Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd y pris a gewch am werthu eich cartref presennol yn hollbwysig ar gyfer penderfynu ar eich cam nesaf. Mae'n talu gwneud rhywfaint o ymchwil er mwyn sicrhau y cewch y pris gorau yn yr amser byrraf.
Gallwch gael syniad o'r prisiau yn eich ardal cyn gwerthu trwy ymweld â gwefan y Gofrestrfa Tir. Yma gallwch weld beth yn union sy'n digwydd i brisiau eiddo ar gyfartaledd yng Nghymru a Lloegr.
Gallwch chwilio am y prisiau tai diweddaraf trwy:
Gallwch ddod o hyd i brisiau cyfartalog yn Llundain Fwyaf yn ôl bwrdeistrefi unigol Llundain.
Ym mha ffordd bynnag y dewiswch werthu'ch cartref, gallwch ofyn i werthwyr tai lleol ei brisio a hynny heb ymrwymiad. Mae'n well cael tri phris er mwyn cael barn gytbwys.
Os ydych am werthu trwy werthwr tai, efallai nad yr un a roddodd y pris uchaf yw'r un gorau i'w ddewis bob tro. Dylech ddod i wybod ychydig am y farchnad dai yn lleol a phrisiau cyn gwneud eich dewis. Bydd hyn yn rhoi syniad mwy realistig i chi o'r pris y gallech ei gael am eich eiddo ac osgoi unrhyw oedi hir cyn y bydd eich cartref yn cael ei werthu.