Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r cynllun Hawl i Brynu yn rhoi hawl i denantiaid cyngor cymwys brynu eu tŷ gan y cyngor am bris gostyngol. Gall tenantiaid cymdeithasau tai a chanddynt hawl diogel i brynu (PRTB) hefyd fod yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Os ydych chi wedi bod yn denant diogel i'r cyngor am o leiaf ddwy flynedd (neu bum mlynedd os daethoch yn denant ar ôl 18 Ionawr 2005) mae'n debyg bod gennych Hawl i Brynu eich tŷ cyngor am bris gostyngol.
Os oeddech chi'n denant diogel i awdurdod lleol a bod perchenogaeth eich eiddo wedi'i drosglwyddo i gymdeithas dai, efallai eich bod yn gymwys am Hawl Diogel i Brynu (PRTB) ar gyfer eich eiddo. Ni fydd hyn ond yn berthnasol os ydych chi'n dal i fod yn denant yn yr un eiddo cyn ac ar ôl y trosglwyddo.
Nid oes gennych hawl i brynu:
Nid oes gennych hawl i brynu:
Bydd faint o ddisgownt a gewch yn dibynnu ar ba mor hir yr ydych wedi bod yn denant. Er enghraifft, os ydych chi wedi byw mewn tŷ am bum mlynedd, bydd y disgownt yn 35 y cant o'i werth ar y farchnad. Os ydych chi wedi byw mewn tŷ am 20 mlynedd, bydd y disgownt yn 50 y cant.
Fodd bynnag, mae'r disgownt wedi ei gyfyngu i'r uchafswm sydd ar gael ar gyfer eich ardal chi. Mae'r disgownt mwyaf yn amrywio o £16,000 i £38,000 ar gyfer fflatiau neu dai, yn dibynnu ar ble'r ydych yn byw. I gael gwybod am y disgownt sydd ar gael cysylltwch â'ch landlord.
Os byddwch yn gwerthu'r tŷ o fewn pum mlynedd o'i brynu, efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r disgownt.
Darllenwch y llyfryn 'Eich hawl i brynu'ch cartref', drwy ddilyn y ddolen isod, cyn gwneud cais am y cynllun Hawl i Brynu. Mae'n rhoi mwy o fanylion am y disgownt ar gyfer pob ardal yn y wlad yn ogystal â manylion am y rheolau eraill sy'n berthnasol i'r cynllun.
Mae prynu tŷ yn ymrwymiad ariannol mawr a fydd yn cynnwys costau uniongyrchol y bydd angen eu talu unwaith yn unig, fel ffioedd cyfreithiol a Threth Stamp ar Dir, yn ogystal â chostau newydd parhaus, fel talu'r morgais, talu am atgyweirio a ffioedd gwasanaeth. Gallwch ddefnyddio'r erthygl ‘Cynllunio i brynu cartref’ i'ch helpu i gyfrifo rhai o'r costau posib sy'n gysylltiedig â phrynu tŷ.
Mae rhai cynghorau'n cynnig cynllun cymell ariannol i denantiaid sy'n symud i lety llai neu lety preifat. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch cyngor lleol.
Gallwch lwytho ffurflen gais oddi ar y we o'r ddolen isod, neu gallwch gael ffurflen gais gan eich landlord.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch weld faint o ddisgownt y gellir ei gael yn eich ardal chi, ac i le i anfon eich ffurflen gais.
Bydd eich landlord yn penderfynu a ydych yn gymwys i gael yr hawl i brynu. Os ydych chi'n gymwys anfonir llythyr a elwir yn hysbysiad Adran 125 atoch. Bydd hwn yn amlinellu:
Os ydych chi'n anghytuno â'r pris sy'n cael ei roi ar eich cartref gallwch ofyn i'r Prisiwr Dosbarth am brisiad annibynnol. Fodd bynnag, mae penderfyniad y Prisiwr yn derfynol felly hyd yn oed os canfyddir bod gwerth eich tŷ yn uwch na'r pris gwreiddiol y gofynnodd eich landlord amdano, rhaid i chi gadw at y pris hwnnw.
Rhaid i chi wneud eich penderfyniad ynghylch a ydych am fwrw 'mlaen â phrynu'r eiddo o fewn 12 wythnos i dderbyn yr hysbysiad. Bryd hynny, fe'ch cynghorir i gael cyngor cyfreithiol a chyngor ariannol annibynnol yn ogystal â chael arolwg.