Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymunedau: ffyrdd o fod yn fwy gwyrdd

Gall grwpiau cymunedol, clybiau, cymdeithasau neu gynghorau plwyf weithredu gyda’i gilydd er lles yr amgylchedd. Gallwch chi fod yn rhan o’r penderfyniadau a wneir ynghylch eich ardal leol. Gallwch chi hefyd wneud eich cyfarfodydd yn fwy caredig tuag at yr amgylchedd drwy wneud dewisiadau mwy gwyrdd ar gyfer bwyd, diod a theithio.

1. Dweud eich dweud – cynllunio, tai a'ch amgylchedd lleol

Gall bod yn aelod o grŵp cymunedol fod yn ffordd wych o fod yn rhan o’r penderfyniadau a wneir ynghylch yr ardal rydych chi’n byw ynddi. Gallai eich grŵp gael dweud ei ddweud am ddatblygiadau newydd megis safleoedd diwydiannol, ffyrdd neu fannau agored newydd.

Strategaethau Cymunedau Cynaliadwy

Cynlluniau a ddatblygir yn lleol mewn partneriaeth â mudiadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yw Strategaethau Cymunedau Cynaliadwy. Mae cynlluniau yn cynnwys nodau a chamau gweithredu ar gyfer eich ardal leol. Fel sefydliad cymunedol, gallwch chi fod yn rhan o hyn.

Cynlluniau Plwyf

Bydd Cynlluniau Plwyf yn ymdrin â materion cymdeithasol, economaidd, ac amgylcheddol sy'n berthnasol i'ch ardal leol. Fel grŵp cymunedol, bydd gennych gyfle i ddylanwadu ar eich Cynllun Plwyf lleol ac i ddylanwadu ar sut y rheolir eich ardal leol a’i gwasanaethau. Gallwch hefyd fod yn rhan o ymgynghoriadau ynghylch datblygiadau lleol.

2. Gwneud eich cymuned yn gynaliadwy

Lle rydych chi am fyw a gweithio ynddo, yn awr ac yn y dyfodol, yw cymuned gynaliadwy. Mae’n ffordd newydd o adeiladu cartrefi ac mae’n cynnwys creu tai fforddiadwy a chymdeithasol, adfer strydoedd a gwella mannau cyhoeddus.

Cefnogi canol eich tref

Byddai defnyddio siopau a busnesau ar eich stryd fawr chi yn helpu i gadw canol trefi yn ddiogel ac yn fywiog, yn enwedig fin nos. Gall gormod o ganolfannau siopa y tu allan i drefi wneud i’r stryd fawr deimlo’n wag a thlodaidd.

Bod yn falch o’ch meysydd glas

Byddai meysydd glas o safon uchel yn helpu’ch cymuned i gyd-dynnu’n well drwy ddarparu:

  • lle diogel ac iach sydd yn hawdd cyrraedd ato y gall pobl leol ei rannu
  • lle ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau awyr agored eraill
  • lle i bobl leol allu gweithio ar eu sgiliau

Os ydych chi’n falch o’ch meysydd glas lleol gallwch ofyn i’ch cyngor geisio am wobr y Faner Werdd. Dyma’r safon ansawdd genedlaethol ar gyfer parciau a meysydd glas. Os ydych chi’n rheoli maes glas eich hun, gallech edrych i weld a ydych chi’n gymwys ar gyfer gwobr.

3. Gwneud cyfarfodydd eich grŵp yn fwy gwyrdd

Os ydych yn rhan o grŵp, gallwch wneud pethau ar raddfa fwy

Gall pawb gymryd camau syml i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd – megis ailgylchu mwy, arbed ynni neu gwtogi ar eu defnydd o gar. Os ydych yn rhan o grŵp, gallwch wneud pethau ar raddfa fwy, a chael mwy o ddylanwad.

Byddai cymryd camau i leihau effaith eich grŵp ar yr amgylchedd hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth am faterion amgylcheddol. Gallech geisio lledaenu’r neges hon ymysg eich cymuned a’ch cyngor lleol, i gyflawni newidiadau amgylcheddol ar raddfa fwy.

Gallwch wneud nifer o bethau er mwyn gwneud eich clwb neu eich grŵp cymunedol yn fwy gwyrdd.

Dewis bwyd a diod mwy gwyrdd

Mae bwyd yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd, ond gallai'r camau canlynol helpu:

  • anogwch eich grŵp neu'ch clwb i gyflenwi bwyd ffres, tymhorol, Masnach Deg, neu a gynhyrchwyd gyda pharch tuag at fyd natur a'r amgylchedd
  • defnyddiwch gwpanau neu wydrau yn hytrach na chwpanau y gellir eu taflu
  • defnyddiwch fin compost ar gyfer gwastraff cegin, neu trefnwch iddo gael ei gasglu
  • dylech annog ailgylchu gwastraff fel papur a phlastig
  • tyfwch eich bwyd eich hun gyda'ch gilydd mewn gardd gymunedol

4. Cael gwybod am gynlluniau a allai eich helpu chi

Mae’r cynllun Mae Pob Gweithred yn Cyfri yn helpu grwpiau i weithredu er lles yr amgylchedd

Ceir nifer o gynlluniau sy’n bodoli er mwyn rhoi cymorth i grwpiau cymunedol:

Mae Pob Gweithred yn Cyfri

Mae’r cynllun Mae Pob Gweithred yn Cyfri (Every Action Counts) yn cynnig cymorth i grwpiau cymunedol a chlybiau, gan eich helpu i weithredu er lles yr amgylchedd. Ar wefan Mae Pob Gweithred yn Cyfri, fe welwch y rhain:

  • syniadau, gemau a gweithgareddau ar themâu sy’n cynnwys teithio, arbed adnoddau a siopa’n foesegol
  • gwybodaeth am Hyrwyddwyr Cymunedol Mae Pob Gweithred yn Cyfri yn eich ardal chi a allai helpu'ch grŵp
  • astudiaethau achos ymarferol a lle i'ch grŵp gyflwyno ei stori ei hun sy'n dangos ei lwyddiant wrth weithredu er lles yr amgylchedd

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar bum prif thema: teithio'n ddoeth, arbed adnoddau, siopa'n foesegol, arbed ynni a gofalu am yr amgylchedd.

Y Gymuned yn Gweithredu dros Ynni (CAfE)

Mae CAfE yn hyrwyddo a chefnogi prosiectau arbed ynni lleol yn y gymuned. Caiff CAfE ei rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, a chaiff ei hanelu at grwpiau lleol sydd am arbed ynni a gwella ansawdd bywyd o fewn eu cymunedau. Mae'r wefan isod yn rhoi mwy o wybodaeth, gan gynnwys lle gallwch ddod o hyd i nawdd a hyfforddiant.

Rhwydwaith Gweithredu yn y Gymuned

Mae'r Rhwydwaith Gweithredu yn y Gymuned yn rhoi cefnogaeth i entrepreneuriaid cymdeithasol a mentrau cymdeithasol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU