Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Bod yn wyrdd yn y gweithle

Nid yn y cartref yn unig y gellir byw'n wyrdd. Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud tra'ch bod yn eich gwaith i helpu'r amgylchedd a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Efallai y gallwch ennyn diddordeb eich cyflogwr neu'ch undeb llafur hefyd.

Beth y gall gweithwyr ei wneud

Dyma rai pethau y gallwch chi, fel gweithiwr, ei wneud:

Teithio

Gall newid y ffordd y byddwch yn teithio i'r gwaith leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd a llygredd aer yn lleol. Dyma rai pethau i'w hystyried:

  • gallech gerdded, seiclo neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus i fynd i'r gwaith
  • os allwch chi, defnyddiwch gyfleusterau tele-gynadledda a fideo-gynadledda yn hytrach na theithio i gyfarfodydd
  • os byddwch yn hedfan mewn awyren i gyfarfodydd busnes, ystyriwch a allech ddefnyddio dulliau eraill o deithio. Os nad yw hynny'n bosib, beth am wneud iawn am y carbon a fydd yn cael ei ollwng yn ystod y daith drwy roi arian tuag at brosiect sy'n helpu i leihau gollyngiadau carbon, a chynorthwyo i gydbwyso'r effaith y bydd ein teithiau mewn awyrennau yn ei chael ar yr amgylchedd
  • archwiliwch y posibilrwydd gyda'ch rheolwr o weithio oddi cartref
  • rhannwch gar yn hytrach na gyrru ar eich pen eich hun
  • anogwch eich cyflogwr i drefnu bod man cadw beiciau diogel ar gael yn y gweithle, ynghyd â chyfleusterau i gael cawod

Lleihau gwastraff

Gallwch helpu i leihau effaith busnes ar yr amgylchedd drwy ymdrin yn gyfrifol â'r gwastraff y byddwch yn ei greu yn eich gwaith. Er enghraifft:

  • anogwch ailgylchu yn y gweithle - sicrhewch fod biniau ailgylchu papur gerllaw'r desgiau neu'r peiriannau argraffu
  • gofynnwch i'ch cyflogwr am finiau ailgylchu ar wahân ar gyfer gwydr, papur a deunyddiau plastig
  • anogwch eich cyflogwr i brynu papur swyddfa sydd â'r rhan helaeth ohono wedi'i ailgylchu
  • os yw'n ddiogel i chi wneud hynny, diffoddwch bob darn o offer trydanol dros nos neu pan na fydd yn cael ei ddefnyddio - yn enwedig monitorau cyfrifiaduron ac offer eraill sy'n cael eu gadael yn y modd segur
  • diffoddwch oleuadau nad ydynt yn cael eu defnyddio
  • lleihewch feintiau dogfennau ac argraffwch ar y ddwy ochr i'r papur er mwyn ei arbed
  • ychwanegwch y slogan 'Meddyliwch cyn argraffu' ar ddiwedd eich negeseuon e-bost

Bwyd a diod

Mae bwyd yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd, ond gallai'r camau canlynol helpu:

  • anogwch eich arlwywyr i gyflenwi bwyd ffres, tymhorol, Masnach Deg, neu a gynhyrchwyd gyda pharch tuag at fyd natur a'r amgylchedd
  • ewch â mwg neu wydr gyda chi i'r gwaith a'i ddefnyddio yn lle cwpanau taflu-i-ffwrdd
  • defnyddiwch fin compost ar gyfer gwastraff cegin, neu trefnwch iddo gael ei gasglu

Beth y gall cyflogwyr ei wneud

Ceir sefydliadau a chynlluniau sy'n gweithio gyda chyflogwyr i annog eu staff i fod yn fwy gwyrdd. Dyma rai syniadau:

Teithio

  • os yw'ch cwmni'n berchen ar fflyd o gerbydau efallai y byddwch yn gallu cofrestru ar gyfer ymgynghoriad fflyd am ddim gyda'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
  • sefydlwch gynllun teithio busnes er mwyn helpu i leihau'r defnydd a wneir o geir, ac i leihau'r angen am deithio i'r gweithle
  • gwnewch gais am fenthyciad eithrio treth Seiclo i'r Gwaith, sydd ar gael i fusnesau ar gyfer beiciau ac offer seiclo perthnasol, er mwyn annog gweithwyr i seiclo i'r gwaith
  • darparwch a hyrwyddwch gynllun paru a rhannu car, a rhoi blaenoriaeth lle parcio i'r rhai sy'n rhannu ceir

Arbed ynni a thestunau eraill

Dyma rai syniadau i'w hystyried:

  • ceisiwch gyngor am ddim gan yr Ymddiriedolaeth Garbon ynghylch sut y gall eich busnes arbed ynni ac arian - efallai y bydd modd i'ch busnes elwa ar fenthyciadau di-dreth neu ostyngiad treth ar gynnyrch penodol sy'n defnyddio ynni yn fwy effeithiol
  • gofynnwch i Envirowise am gyngor ynghylch lleihau gwastraff
  • rhowch system reoli amgylcheddol ar waith - arf ymarferol sy'n helpu busnesau i fod yn fwy effeithlon, i arbed arian ac i leihau'r effaith y byddant yn ei chael ar yr amgylchedd
  • sefydlwch Eco-Dîm yn y gwaith: Bydd Eco-Dimau yn annog gweithwyr i weithio gyda'i gilydd i gymryd camau bychain tuag at wneud eu ffordd o fyw yn fwy gwyrdd (y Cynllun Gweithredu Byd-eang fydd yn darparu'r strwythur ar gyfer cynnal Eco-Dimau yn y gwaith - codir tâl am y gwasanaeth hwn)

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU