Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Dewis ardal newydd i fyw ynddi

Pan fyddwch yn ystyried symud i ardal newydd, mae nifer o bethau mae'n bosib y carech eu hystyried cyn gwneud eich penderfyniad. Mae'n bosib yr hoffech ddod o hyd i swydd mewn ardal benodol neu symud i rywle sydd â gwell ysgolion neu ragor o feysydd glas.

Dod o hyd i wybodaeth cyn i chi symud

Gallwch ddod i wybod llawer am ardal newydd i'ch helpu i benderfynu a hoffech symud yno ai peidio. Bydd y dolenni canlynol yn eich helpu i ddod i wybod mwy.

Gwefannau cynghorau lleol

Gallwch ddod i wybod llawer am ardal drwy ymweld â gwefan y cyngor lleol. Dyma rai pethau y gallwch gael gwybodaeth amdanynt:

  • cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol
  • costau a band treth cyngor
  • swyddi lleol a gwybodaeth am yrfaoedd
  • gwybodaeth am dderbyniadau i ysgolion
  • parciau ac ardaloedd hamdden lleol
  • cyfleusterau chwaraeon
  • digwyddiadau a chyfleusterau hamdden a chelfyddydol
  • cyfleusterau i bobl ifanc

Prisiau tai

Er mwyn cael syniad o brisiau cyfartalog tai yng Nghymru a Lloegr, ewch i weld y Mynegai Prisiau Tai ar wefan y Gofrestrfa Tir. Mae'r mynegai yn rhoi gwybodaeth fanwl am brisiau tai sy'n dyddio'n ôl i fis Ionawr 1995. Gallwch chwilio yn ôl cod post, ardal o'r wlad, neu yn ôl cyngor. Mae'r wefan hefyd yn eich galluogi i chwilio am brisiau tai yn ôl math o eiddo; fflat neu faisonette, tŷ teras, ty pâr a thŷ sengl.

Rhagolygon gwaith

Gallwch ddefnyddio gwasanaeth swyddi a sgiliau'r Ganolfan Byd Gwaith i chwilio am swydd, hyfforddiant, gwybodaeth am yrfaoedd, gwaith gwirfoddol a darpariaeth gofal plant yn unrhyw le yn y DU.

Gwybodaeth am ysgolion a gofal plant

Os oes gennych blant, gallwch ddod i wybod mwy am ysgolion cynradd ac uwchradd, gofal plant, meithrinfeydd, Canolfannau Plant Cychwyn Cadarn a gofal y tu allan i oriau ysgol mewn ardal. Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion cyswllt unrhyw ysgol, eu canlyniadau perfformiad, ac adroddiadau gan y Swyddfa Safonau Addysg (Ofsted).

Ystadegau am eich cymdogaeth

Ewch i ymweld â gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gael golwg ar ystadegau am yr ardal leol a mapiau ar amrywiaeth eang o bynciau. Mae'r wefan hefyd yn rhoi crynodebau am y gymdogaeth sy'n cymharu ffigyrau am ardal benodol gyda ffigyrau'r cyngor lleol a gweddill y wlad. Trafodir llawer o bynciau gan gynnwys iechyd, troseddu, tai a'r amgylchedd.

Trafnidiaeth ffyrdd

Os ydych am gael gwybod am y prif rwydwaith ffyrdd a datblygiadau ar y ffyrdd sydd i ddod yn y dyfodol ar draws Lloegr, ewch i wefan yr Asiantaeth Priffyrdd. I gael gwybodaeth am y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru, ewch i wefan Cynulliad Cymru. Trafnidiaeth yr Alban yw'r sefydliad sy'n gofalu am y prif rwydwaith ffyrdd yn yr Alban.

Yr Amgylchedd

Cewch wybod mwy am amgylchedd ardal benodol gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth ynghylch a yw'r ardal yn debygol o gael llifogydd, a lefelau llygredd

Symud dramor

Os ydych yn ystyried gadael y wlad, gallwch ddefnyddio'r adran Cross & Stitch ar 'Brydeinwyr sy'n byw dramor' i'ch helpu i gynllunio i symud dramor.

Additional links

Arbed ynni

Gwnewch eich cartref yn fwy effeithlon drwy gael grant

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU