Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cymorth Prynu i Rentu

Os ydych chi'n ei chael yn anodd cael morgais heb flaendal, efallai y bydd modd i chi gael cymorth drwy'r cynllun 'Cymorth Prynu i Rentu'. Drwy'r cynllun, gallech rentu tŷ sydd newydd gael ei adeiladu cyn prynu cyfran ohono. Yma, cewch wybod a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun a sut mae'n gweithio.

Pwy gaiff ymgeisio ar gyfer y cynllun Cymorth Prynu i Rentu?

Mae'r cynllun Cymorth Prynu i Rentu ar gael ar gyfer eiddo penodol yn Lloegr. Cyn y gallwch gael tŷ drwy'r cynllun mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Mae'r cynllun yn cael ei redeg gan asiantau Cymorth Prynu, a all eich helpu gyda'r broses ymgeisio am dŷ. Bydd Cymdeithasau Tai, sef sefydliadau di-elw sy'n rheoli tai ar gyfer pobl sy'n cael anhawster prynu tŷ, yn cael eu penodi'n asiantau Cymorth Prynu.

Mae'r cynllun Cymorth Prynu i Rentu ar agor i aelwydydd sy'n ennill llai na £60,000 y flwyddyn ac na fyddent, fel arall, yn gallu prynu tŷ.

Gallech fod yn gymwys:

  • os ydych yn brynwr tro cyntaf
  • os oeddech chi'n arfer bod yn berchen ar dŷ ond na allwch fforddio prynu heb gymorth erbyn hyn (efallai am eich bod chi a'ch partner wedi gwahanu)
  • os ydych yn denant i'r cyngor neu i gymdeithas dai
  • os ydych yn 'weithiwr allweddol' (yn weithiwr allweddol yn y sector cyhoeddus, er enghraifft nyrs neu athro)

Dilynwch y ddolen isod i weld a ydych chi'n weithiwr allweddol.

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael Cymorth Prynu i Rentu, cysylltwch â'r asiant Cymorth Prynu ar gyfer yr ardal lle’r ydych yn dymuno byw. Os ydych chi'n weithiwr allweddol, dylech gysylltu â'r asiant Cymorth Prynu yn yr ardal yr ydych yn gweithio ynddi.

Gallwch ddod o hyd i'ch asiant Cymorth Prynu lleol drwy ddilyn y ddolen isod.

Sut mae'r cynllun Cymorth Prynu i Rentu yn gweithio

Bydd eich asiant Cymorth Prynu lleol yn asesu a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun, cyn edrych ar yr opsiynau sydd ar gael yn eich ardal chi. Gallwch rentu tai sydd newydd gael eu hadeiladu ar gyfradd fforddiadwy - 80 y cant (neu lai) o rent y farchnad. Gallwch rentu'r eiddo am hyd at bum mlynedd.

Bwriad Cymorth Prynu i Rentu yw rhoi amser i chi gynilo digon i allu rhoi blaendal i brynu'r eiddo. Chi fydd yn cael y dewis cyntaf i brynu'r eiddo unrhyw bryd yn ystod y denantiaeth, neu ar y diwedd.

Beth sy'n digwydd pan fydd eich tenantiaeth yn dod i ben?

Ar ddiwedd y cyfnod pum mlynedd bydd asiant Cymorth Prynu yn asesu eich sefyllfa eto. Os gallwch ei fforddio, gallwch brynu rhan o'r eiddo dan y cynllun Cymorth Prynu - Adeiladau Newydd. Bydd angen i chi allu talu am o leiaf 25 y cant o'r eiddo drwy gynilion a/neu forgais. I gael mwy o wybodaeth am y cynllun Cymorth Prynu - Adeiladau Newydd, dilynwch y ddolen isod.

Os yw'r asiant Cymorth Prynu yn gweld na allwch fforddio prynu unrhyw gyfran o'r eiddo, bydd eich landlord yn adolygu eich tenantiaeth. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y bydd yn cael ei hadnewyddu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU