Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Mynd i weld eiddo yr ydych chi’n ystyried ei brynu

Pan fyddwch yn mynd i weld eiddo, mae'n hawdd anghofio gofyn cwestiynau pwysig. Defnyddiwch y rhestrau atgoffa hyn i'ch helpu i baratoi ar gyfer ymweld ag eiddo y mae gennych ddiddordeb ynddo. Mae'r rhestrau yn cynnwys cwestiynau y gallech eu gofyn i'r gwerthwr a beth i gadw llygad amdano tra byddwch yn yr adeilad.

Ymchwilio i'r ardal a'r eiddo

Ceisiwch wneud cymaint ag y gallwch o waith ymchwil ar yr ardal a'r eiddo. Bydd yn llai tebygol felly eich bod yn gwastraffu'ch amser yn mynd i weld rhywbeth nad yw'n bodloni'ch anghenion.

Bydd Pecyn Gwybodaeth am y Cartref yn darparu ychydig o wybodaeth, felly gofynnwch i'r gwerthwr ddarparu copi. Darllenwch 'Dewis ardal newydd i fyw' i'ch helpu i ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth gefndir am ardal.

Mynd i weld yr eiddo

Pan fyddwch yn barod i fynd i weld yr eiddo:

  • ewch â rhywun arall gyda chi os oes modd, yn ddelfrydol rhywun â chwaeth wahanol i chi a all weld pethau y byddwch chi yn eu methu
  • ewch i weld yr eiddo yn ystod y dydd gan y byddwch yn gallu ei weld yn well a sylwi ar broblemau
  • os ydy'r eiddo'n apelio atoch, trefnwch i fynd i'w weld eto ar wahanol adeg o'r dydd er mwyn cael persbectif gwahanol
  • ceisiwch beidio â mynd i weld gormod o dai mewn un diwrnod
  • mynnwch dreulio amser yn edrych o gwmpas yr eiddo
  • peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau uniongyrchol a di-flewyn-ar-dafod am yr eiddo
  • peidiwch â gadael i'r gwerthwr na'r gwerthwr tai roi pwysau arnoch i wneud cynnig

Cwestiynau i'w gofyn i'r gwerthwr

Mae'n bosib y byddwch eisiau gofyn y cwestiynau isod i'r gwerthwr:

  • beth sy'n cael ei gynnwys yn y gwerthiant - tir, garej, dodrefn, gosodion, ac ati
  • faint yw'r Dreth Cyngor a chostau biliau gwasanaethau ar gyfartaledd megis trydan, dŵr, nwy
  • pam fod y rhai sy'n gwerthu'n symud
  • a gafwyd problemau gyda'r boeler; pryd y cafodd ei wasanaethu ddiwethaf gan beiriannydd Diogelwch Nwy
  • os oes atig yno, ydy'r atig wedi'i inswleiddio - os ydyw, ers pryd
  • a yw waliau ceudod yr adeilad wedi cael eu hinswleiddio
  • ydy'r eiddo wedi'i newid mewn unrhyw ffordd ac os ydy, ydy'r cydsyniadau cynllunio a rheoli adeiladu ar gael i'w harchwilio
  • a oes gwres canolog llawn yn yr adeilad - os oes, pa mor hen ydyw
  • ydy'r eiddo mewn ardal gadwraeth neu yn adeilad rhestredig - gallai hyn gyfyngu ar unrhyw waith adnewyddu yn y dyfodol
  • a yw unrhyw un o'r ystafelloedd wedi cael eu haddurno yn ddiweddar - os felly, pam
  • sut rai ydy'r cymdogion - a ydynt yn swnllyd
  • a oes anghydfod wedi bod gyda'r cymdogion neu gyda rhywun sy'n byw gerllaw

Tu mewn i'r eiddo - pethau i gadw llygad amdano

Cadwch lygad am y canlynol pan fyddwch y tu mewn i'r eiddo:

  • a oes angen diweddaru'r eiddo - os oes, faint fydd hyn yn ei gostio
  • ydy'r ystafelloedd yn ddigon mawr ar gyfer eich anghenion - dodrefn ac ati
  • sut fath o olygfeydd sydd yno
  • sut mae'r dŵr yn cael ei gynhesu - tanc neu foeler cyfun, ac ati
  • a oes unrhyw arwydd o ymsuddiant, fel craciau mawr yn y waliau neu'r drysau'n glynu
  • a oes arogl tamp neu unrhyw arwydd arall megis y waliau'n teimlo'n llaith, y papur wal yn codi neu'r paent yn byblo, marciau dŵr neu lwydni
  • a oes paent wedi cracio ar fframiau'r ffenestri; os gallwch wasgu'ch bys yn hawdd i'r pren, mae wedi pydru
  • faint o le storio sydd yno
  • a oes digon o bwyntiau trydan - pa mor hen ydyn nhw
  • ydy'r lle'n teimlo fel y gallai fod yn gartref i chi

Lleoliad - pethau i feddwl amdanynt

Dylech hefyd wneud yn siŵr fod y lleoliad yn bodloni'ch gofynion, felly dyma rai pethau i feddwl amdanynt pan fyddwch yn dewis rhywle i fyw:

  • priffyrdd, neu dafarndai, clybiau neu fwytai gerllaw - gallant fod yn swnllyd
  • rheilffyrdd cyfagos
  • llwybrau hedfan uwchben
  • teimlad y gymuned - ydy'r lle'n teimlo'n gyfeillgar
  • a oes digon o olau naturiol yn cyrraedd y tŷ
  • ydy'r eiddo wedi'i gynnal a'i gadw'n dda
  • oed yr eiddo
  • maint yr ardd
  • cyflwr eiddo cyfagos
  • sut mae'r drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal
  • ydy'r ysgolion lleol yn dda
  • a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer datblygu yn yr ardal
  • pa gyfleusterau sydd ar gael yn lleol - siopau, ysbytai, cyfleusterau hamdden, ac ati.
  • beth ydy'r lefel droseddu yn yr ardal

Additional links

Arbed ynni

Gwnewch eich cartref yn fwy effeithlon drwy gael grant

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU