Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ni all y pwysau cynyddol y mae pobl, busnesau a sefydliadau'n ei roi ar adnoddau a systemau amgylcheddol fel dŵr, tir ac aer barhau am byth. I fynd i'r afael â'r her hon mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn byw o fewn ffiniau amgylcheddol.
Gellir diffinio datblygu cynaliadwy fel datblygu sy'n cwrdd ag anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i gwrdd â'u hanghenion hwythau.
Mae'n golygu peidio â defnyddio adnoddau'n gynt nag y gall y blaned eu hailgyflenwi. Mae hefyd yn golygu uno amcanion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Mae hefyd yn dylanwadu ar brosesau llunio penderfyniadau mewn sefydliadau, felly gall arwain at ffurfio egwyddorion a 'gwerthoedd' busnes – er enghraifft, rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd mewn ffordd agored a hwylus, a chynnwys pobl a chymunedau y mae'r penderfyniadau hynny'n effeithio arnynt, neu ddweud yn agored sut y byddant yn rhedeg eu busnes a sut y maent yn gofalu am yr amgylchedd lleol ac am y bobl sy'n gweithio iddynt.
Gall yr egwyddorion hyn fod yn berthnasol i bolisïau'r llywodraeth hefyd – er enghraifft, mewn rheoliadau cynllunio ar gyfer technoleg ac adeiladau gwyrdd.
Mae'n ymwneud hefyd â bod yn eglur ac yn gyfrifol wrth ddefnyddio tystiolaeth wyddonol a thystiolaeth arall – er enghraifft, ynghylch lefelau llygredd neu ollyngiadau carbon.
Mae datblygu cynaliadwy'n ymwneud ag ystod eang iawn o weithgareddau. Dyma'r pedwar prif faes yn y Deyrnas Unedig:
Cynhyrchu a chludo, pecynnu a defnyddio – gall y pethau a brynwn o ddydd i ddydd gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, felly mae gan gwmnïau a sefydliadau ran i'w chwarae hefyd.
Mae ein ffordd o fyw yn rhoi mwy o faich y blaned bob dydd – o dorri fforestydd glaw (a cholli bioamrywiaeth yn sgil hynny) i'r effaith negyddol y mae gor-ddefnyddio'n ei chael ar yr amgylchedd ac ar yr hinsawdd.
Ceir graddio gorfodol holl gartrefi newydd yn Lloegr o dan y Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy (y Cod) yng nghyswllt perfformiad cynaliadwyedd cartrefi newydd.
Mae'r Cod wedi'i gynllunio i helpu'r diwydiant adeiladu i gynllunio ac adeiladu cartrefi at safonau amgylcheddol uwch. Mae'r Cod hefyd yn rhoi gwell gwybodaeth i brynwyr tai am effaith eu cartref newydd ar yr amgylchedd, a'r costau posibl o'i redeg, drwy bennu safonau gofynnol ar gyfer defnyddio ynni a dŵr.