Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Fel garddwr, mae nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu'r amgylchedd. Mae'r camau syml y gallwch eu cymryd yn cynnwys cael casgen ddŵr ac ailgylchu hen nwyddau tŷ a gwastraff bwyd. Gallech chi hefyd geisio creu mannau byw ar gyfer bywyd gwyllt neu gynhyrchu eich bwyd eich hun.
Gall rhai cemegau i'r ardd niweidio pobl, bywyd gwyllt a'r amgylchedd. Dylech eu defnyddio fel y dewis olaf yn unig - mae'n well gweithio gyda natur er mwyn rheoli plâu a chwyn.
Dylech helpu i amddiffyn corsydd mawn sy'n werthfawr i'r amgylchedd drwy ddefnyddio mwlts a deunydd gwella pridd heb fawn, neu sy'n cynnwys llai o fawn. Gall y rhain fod lawn cystal neu'n well na mawn, ond mae'n bwysig eich bod yn darllen y cyfarwyddiadau ar y bag – weithiau mae angen eu trin yn wahanol.
Mae digonedd o gynhyrchion heb fawn, neu sy'n cynnwys llai o fawn, ar gael yn siopau'r stryd fawr a chanolfannau garddio. Edrychwch a yw'r bag yn dweud 'heb fawn' neu 'llai o fawn' neu holwch un o'r gweithwyr.
Mae miloedd o litrau o ddŵr yn disgyn ar do cyffredin bob blwyddyn. Gallwch arbed dŵr o'r prif gyflenwad drwy gasglu ychydig o'r dŵr i'w ddefnyddio yn eich gardd. Yn aml, bydd cwmnïau dŵr a chynghorau lleol yn gwerthu casgenni dŵr am brisiau isel.
Mae traean o bobl y DU sydd â gardd yn dweud eu bod yn compostio
Dechreuwch wneud tomen gompost neu prynwch fin compost, a defnyddiwch wastraff eich gardd a'ch cegin i fwydo'ch gardd. Gofynnwch i'ch cyngor lleol a oes biniau compost am brisiau isel ar gael yn eich ardal.
Mae nifer o gynghorau hefyd yn darparu cyfleusterau mewn canolfannau ailgylchu ar gyfer ailgylchu a throi gwastraff gardd mawr yn gompost.
Dylech annog pryfaid, draenogod ac anifeiliaid gwyllt eraill drwy greu amrywiaeth o gartrefi iddynt a drwy roi bwyd iddynt. Bydd blodau sy'n cynnig neithdar a phaill yn denu gwenyn, gloÿnnod byw a phryfaid eraill. Bydd coed a llwyni sy'n cynhyrchu aeron yn helpu i fwydo'r adar.
Mae palmantu gerddi yn cyfrannu tuag at lifogydd a allai achosi i garthion a llygryddion (megis plaleiddiaid) gael eu golchi mewn i ddyfrffyrdd lleol.
Os oes arnoch angen creu man parcio y tu allan i'ch cartref, ystyriwch ddefnyddio deunyddiau sy'n amsugno dŵr neu sy'n gadael i'r dŵr ddraenio trwyddynt. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y paragraff 'Palmantu gerddi' yn yr erthygl 'Paratoi ar gyfer y newid yn yr hinsawdd'.
Edrychwch am labeli ar bren, neu gynnyrch pren megis sied, sy'n dangos ei fod wedi cael ei gynhyrchu mewn ffordd sy'n garedig â'r amgylchedd. Mae'r cynlluniau labelu cyffredin yn cynnwys cynlluniau'r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC) neu'r Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC).
Rhowch fywyd newydd i hen bren, metel a phlastig drwy brynu decin, blychau plannu ac addurniadau gardd sydd wedi'u gwneud o ddeunydd wedi'i adfer. Defnyddiwch eich dychymyg i wneud pob math o botiau planhigion a chynwysyddion anarferol ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau allan o hen gynwysyddion.
Sicrhewch fod y golosg rydych chi'n ei ddefnyddio ar eich barbiciw yn dod o fforestydd sy'n cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy, fel y byddant yma am flynyddoedd i ddod. Chwiliwch am labeli gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC), y Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC), neu gynlluniau ardystio coedwigoedd eraill.
Gall tyfu ychydig bach o'ch cynnyrch eich hun helpu i leihau costau amgylcheddol pecynnu a chludo bwyd.