Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n prynu cartref sydd wedi'i adeiladu o'r newydd, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i ddiogelu gan warant dda a fydd yn eich gwarchod os bydd problemau gyda'r adeilad. Defnyddiwch y rhestr wirio i ganfod beth y dylech gadw llygad amdano, ac i gael gwybod i ba raddau y mae'r eiddo yn bodloni safonau amgylcheddol.
Gwnewch yn siŵr bod yr eiddo wedi'i ddiogelu gan warant dda a ddarperir gan gwmni dibynadwy.
Mae'r mwyafrif o gartrefi newydd wedi'u diogelu gan yswiriant a gwarant Buildmark 10 mlynedd y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC). Fodd bynnag, mae rhai adeiladwyr yn defnyddio darparwyr gwarant eraill a gallant roi manylion llawn am warant yr eiddo i chi. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybodaeth am warant cartref newydd LABC, sy'n enghraifft o ddarparwr arall.
Os nad yw'r eiddo newydd wedi'i ddiogelu gan warant NHBC neu warant debyg, dylech wneud yn siŵr bod y dystysgrif rheoli adeiladu derfynol ar gael.
Dylech ganfod a yw eich adeiladwr wedi'i gofrestru gyda NHBC. Gallwch wneud hyn drwy ffonio llinell gymorth NHBC ar 0844 633 1000 neu drwy edrych ar y gofrestr ar wefan NHBC. Os nad yw'ch adeiladwr wedi'i gofrestru gyda NHBC, holwch a fyddwch yn cael cynnig gwarant gan gwmni dibynadwy arall.
Gwnewch yn siŵr bod gan yr adeiladwr enw da.
Gofynnwch am gael edrych o amgylch tai y mae'r adeiladwr wedi'u hadeiladu o'r blaen a siaradwch â chyn gwsmeriaid os oes modd.
Ewch i weld y safle - ydy'r safle'n daclus ac wedi'i reoli'n dda? Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth i chi am ymrwymiad yr adeiladwr i ansawdd.
Treuliwch amser yn gwneud yn siŵr eich bod yn deall beth sydd wedi'i ddiogelu dan y warant.
Ar ôl i chi gyfnewid contractau:
Erbyn hyn, mae'n rhaid i bob cartref newydd yn Lloegr gael ei raddio. Mae'r raddfa hon yn dweud wrthych i ba raddau y mae'ch cartref yn bodloni safonau amgylcheddol.
Mae'r cod yn helpu prynwyr i gael fwy o wybodaeth am effaith eu cartref newydd ar yr amgylchedd, a'i gostau rhedeg posibl.
I gael mwy o wybodaeth am dai cynaliadwy, dilynwch y ddolen isod.