Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae pobl yn dibynnu ar y byd naturiol am lawer o bethau - fel bwyd, meddyginiaethau a chael gwared ar wastraff. Mae gweithgareddau pobl yn tanseilio gallu'r amgylchedd naturiol i barhau i ddarparu'r buddion hyn. Gall gwneud ychydig o bethau bob dydd helpu, fel gwastraffu llai o fwyd a phrynu cynhyrchion sy'n ystyried yr amgylchedd.
Amcangyfrifodd un astudiaeth bod gwerth byd-eang y byd naturiol rhwng 16 a 34 triliwn o ddoleri'r UDA y flwyddyn
Er y gall bywydau modern yn aml ymddangos fel nad ydynt yn rhan o natur, mae pawb yn dibynnu ar fuddion o'r byd naturiol ar gyfer eu lles a'u goroesiad:
Mae rhoi gwerth ariannol ar y buddion a gaiff pobl gan y byd naturiol yn helpu i ddangos pa mor bwysig ydyw. Amcangyfrifodd un astudiaeth bod gwerth byd-eang y byd naturiol rhwng 16 a 34 triliwn o ddoleri'r UDA y flwyddyn.
Mae pobl dlotaf y byd yn aml yn dibynnu bron yn uniongyrchol ar yr amgylchedd naturiol i oroesi, ac mae'r difrod i'r byd naturiol wedi'i nodi fel rhwystr mawr o ran mynd i'r afael â thlodi difrifol. Mae nodau fel yr ymgyrch 'rhoi terfyn ar dlodi' yn gysylltiedig iawn â gofalu am ein systemau naturiol.
Mae galw pobl am fwyd, dŵr, ynni a deunyddiau - a'r gwastraff sy'n deillio o hyn - yn achosi difrod i'r byd naturiol gan ei fod yn arwain at broblemau fel:
Yn 1961, defnyddiodd y boblogaeth tua hanner o'r buddion y gall systemau naturiol y byd barhau i'w darparu bob blwyddyn. Erbyn 2001, roedd pobl yn defnyddio 20 y cant yn fwy na'r hyn allai'r byd ei ddarparu heb achosi difrod i'r systemau naturiol neu eu disbyddu. O ganlyniad, dengys tystiolaeth bod dros hanner y prif fuddion a ddarperir gan y byd naturiol wedi dirywio, gan gynnwys gallu'r byd i drin a dadwenwyno gwastraff, puro dŵr, a darparu pysgodfeydd naturiol.
Mae pwysau gan bobl yn tanseilio gallu'r byd naturiol i ddarparu buddion hanfodol, gan achosi goblygiadau difrifol i les pobl ym mhobman:
Mae llawer o bethau y gallwch ei wneud yn eich bywyd bob dydd i helpu
Mae'r byd naturiol yn bwysig i Brydain. Y llynedd, roedd ffigurau gwylio Springwatch (rhaglen am fywyd gwyllt Prydain) yn debyg iawn i ffigurau gwylio Big Brother. Ond gall fod yn anodd weithiau dangos sut y gall un person wneud gwahaniaeth.
Achosir y difrod yn y pen draw gan alw bob dydd pobl. Felly, wrth feddwl am eich gweithredoedd bob dydd, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth allwch ei wneud i wneud gwahaniaeth.