Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dewis gwerthwr tai a gwneud cynnig

Fel arfer, bydd gwerthwyr tai yn gweithredu ar ran y gwerthwr, ond rhaid iddynt drin y prynwyr yn deg yn ogystal. Yma cewch wybod sut mae gwneud cwyn a beth yw'r broses ar gyfer gwneud cynnig ar eiddo.

Gweithio gyda gwerthwyr tai

Mae defnyddio gwerthwr tai yn ffordd gyffredin o ddod o hyd i eiddo i'w brynu. Mae gwahanol gwmnïau gwerthu tai yn arbenigo mewn gwahanol fathau o eiddo, felly gwnewch yn siŵr fod y gwerthwr tai y carech ei ddefnyddio yn gwerthu'r math o eiddo y mae gennych ddiddordeb ynddo. Mae gwerthwyr tai yn ymrwymo i gontract gyda'r gwerthwr i werthu'u heiddo, felly byddwch yn ymwybodol y byddant yn gweithredu er lles gorau'u cleient.

Gan ddechrau ar 6 Ebrill 2008, bydd rhaid i unrhyw un a fydd yn gwerthu eiddo ddarparu Pecyn Gwybodaeth am y Cartref o'r diwrnod cyntaf y rhoddir yr eiddo ar y farchnad. I gael gwybod mwy am gynnwys Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref, darllenwch 'Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref: canllaw i brynwyr'.

Gwneud cynnig

mae gasympio'n digwydd pan fydd eiddo'n cael ei werthu i brynwr arall am bris uwch ar ôl derbyn cynnig arall

Os byddwch yn gwneud cynnig ar eiddo, gwnewch yn siŵr ei fod yn 'amodol ar gontract'. Mae hyn yn golygu y gallwch dynnu'n ôl o'r cytundeb os bydd unrhyw broblemau.

Dan y Ddeddf Gwerthwyr Tai, mae rheidrwydd cyfreithiol ar werthwr tai i gyflwyno unrhyw gynnig i'r sawl sy'n gwerthu'r tŷ yn brydlon ac ar bapur, oni bai fod y gwerthwr wedi nodi ar bapur nad yw'n dymuno cael rhai cynigion.

Nid yw cynnig y prynwr yn rhwym dan y gyfraith yng Nghymru a Lloegr, hyd yn oed os caiff ei dderbyn gan y gwerthwr. Golyga hyn fod rheidrwydd cyfreithiol ar y gwerthwr tai i drosglwyddo unrhyw gynnig arall a geir ar gyfer yr eiddo i'r gwerthwr nes y bydd contractau wedi'u cyfnewid.

R ôl i'ch cais gael ei dderbyn y derbynnir eich cynnig, gofynnwch am i'r eiddo gael ei dynnu oddi ar y farchnad dros gyfnod y gwerthiant. Mae hwn yn un cam y gallwch ei gymryd er mwyn ceisio osgoi cael eich 'gasympio'. Efallai na fydd y gwerthwr yn fodlon gwneud hyn os nad ydych chi wedi gwerthu'ch eiddo yn barod.

Gwneud cwyn

Rhaid i bob cwmni gwerthu tai fod yn rhan o gynlluniau unioni sy'n cael eu rhedeg naill ai gan yr Ombwdsmon Eiddo (TPO) neu'r Gwasanaeth Syrfewyr Ombwdsmon (SOS). Bydd cynlluniau unioni yn eich helpu os bydd gennych gŵyn am werthwr tai. I gael gwybod mwy am sut mae gwneud cwyn, darllenwch ‘Gwerthwyr tai – gwneud cwyn’.

Additional links

Arbed ynni

Gwnewch eich cartref yn fwy effeithlon drwy gael grant

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU