Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Proses gyfreithiol yw trawsgludo lle mae perchnogaeth eiddo'n cael ei throsglwyddo o'r gwerthwr i'r prynwr.
Pa un a ydych yn prynu, yn gwerthu neu'r ddau, gan amlaf byddwch eisiau hurio cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig gan y gall fod yn broses gymhleth.
Cymdeithas y Gyfraith yw'r corff proffesiynol ar gyfer cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr ac maent yn rhwym wrth eu cod ymarfer. Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr yn eich ardal sy'n arbenigo ym maes trawsgludo ar wefan Cymdeithas y Gyfraith. Gallwch hefyd ddarllen y canllawiau ynghylch sut i ddefnyddio cyfreithiwr a beth i'w wneud pan aiff pethau o chwith.
Rheoleiddir Trawsgludwyr Trwyddedig gan y CLC (Cyngor Trawsgludwyr Trwyddedig) yng Nghymru a Lloegr. I gael rhagor o wybodaeth am y CLC dilynwch y ddolen isod.
Ar y cam hwn, bydd pob cyfreithiwr yn y gadwyn yn cyfnewid y contractau y maent wedi'u llunio ar gyfer pob eiddo ac wedyn penderfynir ar ddyddiad ar gyfer cwblhau'r gwerthiant. Dyma'r dyddiad pan fyddwch yn dod yn berchen yn gyfreithiol ar yr eiddo ac yn gallu symud i mewn.
Fel arfer, bydd angen 10 y cant o bris prynu'ch eiddo ymlaen llaw a'i dalu wrth gyfnewid contractau. Rydych hefyd yn gorfod mynd ymlaen â'r pryniant neu golli'r blaendal.
Unwaith yr ydych wedi cael y dyddiad cwblhau, gallwch drefnu diwrnod i symud.
Yn aml, cwmni cludo celfi yw'r ffordd orau o symud eich holl eiddo, ond gwiriwch eich contract gyda nhw. Oni allwch gael rhywun i argymell cwmni i chi, cysylltwch â Chymdeithas Cludwyr Celfi Prydain.
Mae llawer o bobl yn anfodlon gyda'r system bresennol o brynu eiddo sy'n gallu creu pryder ac oedi. Mae'r Gofrestrfa Dir yn datblygu system 'e-drawsgludo', system electronig ar gyfer prynu, gwerthu a chofrestru tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr er mwyn gwella'r broses. I gael gwybod sut bydd y system newydd yn gweithio, dilynwch y ddolen isod er mwyn mynd i'r porth e-drawsgludo ar wefan y Gofrestrfa Dir.