Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Rhaid i bob un o werthwyr tai'r DU sydd ynghlwm â gwaith gwerthu tai preswyl berthyn i gynllun gwneud iawn sydd wedi'i gymeradwyo. Bydd y cynllun yn delio â chwynion ynghylch prynu a gwerthu eiddo preswyl, gan gynnwys Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref.
Rhaid i bob busnes sy'n gwneud gwaith gwerthu tai o dan Ddeddf Gwerthwyr Tai 1979 (DAC 79) berthyn i gynllun gwneud iawn sydd wedi'i gymeradwyo (hyd yn oed os nad ydyn nhw'n galw'u hunain yn werthwr tai).
Bydd cosb o £1,000 i unrhyw werthwyr tai sydd heb ymuno â chynllun sydd wedi'i gymeradwyo, a gellir eu cosbi fwy nag unwaith os bydd angen. Yn y pen draw, fe'u gwaherddir rhag gwneud gwaith gwerthu tai os byddan nhw'n gwrthod ymuno â chynllun.
Ceir dau gynllun gwneud iawn ar gyfer gwerthwyr tai. Gofynnwch i'ch gwerthwr tai i ba gynllun y mae'r cwmni'n perthyn.
Rhaid i aelodau cynllun yr Ombwdsmon Eiddo (TPO) arddangos logo'r TPO a chael copïau o ganllaw defnyddwyr y TPO ar gael.
Dylai aelodau'r Gwasanaeth Ombwdsmon Syrfewyr (SOS) gynnig copi o'u gweithdrefn delio â chwynion i chi, a gaiff ei amlinellu os yw'r cwmni'n aelod o'r SOS.
Gallwch wneud cwyn i'r Ombwdsmon Eiddo os ydych chi'n anfodlon â'r gwasanaeth a ddarperir gan werthwr tai sy'n aelod o'r cynllun TPO.
Cyn i chi wneud cwyn i'r Ombwdsmon, rhaid eich bod wedi cwyno i'r cwmni a'ch bod wedi rhoi cyfle teg iddynt ddelio â'r broblem.
Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut mae cael gwybod a yw'ch gwerthwr yn aelod a pha gwynion y gall yr Ombwdsmon ymchwilio iddynt, darllenwch y canllaw defnyddwyr ar wefan y TPO.
Sut mae cwyno
Gallwch gael cyngor a chael gwybod sut mae cwyno ar wefan yr Ombwdsmon Eiddo.
Mae'n ofynnol i gwmnïau sy'n aelodau gydymffurfio â phenderfyniadau'r Ombwdsmon. Os na fyddan nhw’n gwneud hynny, gellid dileu aelodaeth y cwmni.
Gallwch wneud cwyn i'r Gwasanaeth Ombwdsmon Syrfewyr os ydych chi'n anfodlon â'r gwasanaeth a ddarperir gan syrfëwr (neu werthwr tai nad yw'n syrfëwr) sy'n aelod o'r cynllun SOS.
Cyn i chi wneud cwyn i'r Ombwdsmon, rhaid eich bod wedi cwyno i'r cwmni a'ch bod wedi rhoi cyfle teg iddynt ddelio â'r broblem.
Sut mae cwyno
Gallwch gael cyngor a chael gwybod sut mae cwyno ar wefan y Gwasanaeth Ombwdsmon Syrfewyr.