Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dŵr: defnyddio llai yn yr ardd

Mewn tywydd poeth a sych, gall dŵr a ddefnyddir y tu allan fod gymaint â 50 y cant o gyfanswm defnydd y DU. Fodd bynnag, mae dal yn bosibl cael gardd hardd a chynhyrchiol a defnyddio llai o ddŵr. Yma, cewch wybod beth y gallwch chi ei wneud i fanteisio i'r eithaf ar ddŵr glaw, a lleihau faint o ddŵr o’r prif gyflenwad rydych chi’n ei ddefnyddio.

Pam bod arbed dŵr yn yr ardd yn bwysig

Mae’r galw cynyddol am ddŵr yn rhoi straen ar adnoddau naturiol, ac yn ei gwneud hi’n bwysig i ddod o hyd i ffyrdd o arbed yr adnodd gwerthfawr hwn.

Gall arbed dŵr yn yr ardd helpu i leihau eich biliau dŵr, helpu i leihau’r risg o orchmynion sychder a chyfyngiadau dŵr, a helpu i amddiffyn bywyd gwyllt.

Gosod casgen ddŵr

Mae miloedd o litrau o ddŵr glaw yn disgyn ar do cyffredin bob blwyddyn. Mae caglu’r dŵr hwn a’i ddefnyddio ar eich gardd yn well i’ch lawnt a’ch planhigion, yn ogystal ag i’r amgylchedd.

Mae gosod casgen ddŵr yn eich gardd yn hawdd iawn, ac yn eithaf rhad. Mae llawer o gwmnïau dŵr yn gwerthu casgenni dŵr am brisiau is, felly holwch eich cwmni dŵr i weld beth all ei gynnig i chi.

Os ydych chi am gasglu mwy o ddŵr nag y gellir ei storio mewn un gasgen, gallwch brynu offer cysylltu i gysylltu dwy neu ragor gyda’i gilydd.

Gallwch gael mwy o gyngor ar osod casgen ddŵr o wefan Act on CO2.

Awgrymiadau ynghylch dyfrio bob dydd

Pan fyddwch yn dyfrio eich planhigion, mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud er mwyn defnyddio dŵr yn fwy effeithlon yn eich gardd:

  • defnyddiwch gan dŵr yn hytrach na phibell dŵr
  • os ydych chi'n defnyddio pibell, defnyddiwch glicied i reoli'r llif
  • osgowch ddefnyddio caniau sy’n tasgu dŵr, heblaw ar gyfer eginblanhigion ifanc, gan nad yw llawer o'r dŵr yn cyrraedd y gwreiddiau lle mae ei angen
  • os ydych chi'n dyfrio yn gynnar yn y bore neu'n hwyr yn y nos, ni fydd y dŵr yn anweddu yng ngwres y dydd cyn y gall gyrraedd y gwreiddiau
  • gadewch i blanhigion a llwyni sychu nes iddynt ddangos arwyddion o sigo - gall rhoi dŵr yn rhy aml beri i’r gwreiddiau beidio â mynd yn ddwfn iawn a gwanhau planhigion
  • drwy chwynnu yn rheolaidd, gallwch sicrhau mai’r planhigion gaiff y dŵr ac nid y chwyn
  • rhowch flaenoriaeth i blanhigion ifanc ac eginblanhigion; bydd planhigion hŷn yn goroesi'n hirach heb ddŵr

Arbed dŵr a chadw eich lawnt yn iach

Fel arfer, y lawnt yw’r rhan fwyaf sychedig mewn gardd. Gall chwistrellwr, er enghraifft, ddefnyddio cymaint o ddŵr mewn awr ag y defnyddia teulu o bedwar mewn diwrnod. Dyma gamau rhwydd y gallwch eu cymryd i leihau faint o ddŵr y mae ar eich lawnt ei angen:

  • gadewch i'r gwair dyfu'n hirach yn ystod cyfnodau sych er mwyn helpu i gadw gwlybaniaeth yn y pridd
  • ceisiwch beidio â defnyddio chwistrellwr; os gwnewch, mae’n bosib i’ch cwmni dŵr ofyn i chi osod mesurydd dŵr
  • bydd socian y gwair bob hyn a hyn yn fwy effeithiol na defnyddio chwistrellwr yn aml, gan y bydd hyn yn annog gwreiddiau i chwilio am ddŵr yn ddyfnach yn y tir
  • hyd yn oed os aiff eich lawnt yn frown yn y tywydd sych, nid yw hynny'n golygu ei bod wedi marw - fel arfer, bydd yn gwella pan ddaw'r glaw yn ôl
  • os ydych chi’n ail-wneud eich lawnt, dewiswch fathau o wair sy’n ffynnu mewn amgylchiadau sych, fel peisgwellt neu weunwellt llyfngoes

Defnyddio dŵr llwyd yn yr ardd

Gelwir unrhyw ddŵr a ddefnyddiwyd yn y cartref, heblaw dŵr o doiledau, yn ddŵr llwyd, a gellir ei ddefnyddio yn yr ardd.

Gallwch ddefnyddio'r dŵr a ddefnyddiwyd i olchi'r llestri, i olchi’r ffenestri, i olchi’r car, i olchi dillad, yn ogystal â dŵr o’r gawod a’r sinc.

Dyma ychydig o ragofalon y dylech eu cymryd wrth ddefnyddio dŵr llwyd yn yr ardd:

  • sicrhewch ei fod wedi oeri cyn i chi ei ddefnyddio
  • osgowch ei dywallt yn uniongyrchol ar ddeiliant
  • defnyddiwch ddŵr llwyd o’r bath a’r gawod dim ond i ddyfrio planhigion nad ydynt yn fwytadwy

Cynllunio gardd sy’n ddŵr-effeithlon

Wrth i’r hinsawdd newid, bydd y planhigion sy’n ffynnu yn eich gardd yn newid hefyd. Mae’n bosib y bydd rhai planhigion traddodiadol yn cael trafferth i fyw ar lai o ddŵr. Gallwch gadw eich gardd yn hardd drwy wneud y canlynol:

  • dewis planhigion sy’n ymdopi’n dda â sychder, sef planhigion y mae angen llai o ddŵr arnynt
  • gwneud eich compost eich hun o wastraff o’r gegin i gadw gwlybaniaeth a maeth
  • plannu llwyni a choed newydd drwy blastig i helpu i gadw gwlybaniaeth a rheoli chwyn

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU