Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
O weithgynhyrchu a chludo i becynnu a defnyddio, gall y pethau yr ydych yn prynu bob dydd gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Gall y dewisiadau a wnewch wrth fynd i siopa lleihau eich ôl-troed carbon ac yn eich arbed chi arian.
Chwiliwch am y label Energy Saving Recommended
I wneud arbedion ynni tymor hir, cadwch lygad am gynlluniau labelu sy'n nodi cynhyrchion ynni-effeithlon, o fylbiau golau i beiriannau golchi dillad. Chwiliwch am y logo Energy Saving Recommended a label Ynni'r Undeb Ewropeaidd (UE) sy'n graddio cynhyrchion am effeithlonrwydd ynni o A (gorau) i G (gwaethaf).
Cadwch lygad am gynhyrchion wedi'u hailgylchu. Mae papur, rholiau cegin a phapur toiled wedi'u hailgylchu ymysg y cynhyrchion sydd ar gael yn gyffredinol bellach. Gall prynu cynhyrchion y gellir eu hailgylchu, a'u hailgylchu ar ôl eu defnyddio, helpu hefyd.
Boed yn flodau, ffrwythau neu lysiau, gall prynu bwydydd sydd yn eu tymor yn lleol, a heb eu prosesu neu wedi'u prosesu'n ysgafn, leihau effeithiau amgylcheddol drwy ddefnyddio llai o ynni.
Mae'n debygol bod nwyddau MASNACH DEG wedi'u cynhyrchu gan greu llai o effaith ar yr amgylchedd
Gallwch brynu cynnyrch masnach deg mewn siopau, caffis a siopau trwyddedig – chwiliwch am yr arwydd MASNACH DEG. Mae hyn yn rhoi sicrwydd bod cynhyrchwyr y cynnyrch yn cael cyflog teilwng a phris teg am eu nwyddau. Mae'n debygol bod y nwyddau wedi'u cynhyrchu gan greu llai o effaith ar yr amgylchedd.
Chwiliwch am labeli sy'n dangos bod cynhyrchion wedi'u gwneud gyda pharch at yr amgylchedd. Mae nifer o gynlluniau labelu gwyrdd dibynadwy, sy'n cynnwys cynhyrchu bwyd, pren, dillad, offer a llawer mwy.
Mae prynu mewn swmp a defnyddio cynhyrchion crynodedig yn golygu y byddwch yn defnyddio llai o becynnau, gan leihau faint y taflwch i ffwrdd. Gallwch hefyd geisio osgoi cynnyrch sydd â mwy o becynnau nag sydd angen arnynt.
Weithiau, nid yw eitemau'n cael eu defnyddio'n ddigon aml i gyfiawnhau eu prynu. Caiff driliau, er enghraifft, eu defnyddio am tua 15 munud ar gyfartaledd yn eu hoes. Meddyliwch am logi pethau nad ydych yn eu defnyddio'n aml neu eu benthyca gan ffrind neu gymydog. Bydd hyn arbed y deunydd a'r ynni sy'n mynd i gynhyrchu'r holl declynnau hynny sy'n hel llwch yn eich sied.
Pan fo'n bosibl, ceisiwch atgyweirio rhywbeth yn hytrach na chael un newydd. Meddyliwch am brynu pethau y gallwch eu hailddefnyddio, yn hytrach na fersiynau tafladwy.
Dywed chwarter o bobl yn y DU eu bod nhw’n mynd â bag siopa eu hunain wrth siopa
Cadwch eich bagiau siopa ac ewch â rhai gyda chi y tro nesaf yr ewch i'r archfarchnad.
Chi yw'r cwsmer, felly gofynnwch am yr hyn rydych chi eisiau. Os ydych chi'n chwilio am gynhyrchion mwy gwyrdd, hoffech wybod mwy am sut cafodd rhywbeth ei wneud neu nid ydych yn galludod o hyd i'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch, gofynnwch i'r adwerthwr neu'r gweithgynhyrchydd. Daliwch ati os oes rhaid. Os oes mwy o bobl yn gofyn, mae'n fwy tebygol y bydd adwerthwyr yn dechrau stocio cynhyrchion mwy gwyrdd a darparu'r wybodaeth yr hoffech ei chael.