Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheoli plâu a chwyn: dewisiadau mwy gwyrdd

Mae rhai plaleiddiaid yn cynnwys cemegion a all niweidio pobl, bywyd gwyllt a'r amgylchedd, yn ogystal â bod yn beryglus os na chânt eu defnyddio'n gyfrifol. Ond mae'n bosibl cael gardd iach ffyniannus heb ddefnyddio plaleiddiaid oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol.

Y mater ehangach

Er mai lladd plâu a chwyn yw eu pwrpas, gall rhai plaleiddiaid niweidio pobl, bywyd gwyllt a phlanhigion. Gallant hefyd lygru dŵr a gwenwyno bywyd dyfrol. Mae’n costio miliynau o bunnoedd pob blwyddyn i gael gwared ar weddillion plaleiddiaid o ddŵr yfed.

Gofynnwch i'ch hun a oes gwir angen chwynladdwr arnoch

Cyn i chi brynu plaleiddiaid, gofynnwch i'ch hun a ydynt yn wirioneddol angenrheidiol. Oes rhaid i'ch lawnt fod yn hollol rhydd o lygad y dydd a dant y llew? A all eich borderi ddioddef rhywfaint o chwyn? Does dim rhaid i erddi fod yn berffaith i fod yn iach.

Ystyriwch ddewisiadau gwahanol i blaleiddiaid

Ffyrdd naturiol o reoli plâu yn eich gardd

Dyma rai syniadau ar gyfer rheoli plâu yn eich gardd heb orfod defnyddio plaleiddiaid:

  • gallwch dynnu malwod a phlâu eraill oddi ar blanhigion gyda'ch dwylo
  • ceisiwch dynnu chwyn allan, yn hytrach nag estyn am y plaleiddiaid
  • gallwch ddefnyddio trapiau cwrw i ddal gwlithod
  • gall gorchuddio planhigion ifanc yn ystod y nos eu hamddiffyn rhag plâu

Cynlluniwch eich planhigion i atal plâu

Gall cynllunio eich gardd helpu i leihau plâu:

  • ceisiwch blannu melyn y gors yn agos at lysiau, lle byddant yn atal llau'r coed a phryfed duon
  • gall plannu lafant yn agos at rosod atal pryfed gleision

Anogwch fwytawyr plâu naturiol

Mae dros draean o bobl sydd â gardd yn dweud eu bod nhw’n compostio gwastraff yr ardd neu’r gegin

Mae ysglyfaethwyr megis y fuwch goch gota yn bwyta plâu, felly maent yn wych i'w cael yn yr ardd. Gallwch annog y fuwch goch gota drwy blannu ychydig o ddanadl poethion neu adael darnau o blanhigion o gwmpas iddi gysgu ynddynt dros y gaeaf. Gallwch hefyd sicrhau nad yw pryfed sy’n dda fel y rhain yn cael eu niweidio drwy ddefnyddio plaleiddiaid yn gyfrifol a chyn lleied â phosib.

Cliciwch ar y ddolen isod i gael gweld cyfres o daflenni y gallwch lwytho ar arddio mewn modd sy’n gyfeillgar wrth fywyd gwyllt. Os na allwch lwytho’r ffeil PDF, mae’n bosib y byddant ar gael fel taflenni wedi’u printio gan Natural England, Enquiry Service, Northminster House, Peterborough, PE1 1UA. Ffôn: 0845 600 3078 neu gallwch ddanfon e-bost at:

enquiries@naturalengland.org.uk

Defnyddiwch blaleiddiaid yn ofalus

Mae tywallt plaleiddiaid lawr y draen yn anghyfreithlon ac yn gwenwyno ffynonellau dŵr

Dim ond pan fydd popeth arall wedi methu y dylid defnyddio plaleiddiaid. Fodd bynnag, os gwelwch fod angen un arnoch, mae'n bwysig eich bod yn ei ddefnyddio, ei storio a'i waredu yn y ffordd iawn. Ceisiwch gyngor gan eich canolfan arddio neu adwerthwr arall ynglŷn â'r cynnyrch mwyaf addas. Wrth eu defnyddio:

  • cofiwch ddarllen y label ar y plaleiddiad bob amser a dilyn y cyfarwyddiadau'n ofalus
  • peidiwch â cheisio gwneud y plaleiddiad yn gryfach drwy ddefnyddio mwy nag y mae'r cyfarwyddiadau'n ei ddweud – gallai hyn niweidio eich gardd
  • golchwch eich dwylo ar ôl gorffen defnyddio'r plaleiddiad bob amser
  • storiwch unrhyw blaleiddiaid nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ddiogel oddi wrth anifeiliaid anwes a phlant, gan sicrhau bod y cynhwysydd wedi'i selio'n iawn
  • peidiwch byth â thywallt plaleiddiaid heb eu defnyddio i lawr y draen – mae'n anghyfreithlon a bydd yn gwenwyno ffynonellau dŵr
  • gall eich cyngor lleol ddweud wrthych sut y gallwch waredu plaleiddiaid yn ddiogel yn eich ardal chi
  • mae rhai plaleiddiaid bellach wedi eu gwahardd rhag cael eu defnyddio, felly os ydych chi'n ystyried defnyddio plaleiddiad a brynwyd beth amser yn ôl, gallwch ddefnyddio'r ddolen isod i wirio ei fod yn dal yn gymeradwy i'w ddefnyddio

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU