Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyngor i brynwyr am y tro cyntaf

Mae prynu tŷ am y tro cyntaf yn gallu bod yn ddrud. Gwnewch yn siŵr bod gennych syniad o'r gwahanol gostau a dewch o hyd i ffyrdd sy'n ei gwneud yn bosibl i chi brynu tŷ ac sy'n gwneud y profiad yn un llai brawychus.

Cael help drwy gynlluniau perchnogaeth tai

Mae nifer o gynlluniau ar gael sy'n ceisio helpu prynwyr am y tro cyntaf. Mae 'Cynlluniau perchnogaeth tai cost isel - canllaw' yn amlinellu'r cynlluniau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Prynu cartref gydag eraill

Mae'n bosib eich bod am ystyried prynu tŷ gydag aelodau eraill o'r teulu, gyda ffrindiau neu gyda phartner. Drwy brynu gydag eraill cewch gymorth i dalu'r blaendal a gallwch rannu'r costau. Mae'n bwysig i chi feddwl yn ofalus beth allai ddigwydd os bydd yr amgylchiadau'n newid a bod un ohonoch am werthu'ch cyfran o'r eiddo. Dylech gael cyngor cyfreithiol a llunio cytundeb sy'n nodi sut y caiff yr eiddo ei rannu mewn achos o farwolaeth, neu os bydd un ohonoch yn penderfynu ildio eich cyfran o'r eiddo.

Dod o hyd i'r morgais cywir

Mae'r mwyafrif o fenthycwyr morgeisi yn gofyn am flaendal sy'n werth rhwng o leiaf pump a deg y cant o'r eiddo y mae arnoch eisiau ei brynu. Po uchaf yw pris yr eiddo, y mwyaf fydd y blaen-dal. Efallai y byddwch yn ystyried gofyn am gymorth ariannol gan eich teulu neu'ch ffrindiau. Mae sawl math o forgais ar gael, ac mae rhai wedi'u targedu'n benodol ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf. Darllenwch y canllaw ar forgeisi drwy ddilyn y ddolen isod i ganfod sut mae'r system forgeisi yn gweithio, a ble y gallwch gael cyngor ariannol ar forgeisi.

Prynu cartref am y tro cyntaf

Mae prisiau uchel eiddo wedi'i gwneud yn anodd i lawer allu fforddio prynu cartref. Gall hyn fod yn broblem fawr i chi os ydych chi'n prynu am y tro cyntaf gan y bydd gennych lawer o gostau cychwynnol y bydd angen eu talu unwaith yn unig, gan gynnwys:

  • blaendal
  • Treth Stamp ar Dir
  • ffioedd syrfewyr
  • ffioedd a thaliadau benthycwyr
  • Ffioedd y Gofrestrfa Dir
  • costau symud o eiddo neu symud i eiddo

Os ydych chi'n ystyried prynu tŷ am y tro cyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynllunio ar gyfer yr holl gostau y byddwch yn eu hwynebu. Bydd 'Cynllunio i brynu cartref' yn egluro'r prif gostau y mae'n debygol y bydd rhaid i chi eu talu.

Additional links

Arbed ynni

Gwnewch eich cartref yn fwy effeithlon drwy gael grant

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU