn wenwynig. Mae hyn arbennig o bwysig os ydynt yn arddangos label perygl oren. Er mwyn gwaredu'n ddiogel, dylech:

  • ddarllen y label bob tro
  • peidio â thywallt paent na chemegau eraill i'r draen
  • os tywalltir paent i ddraeniau neu os caiff ei waredu yng ngwastraff cartref cyffredin, gall y cemegau peryglus fynd i'r amgylchedd - cysylltwch â'ch cyngor lleol am arweiniad ar waredu
  • fel arfer, gallwch fynd â phaent i'ch safle amwynder dinesig lleol, ond bydd rhai cynghorau yn ei gasglu
  • efallai y gallwch roddi paent diangen i Community Repaint - sef rhwydwaith o brosiectau ledled y DU sy'n dosbarthu paent diangen i elusennau, prosiectau cymunedol a phobl sy'n byw ar incwm isel

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Y mater ehangach

Cynhyrchir dros chwarter y pren sydd ar gael yn y DU yn anghyfreithlon. Mae torri coed yn anghyfreithlon ac arferion coedwigaeth anghynaladwy yn dinistrio cynefinoedd naturiol ac yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Mae coed yn amsugno carbon deuocsid, felly os na phlennir rhai newydd yn lle'r rhai a dorrwyd bydd mwy o garbon deuocsid yn yr atmosffer, a bydd hynny'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

Mae cynnyrch DIY eraill yn cynnwys cemegau gwenwynig a all fod yn beryglus a chreu llygredd mawr os na chânt eu defnyddio a'u gwaredu'n briodol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU