Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Manylion ynghylch bod yn berchen ar eiddo neu ar dir

Yma, cewch wybod sut i gael manylion am bwy sy'n berchen ar eiddo yng Nghymru a Lloegr a'r prisiau tai diweddaraf. Hefyd, cewch weld y manteision o gofrestru eich eiddo eich hun a beth mae cael 'teitl cofrestredig' yn ei olygu.

Chwilio am wybodaeth am dir neu eiddo

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am filiynau o eiddo neu ddarnau o dir drwy ddilyn y ddolen isod at wefan y Gofrestrfa Tir. Gallwch chwilio yn ôl cod post, cyfeiriad neu gan ddefnyddio mapiau o'r ardal y mae gennych ddiddordeb ynddi.

Llwytho copi o'r 'teitl cofrestredig' am £3 a dod i wybod:

  • pwy sy'n berchen ar yr eiddo
  • disgrifiad o'r eiddo (gan gynnwys ei bris os gwerthwyd ef cyn Ebrill 2000)
  • enw'r benthyciwr morgais, os oes un (ond nid gwerth y morgais fel arfer)
  • a oes unrhyw hawliau tramwy preifat ar yr eiddo - er enghraifft, os oes gan gymydog hawliau ar y cyd i ddefnyddio llwybr (ni ddangosir hawliau tramwy cyhoeddus)
  • unrhyw hawliau neu delerau (heb gynnwys hawliau cynllunio) ar yr eiddo

Mae'n bosib y bydd angen y wybodaeth hon arnoch oherwydd eich bod am:

  • edrych ar y gofrestr neu gynllun teitl eiddo yr ydych yn berchen arno
  • gwybod pwy sy'n berchen ar eiddo penodol
  • cael gwybod am y tir sy'n cael ei gynnwys gyda'ch eiddo
  • cysylltu â landlord ynghylch prydlesu neu rentu eiddo
  • cysylltu â pherchennog eiddo gwag y carech ei brynu

Beth yw 'cofrestr teitl'?

Mae cofrestr teitl yn darparu'r wybodaeth gyfreithiol fod y tir wedi'i gofrestru gyda'r Gofrestra Tir. Pan fydd tir wedi'i gofrestru, mae'r Gofrestrfa Tir yn creu dogfen neu gofrestr sy'n darparu'r cofnodion diweddaraf o berchnogaeth gyfreithiol. Mae'r gofrestr hefyd yn cynnwys gwybodaeth arall am y tir neu'r eiddo. Mae gan bob cofrestr rif unigryw sy'n eu gwneud yn hawdd eu hadnabod.

Mae pob cofrestr teitl yn cael ei rhannu yn dair rhan:

  • mae'r gofrestr eiddo'n disgrifio'r eiddo
  • mae'r gofrestr berchnogaeth yn cofnodi pwy sy'n berchen ar yr eiddo
  • mae'r gofrestr pridiannau yn rhoi manylion am faterion megis morgeisi neu hawliau sy'n effeithio ar yr eiddo

Dilynwch y ddolen isod i weld enghraifft o gofrestr teitl.

Gwybodaeth am brisiau tai

Mae'r 'Mynegai Prisiau Tai', a gyhoeddir yn fisol gan y Gofrestrfa Tir, yn defnyddio gwybodaeth sy'n cael ei chasglu ar gyfer pob pryniant a gwerthiant tŷ preswyl yng Nghymru a Lloegr. Mae'n cynnwys ffigurau ar lefel genedlaethol, rhanbarthol, sirol a bwrdeistrefi Llundain. Gallwch weld rhestrau o brisiau cyfartalog tai ar gyfer yr ardaloedd hyn, sy'n dyddio'n ôl i fis Ionawr 1995.

Beth yw Cofrestrfa Tir?

Adran o'r llywodraeth yw'r Gofrestrfa Tir sy'n gyfrifol am gofrestru tir yng Nghymru a Lloegr. Rhaid cofrestru pob tir sydd wedi'i brynu, ei werthu neu dan forgais ers mis Ebrill 2000. Fodd bynnag, mae tua thraean o'r tir yng Nghymru a Lloegr heb ei gofrestru ar hyn o bryd.

Beth yw cynllun teitl?

Mae cynllun teitl yn dangos lleoliad yr eiddo a'i arwynebedd. Nid yw'r cynllun fel arfer yn dangos pwy sy'n berchen ar nodweddion fel waliau, ffensys a chloddiau sy'n rhan o ffin yr eiddo.

Dilynwch y ddolen isod i weld enghraifft o gynllun teitl.

Os ydych yn berchen ar dir heb ei gofrestru, beth yw'r buddiannau o'i gofrestru?

Bydd nifer o fuddiannau os byddwch yn cofrestru tir. Mae cofrestru tir:

  • yn brawf o berchnogaeth
  • yn helpu i amddiffyn eich tir os bydd rhywun arall yn ceisio'i hawlio
  • yn cydnabod yr hyn yr ydych yn berchen, gan olygu ei bod yn haws rheoli eich eiddo
  • yn ei gwneud hi'n haws trawsgludo, gan wneud newidiadau mewn perchnogaeth yn y dyfodol yn haws

Os byddwch yn penderfynu cofrestru eich tir am y tro cyntaf, byddwch hefyd yn gallu manteisio ar ddisgownt o 25 y cant ar y ffi gofrestru.

Sut mae cofrestru eich tir

Gan fod y gwaith sy'n ymwneud â chofrestru am y tro cyntaf yn eithaf technegol, mae'r mwyafrif o bobl yn hurio twrnai neu drawsgludwr trwyddedig i'w wneud. Ond gallwch wneud eich hun os yw'n well gennych. Dilynwch y ddolen isod i 'Arweiniad 13 i'r Cyhoedd - Gwneud cais am y cofrestriad cyntaf gan y perchennog ei hun' sy'n egluro'r broses.

Gall y gost o gofrestru tir amrywio yn ôl maint yr eiddo. Gallai'r gost amrywio o £30 ar gyfer eiddo sydd werth hyd at £50,000 i £525 ar gyfer tir sydd werth dros £1 miliwn. Dilynwch y dolenni isod am fwy o wybodaeth am wasanaethau a ffioedd cofrestru tir.

Cysylltwch â'ch swyddfa Gofrestrfa Tir leol

Gallwch gysylltu â swyddfeydd lleol y Gofrestrfa Tir ar y ffôn neu drwy'r ffacs.

Additional links

Arbed ynni

Gwnewch eich cartref yn fwy effeithlon drwy gael grant

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU