Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Compostio

Mae compostio yn troi gwastraff yn fwyd gwerthfawr ar gyfer eich gardd a gall eich helpu i leihau’r newid yn yr hinsawdd. Gall y rhan fwyaf o wastraff gardd gael ei gompostio, yn ogystal â chroen llysiau amrwd. Mae compostio yn hawdd, ac mae nifer o gynghorau lleol yn gwerthu biniau compost yn rhad. Mae cymorth a chyngor ar gael ar wefan a llinell gymorth RecycleNow.

Compostio yn y cartref

Mae nifer o gynghorau'n gwerthu biniau compostio yn y cartref, yn aml am bris rhad. Gallwch hefyd brynu biniau compostio gan adwerthwyr megis canolfannau garddio a siopau DIY lleol.

I gael cyngor ynghylch compostio yn y cartref, ewch i wefan RecycleNow neu ffoniwch linell gymorth compostio yn y cartref ar: 0845 600 0323.

Yr hyn y gallwch a'r hyn na allwch ei gompostio

Mae traean y bobl sy’n berchen ar ardd yn dweud eu bod yn compostio eu gwastraff

Cewch gompostio:

  • croen ffrwythau a llysiau
  • bagiau te a gwaddodion coffi
  • plisgyn ŵy wedi malu
  • toriadau glaswellt, toriadau planhigion, hen blanhigion a thoriadau perthi
  • cardfwrdd meddal a phapur wedi’i ddarnio neu’i sgrwnsio
  • blew anifail
  • llwch o beiriannau sugno llwch (dim ond o garpedi gwlân)

Chewch chi ddim compostio:

  • baw cath neu faw ci
  • cig a physgod
  • cynnyrch llaeth
  • planhigion heintiedig
  • clytiau/cewynnau untro
  • cerdyn sgleiniog
  • pethau caled

Casglu gwastraff cegin a gardd o gartrefi

Bydd nifer o awdurdodau lleol a mudiadau cymunedol yn fodlon casglu gwastraff o’ch cartref ar gyfer ei gompostio.

Casglu gwastraff gardd

Mae’n bosib y gallai rhai cynghorau gynnig casglu gwastraff gardd o’ch cartref. Mae’r gwasanaeth yn aml am ddim, ond mae rhai cynghorau yn codi ffi fechan.

Mae’r ddolen isod yn gofyn i chi am eich cod post. Yna, mae’n mynd â chi at y tudalennau ar wefan eich cyngor lleol sy’n delio â chael gwared ar wastraff gardd.

Casglu gwastraff cegin

Mae’n bosib y bydd eich awdurdod lleol, neu gynllun cymunedol, yn casglu gwastraff cegin o’ch cartref gan fynd ag ef ymaith i'w gompostio. Rhaid i gynlluniau sy’n compostio gwastraff cegin gael eu cymeradwyo i drin bwyd a gwastraff cegin gan y Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol, dan y 'Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid'.

Drwy ddilyn y ddolen isod, fe fyddwch yn mynd i wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael rhagor o wybodaeth.

Mynd â gwastraff gardd i ganolfan ailgylchu

Gallwch chi hefyd fynd â gwastraff gardd i’ch canolfan gwastraff cartref ac ailgylchu lleol (safle amwynder dinesig). Byddwch yn dod o hyd i sgips ar gyfer compostio gwastraff gardd, a bydd y compost yn cael ei werthu neu ei ddefnyddio yn lleol.

Bydd y ddolen isod yn mynd â chi at dudalennau ailgylchu gwefan eich cyngor lleol.

Compostio cymunedol

Cysylltwch â mudiad megis y Rhwydwaith Compostio Cymunedol er mwyn cymryd rhan mewn prosiectau sy’n annog pobl i gompostio.

Anifeiliaid a gwastraff cegin

Yn gyffredinol, ni fydd y ffaith eich bod yn cadw anifeiliaid anwes domestig yn eich atal rhag defnyddio gwastraff cegin wedi'i gompostio yn yr ardd.

Fodd bynnag, ni chaiff rhai anifeiliaid fynd yn agos at wastraff arlwyo (cegin) rhag ofn iddynt ddal afiechydon ohono. Os ydych yn cadw unrhyw un o'r anifeiliaid canlynol, ni ddylech gompostio ar y safle:

  • moch
  • gwartheg
  • defaid
  • geifr
  • ceirw
  • anifeiliaid eraill a chanddynt garnau

Os ydych yn cadw dofednod, mae’n rhaid i chi ddefnyddio cynhwysydd caeedig i gompostio fel na fydd y dofednod yn dod i gysylltiad ag ef.

Y mater ehangach

Mae mwy na thraean o wastraff cartrefi yn wastraff cegin neu ardd, ac mae’r rhan fwyaf o’r gwastraff hwn yn mynd i safleoedd tirlenwi. Pan fo gwastraff gwyrdd yn pydru mewn safle tirlenwi, gall ryddhau methan, sef nwy sy’n cael effaith fawr ar y newid yn yr hinsawdd. Pan gaiff gwastraff gwyrdd ei gompostio gartref, nid yw’n rhyddhau methan. Golyga hyn y gall compostio helpu i leihau’r newid yn yr hinsawdd yn ogystal â darparu bwyd rhad ac am ddim i’ch pridd.

Bydd cymysgu compost i mewn i bridd o fudd i’r pridd, er enghraifft, bydd y compost yn darparu maeth a fydd yn helpu planhigion i dyfu a bydd yn helpu'r pridd i gadw gwlybaniaeth. Gall hyd yn oed helpu i arafu tyfiant chwyn. Os ydych chi’n gwneud eich compost eich hun, gall eich helpu i osgoi defnyddio compost mawn oherwydd bod echdynnu mawn er mwyn gwneud compost yn niweidio bywyd gwyllt ac mae’n ychwanegu at y newid yn yr hinsawdd.

Mae bron i chwarter cartrefi'r DU yn compostio eu gwastraff gwyrdd, ac mae'r nifer hwn yn codi.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU