Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Symud i'ch cartref newydd

Mae cymaint i'w drefnu dim ond i bacio ar gyfer symud fel ei bod hi'n ddigon hawdd anghofio pethau pwysig. Defnyddiwch y rhestr wirio hon ryw bythefnos cyn i chi symud i wneud yn siŵr eich bod wedi ystyried popeth. Ond byddwch yn ofalus - peidiwch â rhoi eich cyfeiriad newydd i neb tan i'r contractau gael eu cyfnewid, gan y gall y gwerthiant fynd i'r wal o hyd gan eich gorfodi i gysylltu â phawb eto.

Gwneud yn siŵr eich bod wedi cofio am bopeth

Defnyddiwch y rhestr wirio isod i'ch helpu i gofio gyda phwy y bydd arnoch angen cysylltu.

Ydych chi wedi cysylltu â'ch swyddfa Treth Cyngor?

Cysylltwch â swyddfa Treth Cyngor eich cyngor lleol ar-lein i roi gwybod iddynt ynghylch y newid yn eich amgylchiadau, ac i roi gwybod iddynt pryd y byddwch yn symud o'ch cartref presennol a phryd y byddwch yn symud i'ch cartref newydd er mwyn iddynt allu anfon bil cywir atoch.

Os ydych yn derbyn budd-daliadau, ydych chi wedi dweud wrth eich darparwr budd-daliadau?

Rhowch eich manylion i'r Ganolfan Byd Gwaith lleol neu, os nad oes Canolfan Byd Gwaith yn eich ardal, cysylltwch â'ch Canolfan Gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol. Gallwch ddefnyddio'r ddolen Canolfan Byd Gwaith i ddod o hyd i'ch Canolfan Byd Gwaith, Canolfan Gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol agosaf.

Ydych chi wedi ailgyfeirio eich post i'ch cyfeiriad newydd?

Gallwch lwytho'r ffurflen oddi ar wefan Swyddfa'r Post. Gall gymryd hyd at 10 diwrnod i'w drefnu ac mae ffi i'w thalu.

Ydych chi wedi dweud wrth ddarparwyr y prif wasanaethau (nwy, dŵr, trydan)?

Rhaid i chi ddweud wrthynt eich bod yn symud o leiaf 48 awr ymlaen llaw. Rhowch fanylion eich cyflenwr presennol i'r bobl sy'n symud i mewn. Ar ddiwrnod y symud, bydd angen i chi ddarllen y mesuryddion yn y ddau eiddo er mwyn iddynt allu darparu biliau cywir. Pan fyddwch yn symud i'ch cartref newydd, cysylltwch â'r cwmni yr ydych am gael y prif wasanaethau ganddo fel y gall eich cofrestru fel cwsmer newydd a dechrau'ch bilio o'r diwrnod hwnnw.

Ydych chi wedi diweddaru eich trwydded yrru a'ch dogfen cofrestru cerbyd?

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) o unrhyw newidiadau i'ch enw, i'ch cyfeiriad neu'r ddau yn syth. Rhaid i chi hefyd roi gwybod i'r DVLA os yw'r enw neu'r cyfeiriad ar y dystysgrif gofrestru yn anghywir. Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod sut i wneud y newidiadau hyn.

Ydych chi wedi diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol?

Mae'r gofrestr yn cael ei diweddaru bob mis a rhaid i'ch enw fod arni er mwyn gallu pleidleisio. Gellir cael ffurflen ar wefan 'About my vote' y Comisiwn Etholiadol. Gallwch lenwi'r ffurflen ar-lein, neu ei llwytho i lawr a'i hanfon i'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol yn eich cyngor lleol.

Ydych chi wedi rhoi gwybod i TV Licensing?

Bydd angen trosglwyddo'ch trwydded deledu i'ch cyfeiriad newydd. Gallwch wneud hyn ar-lein neu drwy ffonio 0870 241 6468.

Gwasanaethau newid cyfeiriad

Gallwch roi eich cyfeiriad newydd i lawer o wahanol sefydliadau, gan gynnwys cwmnïau nwy a ffôn a swyddfeydd y llywodraeth, trwy ddefnyddio gwasanaethau newid cyfeiriad. Gellir dod o hyd i'r rhain trwy chwilio ar-lein.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU