Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth Prynu - Adeiladau Newydd

Gallai'r cynllun 'Cymorth Prynu - Adeiladau Newydd' eich helpu i brynu tŷ sydd newydd gael ei adeiladu. Rydych yn talu am gyfran o gost yr eiddo ac yn talu rhent ar y swm sy'n weddill. Yma, cewch wybod a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun a sut mae'n gweithio.

Pwy gaiff ymgeisio am y cynllun Cymorth Prynu - Adeiladau Newydd?

Mae'r cynllun Cymorth Prynu - Adeiladau Newydd ar gael ar gyfer eiddo penodol mewn rhai rhannau o Loegr. Cyn y gallwch brynu tŷ drwy'r cynllun mae angen i chi sicrhau eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Mae'r cynllun yn cael ei redeg gan 'asiantau Cymorth Prynu', a all eich helpu gyda'r broses ymgeisio i brynu tŷ fel rhan o'r cynllun. Bydd Cymdeithasau Tai, sef sefydliadau di-elw sy'n rheoli tai ar gyfer pobl sy'n cael anhawster prynu tŷ, yn cael eu penodi'n asiantau Cymorth Prynu.

Mae'r cynllun Cymorth Prynu - Adeiladau Newydd, ar agor i aelwydydd sy'n ennill llai na £60,000 y flwyddyn na fyddent, fel arall, yn gallu prynu tŷ.

Gallech fod yn gymwys:

  • os ydych yn brynwr tro cyntaf
  • os oeddech chi'n arfer bod yn berchen ar dŷ ond na allwch fforddio prynu heb gymorth erbyn hyn (efallai am eich bod chi a'ch partner wedi gwahanu)
  • os ydych yn denant i'r cyngor neu i gymdeithas dai
  • os ydych yn 'weithiwr allweddol' (yn weithiwr allweddol yn y sector cyhoeddus, er enghraifft nyrs neu athro)

Dilynwch y ddolen isod i weld a ydych chi'n weithiwr allweddol.

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael cymorth i brynu tŷ drwy'r cynllun Cymorth Prynu - Adeiladau Newydd, cysylltwch â'ch asiant Cymorth Prynu. Os ydych chi'n weithiwr allweddol, dylech gysylltu â'r asiant Cymorth Prynu yn yr ardal yr ydych yn gweithio ynddi.

Gallwch ddod o hyd i'ch asiant Cymorth Prynu lleol drwy ddilyn y ddolen isod.

Sut mae Cymorth Prynu - Adeiladau Newydd yn gweithio

Bydd eich asiant Cymorth Prynu lleol yn asesu a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun, cyn edrych ar yr opsiynau sydd ar gael yn eich ardal chi. Drwy'r cynllun Cymorth Prynu - Adeiladau Newydd, rydych yn prynu cyfran o eiddo sydd newydd gael ei adeiladu. Bydd gweddill cost yr eiddo'n cael ei rannu gyda darparwr tai, megis cymdeithas dai.

Bydd angen i chi dalu rhwng 25 a 75 y cant o gost yr eiddo drwy forgais a/neu gynilion. Yna, byddwch yn talu rhent i'r darparwr tai ar y gyfran o'r eiddo sy'n weddill. Bydd y darparwr tai yn gosod eich rhent cychwynnol ar uchafswm o 3 y cant o'u cyfran hwy o'r eiddo (yn y flwyddyn gyntaf). Bydd eich rhent yn cael ei adolygu bob blwyddyn.

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen rhywfaint o arian arnoch er mwyn talu'r costau sy'n gysylltiedig â phrynu tŷ, megis ffioedd cyfreithiol, unrhyw flaendal, a Threth Stamp o bosib.

Gallwch brynu mwy o gyfran yn yr eiddo yn nes ymlaen os allwch chi fforddio gwneud hynny. Bydd yn rhaid i chi dalu gwerth y cyfranddaliadau ar yr adeg yr ydych yn eu prynu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU