Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer y cynlluniau 'Hawl i Brynu' neu 'Hawl i Gaffael', neu os na allwch eu fforddio, mae dal yn bosib i chi gael cymorth i brynu eich tŷ cyngor neu'ch tŷ cymdeithas dai.
Mae'r Cynllun Cymorth Prynu-Tŷ Cymdeithasol yn rhoi'r cyfle i denantiaid tai cyngor a chymdeithasau tai brynu cyfran o werth y farchnad eu cartref presennol. Mae hefyd yn rhoi gostyngiad o rhwng £9,000 ac £16,000 i chi, gan ddibynnu ar leoliad yr eiddo a maint y gyfran yr ydych yn ei phrynu.
Nid yw pob cyngor lleol na chymdeithas dai yn cynnig y cynllun. Bydd angen i chi ofyn i'ch cyngor lleol neu'ch asiantaeth dai a ydynt yn cynnig y cynllun neu a yw eich cartref wedi'i gynnwys yn y cynllun.
Gall tenantiaid brynu o leiaf 25 y cant o werth yr eiddo a thalu rhent cychwynnol o ddim mwy na thri y cant o werth marchnad gweddill yr ecwiti y mae'r landlord yn berchen arno. Bydd faint o ostyngiad gewch chi yn gymesur â'r gyfran o'r eiddo a brynwch.
Enghreifftiau |
---|
Pe bai tŷ cyngor yn werth £240,000, a thenant yn prynu cyfran o 50 y cant, byddai'r tâl a godir gan y landlord (sef tri y cant) yn £3,600, ac felly'n £300 y mis. |
Os ydych chi'n gymwys am gyfanswm o £16,000 o ddisgownt gan eich cyngor/cymdeithas dai a'ch bod yn dymuno prynu 50 y cant o eiddo sy'n werth £200,000, byddech yn cael gostyngiad o £8,000 ar eich cyfran chi. |
Gallech brynu 100 y cant o werth yr eiddo gyda'r gostyngiad llawn os gallwch ei fforddio.
Mae gan y prynwr hawl i ostyngiad ar unrhyw gyfrannau eraill y byddant yn eu prynu, nid dim ond ar y gyfran gychwynnol. Felly gyda'r enghraifft uchod, os gwnaethoch brynu 25 y cant ychwanegol, byddech yn cael gostyngiad ychwanegol o £4,000.
Dim ond os yw'r canlynol yn berthnasol y gallwch gael Cymorth i Brynu Tŷ Cymdeithasol:
Os oes gennych denantiaeth ar y cyd, fel arfer byddwch yn prynu gyda'r tenant arall. Cewch hefyd gynnwys hyd at dri aelod o'ch teulu - ar yr amod eu bod wedi byw gyda chi am 12 mis cyn i chi wneud cais am y cynllun. Efallai y bydd tenantiaethau blaenorol gyda'r cyngor yn cyfrif, hyd yn oed os nad oedden nhw'n dilyn ei gilydd yn barhaus.
Rhaid gwneud cais yn uniongyrchol i'ch landlord (y cyngor lleol neu'r gymdeithas dai). Os ydych chi'n denant i'r awdurdod lleol cysylltwch â'ch cyngor lleol. Mae gan yr Awdurdod Gwasanaethau i Denantiaid restr o bob cymdeithas dai - a elwir hefyd yn Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Bydd y ddolen isod yn eich galluogi i chwilio am fanylion cyswllt eich cymdeithas dai yn ôl enw, math a rhif cofrestru.