Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawl i Gaffael – help i brynu'ch tŷ cymdeithas dai

Mae'r cynllun Hawl i Gaffael yn rhoi hawl i denantiaid cymwys brynu eu tŷ gan eu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig am bris gostyngol. Mae prynu tŷ yn gofyn am ymrwymiad ariannol hirdymor, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cyngor ariannol a chyngor cyfreithiol annibynnol cyn gwneud penderfyniad.

Ydych chi'n gymwys?

Gallech fod yn gymwys:

  • os ydych yn denant diogel neu'n denant sicr
  • os ydych wedi bod yn denant sector cyhoeddus am o leiaf ddwy flynedd, neu am o leiaf bum mlynedd os daethoch yn denant sector cyhoeddus ar ôl 18 Ionawr 2005

Ac os ydych yn byw:

  • mewn tŷ cymwys
  • tŷ wedi ei adeiladu neu wedi ei gaffael gan gymdeithas dai, boed y gymdeithas dai yn elusen neu beidio, gydag arian cyhoeddus o 01 Ebrill 1997 ymlaen
  • tŷ a drosglwyddwyd gan awdurdod lleol i gymdeithas dai ar ôl 1 Ebrill 1997

Efallai y cewch eich dosbarthu'n denant sector cyhoeddus os ydych chi wedi byw mewn tai a ddarperir gan eich awdurdod lleol, y lluoedd Arfog, y gwasanaeth tân neu awdurdod yr heddlu yn y gorffennol.

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun, darllenwch y daflen ‘Canllaw i'r hawl i gaffael’ o’r ddolen isod.

Ni fyddwch yn gymwys

  • os ydych chi'n denant i'r cyngor
  • os yw'r llysoedd wedi rhoi gorchymyn meddiannu i chi adael eich cartref
  • os oes achos methdalu ar y gweill yn eich erbyn
  • os ydych yn byw mewn tŷ a ddarperir ar gyfer pobl hŷn ac, mewn achosion penodol, pobl anabl

Efallai y gall tenantiaid y cyngor fanteisio ar ostyngiadau wrth brynu eu tŷ drwy'r 'Cynllun Hawl i Brynu'.

Gostyngiadau sydd ar gael

  • mae'r gostyngiadau'n amrywio o £9,000 i £16,000 yn dibynnu ar ble'r ydych yn byw
  • os gwnaethoch gais i fod yn rhan o'r cynllun ar ôl 18 Ionawr 2005, a'ch bod yn penderfynu gwerthu'r tŷ o fewn pum mlynedd i'w brynu, bydd yn rhaid i chi ad-dalu rhywfaint o'r gostyngiad neu'r cyfan ohono. Bydd y swm y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu yn dibynnu ar faint o amser fydd wedi mynd heibio rhwng yr adeg y cawsoch y gostyngiad a phryd yr ydych am werthu'r tŷ.

Pryd gwerthwyd y tŷ

Faint o ddisgownt i'w ad-dalu

O fewn blwyddyn 100%
O fewn 2 flynedd 80%
O fewn 3 blynedd 60%
O fewn 4 blynedd 40%
O fewn 5 mlynedd 20%

  • os penderfynwch werthu eich tŷ ar ôl pum mlynedd ni fydd angen i chi ad-dalu'r disgownt.
  • os penderfynwch werthu eich tŷ o fewn 10 mlynedd, yna bydd yn rhaid i chi gynnig y tŷ i'ch landlord yn gyntaf am werth marchnad y tŷ. Os nad oes ar y landlord ei eisiau, cewch werthu'r tŷ ar y farchnad agored.

Sut i wneud cais a'r camau nesaf

Cysylltwch â'ch landlord i gael ffurflen gais. Bydd y landlord yn penderfynu a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun Hawl i Gaffael ar gyfer eich tŷ presennol neu dŷ arall.

Os yw'r tŷ arall mewn ardal arall efallai y byddwch yn gymwys am ostyngiad gwahanol. Does dim rhaid i chi dderbyn y tŷ arall ac nid oes rhaid i'ch landlord gynnig tŷ arall i chi.

Os ydych chi'n gymwys, bydd eich landlord yn anfon hysbysiad atoch yn amlinellu:

  • disgrifiad o'r tŷ ac unrhyw ddarn o dir sydd wedi ei gynnwys yn y pris
  • manylion eich disgownt a sut y cafodd ei gyfrifo
  • y pris y dylech ei dalu am yr eiddo yn nhyb y landlord, a sut y cyfrifwyd hyn
  • amcangyfrif o unrhyw daliadau am wasanaethau
  • unrhyw broblemau strwythurol y gallai'r tŷ eu cael
  • telerau ac amodau gwerthu

Os ydych chi'n anghytuno â'r pris sy'n cael ei roi ar eich cartref gallwch ofyn i'r Prisiwr Dosbarth am brisiad annibynnol. Fodd bynnag, mae penderfyniad y Prisiwr yn derfynol felly hyd yn oed os canfyddir bod gwerth eich tŷ yn uwch na'r pris a roddwyd gan eich landlord, rhaid i chi gadw at y pris hwnnw.

Prynu eich cartref

Rhaid i chi wneud eich penderfyniad ynghylch a ydych am fwrw 'mlaen â phrynu'r eiddo o fewn tri mis i dderbyn yr hysbysiad.

Fe'ch cynghorir i gael cyngor cyfreithiol a chyngor ariannol annibynnol yn ogystal â chael arolwg. Efallai y bydd angen i chi drefnu morgais i dalu am y tŷ ac y bydd angen cynrychiolydd cyfreithiol arnoch i'ch helpu i lunio cytundebau.

Mae nifer o gostau ychwanegol yn gysylltiedig â'r broses o brynu tŷ ac o fod yn berchen ar dŷ. Darllenwch ‘Cynllunio i brynu cartref’ i'ch helpu i amcangyfrif rhai o'r costau sy'n gysylltiedig.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU