Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Arolygon eiddo

Adeg prynu tŷ, mae'n bwysig cael adroddiad am gyflwr cyffredinol yr eiddo. Gall hyn helpu i dynnu sylw at unrhyw waith y gall fod angen ei wneud i'r eiddo cyn i chi ei brynu.

Prynu eiddo

Pan fyddwch yn ystyried prynu eiddo mae'n syniad da cael gwybod a oes unrhyw broblemau gyda'r strwythur. Dylech hefyd wybod a oes angen gwneud unrhyw waith atgyweirio neu addasiadau. Gallai cael arolwg o'r eiddo arbed amser ac arian i chi yn y tymor hir, gan y gallech ddod o hyd i ddiffygion costus cyn i chi brynu'r eiddo. Mae gwahanol fathau o arolygon ar gael i chi, ac maent yn amrywio yn ôl faint o wybodaeth a chyngor y mae arnoch ei eisiau am yr eiddo.

Mathau o arolwg

Efallai fod y sawl sy'n gwerthu'r eiddo i chi wedi cynnal Adroddiad Cyflwr y Cartref. Mae Adroddiad Cyflwr y Cartref yn rhan ddewisol o'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref y mae'n rhaid i werthwyr ei baratoi ar gyfer darpar brynwyr. Os yw'r gwerthwr wedi paratoi Adroddiad Cyflwr y Cartref, gallwch ddefnyddio'r adroddiad i gael gwybodaeth am gyflwr yr eiddo. Fodd bynnag, os bydd angen rhagor o gyngor arnoch, mae'n bosibl y byddwch yn penderfynu cael arolwg arall o'r eiddo.

Mae tri phrif fath o arolwg ar gael i brynwyr:

Prisio

Mae arolwg prisio yn dweud wrth y benthyciwr beth yw gwerth yr eiddo. Y cwmni morgais fydd yn cynnal hwn fel rheol os oes angen morgais arnoch i brynu'r eiddo.

Arolwg prynwyr a phrisio

Mae arolwg prynwyr yn rhoi gwybod am ddiffygion yr eiddo, ei gyflwr a'i werth.

Arolwg adeilad

Mae'r math hwn o arolwg yn darparu adroddiad manylach na'r arolwg prynwyr. Argymhellir yr arolwg hwn ar gyfer eiddo hŷn ac eiddo y mae angen gwaith arno, neu er mwyn cael tawelwch meddwl.

Gwnewch yn siŵr bod y sawl sy'n cynnal yr arolwg yn gymwys i wneud hynny. Gallwch ddod o hyd i syrfëwr cymwys yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Beth i'w wneud os aiff pethau o chwith

Mae’n bosib y byddwch yn canfod problem gyda'ch pryniant newydd y teimlwch y dylai'r syrfëwr fod wedi'i gweld. Os felly, dylech gwyno i’r person neu’r sefydliad a oedd wedi cynnal yr arolwg yn ysgrifenedig. Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb, dylech gael cyngor gan gyfreithiwr neu Gyngor ar Bopeth.

Gwarantau ar gyfer eiddo newydd

Os byddwch yn prynu eiddo sy'n iau na deng mlwydd oed, mae'n bosibl ei fod wedi'i ddiogelu dan warant adeiladu. Bydd y warant yn eich gwarchod os daw unrhyw ddiffygion y mae angen eu dadwneud i'r amlwg. Efallai y bydd y darparwr gwarant yn cynnig trwsio neu dalu arian os bydd problemau neu ddiffygion penodol yn codi gyda'r eiddo. Dylech wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa fathau o ddiffygion sydd wedi'u cynnwys yn y warant, a pha rai nad ydynt wedi'u cynnwys. Os byddwch yn gwerthu'r eiddo o fewn cyfnod y warant, caiff y warant ei throsglwyddo i'r perchennog newydd fel rheol.

Additional links

Arbed ynni

Gwnewch eich cartref yn fwy effeithlon drwy gael grant

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU