Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae amrywiaeth o gynlluniau ar gael i'ch helpu i brynu tŷ. Gallech fod yn gymwys os ydych yn denant i'r cyngor neu i gymdeithas dai, yn weithiwr allweddol neu'n brynwr tro cyntaf. Yma cewch wybod pa gynlluniau a allai fod ar gael i chi.
Os ydych yn denant i'r cyngor neu i gymdeithas dai, mae dau fath o gynllun ar gael i'ch helpu i brynu tŷ.
Cynlluniau disgownt
Cynigir y rhain gan landlordiaid cymdeithasol (cynghorau a chymdeithasau tai) i roi'r cyfle i'w tenantiaid brynu'r tŷ y maent yn ei rentu am bris gostyngedig. Cyfrifir y disgownt ar sail lle yr ydych yn byw, faint yw gwerth yr eiddo a'r gyfran y byddwch yn ei phrynu.
Y ddau brif gynllun disgownt yw'r cynllun ‘Hawl i Brynu’ i denantiaid y cyngor a ‘Hawl i Gaffael’ i denantiaid cymdeithasau tai. Dilynwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am bob cynllun.
Cynlluniau disgownt
Efallai y bydd eich cyngor hefyd yn rhedeg cynllun cymell ariannol. Os ydych yn denant i'r cyngor, mae'n bosib y bydd y cyngor yn cynnig arian i chi i symud i dŷ llai. Mae'n bosib y bydd y cyngor yn gwneud hyn fel y gallant ddefnyddio'r lle i roi cartref i bobl sydd ar eu rhestr aros. Mae manylion y cynllun yn amrywio o'r naill gyngor i'r llall, ac nid yw pob cyngor yn cynnig y cynllun. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag adran dai eich cyngor lleol.
Gallech gael cymorth i brynu tŷ drwy gynllun Cymorth Prynu. Maent yn agored i aelwydydd sy'n ennill llai na £60,000 y flwyddyn na fyddent, fel arall, yn gallu prynu tŷ.
Gallech fod yn gymwys:
Dilynwch y ddolen isod i weld a ydych chi'n weithiwr allweddol.
Opsiynau Cymorth Prynu
Ceir dau brif ddewis gyda chynllun Cymorth Prynu:
Ceir hefyd y cynllun ‘Cymorth Prynu Tŷ Cymdeithasol’ i denantiaid o gynghorau a chymdeithasau tai sy’n rhan o’r cynllun. Mae’n helpu tenantiaid i brynu o leiaf 25 y cant o werth yr eiddo a thalu rhent ar y gweddill.
Os nad ydych yn gallu fforddio prynu cyfran o'r tŷ drwy un o'r cynlluniau hyn, gallech gael cymorth gan 'Cymorth Prynu i Rentu'. Gallech rentu eiddo wedi'i adeiladu o'r newydd am gyfnod penodol. Yn ystod y cyfnod hwn, gallech gynilo blaendal i brynu cyfran o'r eiddo drwy'r cynllun Cymorth Prynu-Adeiladau Newydd.
Os ydych chi'n prynu tŷ am y tro cyntaf efallai y bydd modd i chi gymryd rhan yn y cynllun ar gyfer rhai sy'n Prynu Tŷ am y Tro Cyntaf i'ch helpu i brynu tŷ sydd wedi ei adeiladu o'r newydd.
Dim ond ar ddatblygiadau tai penodol y mae'r cynllun ar gael, felly holwch yr asiant Cymorth Prynu ar gyfer eich ardal chi.
Mae'r cynlluniau Cymorth Prynu yn cael eu rhedeg gan asiantau Cymorth Prynu, a all eich helpu gyda'r broses ymgeisio ar gyfer cael tŷ drwy'r cynllun. Cymdeithasau Tai a benodwyd yw'r asiantau Cymorth Prynu sy'n rheoli tai ar gyfer pobl sy'n cael anhawaster prynu tŷ.
Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael cymorth i gael tŷ drwy gynllun Cymorth Prynu, cysylltwch â'r asiant Cymorth Prynu ar gyfer yr ardal lle’r ydych yn dymuno byw.
Gallwch ddod o hyd i'ch asiant Cymorth Prynu lleol drwy ddilyn y ddolen isod.
Os ydych chi'n denant i'r cyngor neu i gymdeithas dai, sydd â diddordeb yn yr opsiwn Cymorth Prynu, cysylltwch â'ch landlord i weld a yw'r cynllun ar gael i chi.
Os oes gennych anableddau tymor hir, gallwch hefyd brynu tŷ ar sail rhan-berchnogaeth. Cysylltwch â'r asiant Cymorth Prynu yn eich ardal os ydych o'r farn eich bod yn gymwys ar gyfer cynllun Cymorth Prynu. Mae'n bosib y bydd yr asiant Cymorth Prynu yn eich rhoi mewn cysylltiad â darparwr arbenigol sydd â phrofiad helaeth o helpu pobl gydag anableddau tymor hir.
Mae prynu tŷ yn ymrwymiad ariannol enfawr sy'n golygu costau uniongyrchol, megis costau cyfreithiol, unrhyw flaendaliadau ac o bosib Treth Stamp ar Dir. Bydd yn rhaid i chi hefyd rhaid i chi dalu costau parhaus, fel talu morgais, talu am atgyweiriadau a chostau gwasanaeth. Gallwch gyfrifo rhai o'r costau posib sy'n gysylltiedig â phrynu eich tŷ drwy ddarllen ‘Cynllunio i brynu cartref’.