Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall dewis ble'r ydych chi'n byw achosi nifer o ganlyniadau amgylcheddol. Er enghraifft, mae eich lleoliad yn pennu pa mor bell y byddwch yn teithio i'r gwaith, siopau ac ysgolion. Yn aml, bydd symud tŷ yn golygu prynu offer newydd a gwneud newidiadau i'ch eiddo, felly mae'n amser da i feddwl am sut y gallwch arbed ynni a dŵr.
Mae ceir preifat yn cynhyrchu tua 13 y cant o ollyngiadau carbon y DU. Wrth chwilio am gartref newydd, bydd meddwl am sut y gallwch leihau'r pellter y bydd angen i chi ei deithio mewn car yn helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd. Gall cysylltiadau trafnidiaeth lleol da eich helpu i leihau teithiau mewn car.
Defnyddir y rhan fwyaf o'r ynni yn eich cartref ar gyfer gwresogi a dŵr poeth. Bydd dewis adeilad ynni-effeithlon, neu wella ei effeithlonrwydd ynni wrth symud i mewn, yn lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd a gall arbed llawer o arian i chi, yn enwedig os arhoswch yno am amser hir.
Graddfa ynni ar gyfer cartrefi newydd
Os ydych chi'n prynu eiddo a adeiladwyd ers 2002, gallech ofyn i'r gwerthwr am 'radd SAP' yr adeilad (gradd Gweithdrefn Asesu Safonol). Mae'r radd SAP yn seiliedig ar y costau ynni sy'n gysylltiedig â gwresogi ystafelloedd, gwresogi dŵr, awyru a goleuo. Mae'r SAP ar raddfa o 1 i 100. Po fwyaf yw'r rhif, y mwyaf effeithlon ydyw o ran ynni a'r isaf fydd eich costau rhedeg
Inswleiddio
Wrth edrych ar dai, gofynnwch a oes inswleiddio yn y waliau a'r atig, a darganfyddwch pa mor hen yw'r boeler. Os yw'r boeler dros 10-15 mlwydd oed, mae'n annhebygol y bydd yn effeithlon iawn. Gallai ei ddisodli arbed traean i chi ar eich biliau ynni.
Rheolyddion gwresogi
Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i le, sicrhewch fod y preswylwyr blaenorol yn dangos i chi sut i weithio'r rheolyddion gwresogi, neu'n rhoi'r llawlyfr i chi. Peidiwch ag anghofio gwneud yr un peth i'r bobl sy'n symud i'ch hen gartref chi.
Archwiliad ynni cartref
Ar ôl i chi symud i mewn, gallwch gael cyngor am sut y gallech arbed ynni drwy wneud archwiliad ynni cartref ar-lein yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.
Yn aml, mae symud tŷ yn amser i brynu offer neu ddodrefn newydd, a gall fod yn amser da i newid arferion, er enghraifft, drwy ddechrau defnyddio bylbiau golau ynni-effeithlon. Dyma rai syniadau eraill:
Pan symudwch i'ch tŷ newydd, efallai bod rhai pethau y gallwch eu gwneud i helpu i arbed dŵr. Er enghraifft, prynu offer dŵr-effeithlon, trwsio tapiau sy'n gollwng neu gael casgen ddŵr i'r ardd.
Os ydych chi'n lwcus, efallai eich bod wedi etifeddu rhai nodweddion bywyd gwyllt os oes gennych ardd newydd, megis pwll neu flychau adar. Ond mae'n debygol bod pethau eraill y gallech eu gwneud i annog bywyd gwyllt, fel gosod teclynnau bwydo, neu ddewis planhigion a fydd yn denu amrywiaeth o bryfed ac anifeiliaid.
Os nad oes gennych un eisoes, ystyriwch gael bin compost i ailgylchu gwastraff eich gardd a'ch cegin.
Wedi i chi symud i mewn, ar ôl gorffen dadbacio, peidiwch ag anghofio ailgylchu'r holl gardfwrdd a deunydd pecynnu. Mae gan y rhan fwyaf o dai bellach wasanaeth ailgylchu ar garreg y drws, neu gallwch fynd â phethau i'w hailgylchu i'ch safle amwynder lleol.
Gall dewis cartref achosi nifer o ganlyniadau amgylcheddol. Er enghraifft, mae eich lleoliad yn pennu pa mor bell y bydd angen i chi deithio i'r gwaith, siopau ac ysgolion.
Mae symud tŷ yn tueddu i fod yn amser i brynu offer newydd a gwneud newidiadau i'ch eiddo, felly mae'n amser da i feddwl am sut y gallwch arbed ynni a dŵr. Mae'r ynni a ddefnyddir yn ein cartrefi'n gyfrifol am dros chwarter gollyngiadau carbon deuocsid y DU, sef y prif nwy tŷ gwydr sy'n achosi newid yn yr hinsawdd.