Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Defnyddio gwerthwr tai – gwerthu eiddo

Os ydych chi am werthu eiddo ac os oes arnoch eisiau defnyddio gwerthwr tai, fel arfer bydd yn rhaid i chi lofnodi contract a thalu ffi. Yma, cewch wybod mwy ynghylch dod o hyd i werthwr tai a llofnodi'r contract.

Dod o hyd i werthwr tai

Os ydych yn dewis defnyddio gwerthwr tai i’ch helpu i werthu’ch eiddo, sicrhewch eich bod yn chwilio am y cwmni sy'n iawn ar eich cyfer chi. Holwch deulu a ffrindiau am argymhellion.

Mudiadau masnachu ar gyfer Gwerthwyr Tai

Os byddwch yn dewis gwerthwr tai sydd wedi'i gofrestru gyda mudiad masnachu, bydd hyn yn rhoi syniad i chi o'r safonau y mae’n eu harddel yn ei waith. Mae mudiadau masnachu yn gosod safon o ymddygiad proffesiynol y mae'n rhaid i'w aelodau ei dilyn.

Mae Cymdeithas Genedlaethol y Gwerthwyr Tai (NAEA), Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ac Urdd y Gwerthwyr Tai Proffesiynol yn fudiadau masnachu y gall Gwerthwyr Tai fod yn perthyn iddynt. Drwy ddilyn y dolenni uchod, cewch wybodaeth ynglŷn â’r rheolau ar gyfer ymddygiad aelodau’r mudiadau hyn.

Rhaid i bob gwerthwr tai gydymffurfio â'r Ddeddf Gwerthwyr Tai, pa un ai ydyw wedi cofrestru gyda mudiad masnachu ai peidio.

Y contract a'r ffioedd

Wrth ddefnyddio gwerthwr tai i'ch helpu chi werthu eiddo, mae’n rhaid i chi lofnodi contract sy’n rhwymo o dan y gyfraith. Ar ôl i chi ei lofnodi, mae’n rhaid i chi gadw at delerau’r contract neu gallech wynebu achos llys.

Cyn ichi lofnodi’r contract

Cyn llofnodi, darllenwch y contract yn ofalus a sicrhau eich bod yn ei ddeall. Holwch a oes gennych chi’r hawl i ganslo'r contract a holwch am ba mor hir y bydd yn rhedeg. Dylai roi cyfnod rhesymol o amser i farchnata'ch eiddo a dod o hyd i brynwyr posibl. Byddwch yn wyliadwrus o gontractau sy'n eich clymu i werthwr tai am amser maith. Os ydych yn ansicr, ceisiwch gyngor gan dwrnai neu'ch Canolfan Cyngor Ar Bopeth leol.

Holi ystyr termau anghyfarwydd

Mae’n bosib y byddwch yn dod ar draws rhai termau anghyfarwydd mewn contract. Sicrhewch eich bod yn deall yr hyn rydych yn cytuno iddo. Rhaid i'r termau 'unig asiantaeth', 'yr unig hawl i werthu' a 'prynwr parod, bodlon ac abl' gael eu hesbonio ar bapur os defnyddir hwy mewn contract. Sicrhewch eich bod yn deall faint fydd yn rhaid i chi ei dalu, pryd ac o dan ba amgylchiadau.

Cwynion am Werthwyr Tai

Mae’n rhaid i bob gwerthwr tai berthyn i gynllun gwneud iawn sydd wedi’i gymeradwyo, er mwyn delio â chwynion. Bydd cynlluniau gwneud iawn yn eich helpu os oes gennych gŵyn am werthwr tai. I gael gwybod mwy am gynlluniau gwneud iawn, darllenwch ‘Gwerthwyr tai – gwneud cwyn’.

Darparu Pecyn Gwybodaeth am y Cartref

Os ydych chi am werthu eich cartref, bydd angen i chi ddarparu Pecyn Gwybodaeth am y Cartref i brynwyr cyn gynted ag y bydd yr eiddo ar werth. I gael gwybod beth y mae arnoch angen ei wneud, gweler 'Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref: canllaw i werthwyr’.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU