Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y cynllun Cymorth Prynu Uniongyrchol

Os ydych chi'n prynu tŷ am y tro cyntaf ac na allwch fforddio prynu tŷ heb help, mynnwch wybodaeth am y cynllun 'Cymorth Prynu Uniongyrchol'. Gallech gael 'benthyciad ecwiti' o hyd at 30 y cant o gost yr eiddo.

Cymorth Prynu Uniongyrchol - pwy gaiff wneud cais?

Mae'r cynllun Cymorth Prynu Uniongyrchol ar gael ar gyfer eiddo penodol ym mhob rhanbarth yn Lloegr. Cyn y gallwch gael tŷ drwy'r cynllun mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Mae'r cynllun yn cael ei ddarparu drwy 'asiantau Cymorth Prynu', a all eich helpu gyda'r broses ymgeisio ar gyfer cael tŷ. Bydd Cymdeithasau Tai, sef sefydliadau di-elw sy'n rheoli tai ar gyfer pobl sy'n cael anhawster prynu tŷ, yn cael eu penodi'n asiantau Cymorth Prynu.

Mae Cymorth Prynu Uniongyrchol ar agor i aelwydydd sy'n ennill llai na £60,000 y flwyddyn na fyddent, fel arall, yn gallu prynu tŷ.

Gallech fod yn gymwys:

  • os ydych yn brynwr tro cyntaf
  • os oeddech chi'n arfer bod yn berchen ar dŷ ond na allwch fforddio prynu heb gymorth erbyn hyn (efallai am eich bod chi a'ch partner wedi gwahanu)
  • os ydych yn denant i'r cyngor neu i gymdeithas dai
  • os ydych yn 'weithiwr allweddol' (yn weithiwr allweddol yn y sector cyhoeddus, er enghraifft nyrs neu athro)

Dilynwch y ddolen isod i weld a ydych chi'n weithiwr allweddol.

Sut i wneud cais


Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael cymorth i brynu cartref drwy'r cynllun Cymorth Prynu Uniongyrchol, cysylltwch â'ch asiant Cymorth Prynu. Os ydych chi'n weithiwr allweddol, dylech gysylltu â'r asiant Cymorth Prynu yn yr ardal yr ydych yn gweithio ynddi.

Gallwch ddod o hyd i'ch asiant Cymorth Prynu lleol drwy ddilyn y ddolen isod.

Sut mae Cymorth Prynu Uniongyrchol yn gweithio?

Bydd eich asiant Cymorth Prynu lleol yn asesu a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun, cyn edrych ar yr opsiynau sydd ar gael yn eich ardal chi. Gallwch gael help i brynu rhai adeiladau sydd newydd gael eu codi drwy'r cynllun Cymorth Prynu Uniongyrchol.

Bydd angen i chi allu talu o leiaf 70 y cant o gost yr eiddo. Bydd angen gwneud hyn drwy forgais gan fenthyciwr cymwys sy'n cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ac unrhyw gynilion.

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd arnoch dal angen rhywfaint o arian er mwyn talu'r costau sy'n gysylltiedig â phrynu tŷ, megis Treth Stamp, ffioedd cyfreithiol ac unrhyw flaendal.

Os ydych chi'n gymwys:

  • gallech gael 'benthyciad ecwiti' gwerth rhwng 15 a 30 y cant o gost eiddo sydd newydd gael ei adeiladu
  • bydd angen i chi ad-dalu'r benthyciad ecwiti pan fyddwch yn gwerthu'r eiddo
  • gallwch ddewis ad-dalu rhywfaint o'r benthyciad, neu'r benthyciad i gyd, yn gynt, drwy brynu mwy o gyfranddaliadau ecwiti yn yr eiddo (ar gyfradd y farchnad)

Bydd y cynllun Cymorth Prynu Uniongyrchol ar agor yn llawn yn fuan. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu eiddo drwy'r cynllun, cysylltwch â'ch asiant Cymorth Prynu lleol am gyngor.

Beth yw benthyciad ecwiti?

Bydd darparwyr benthyciadau ecwiti yn rhannu unrhyw gynnydd (neu ostyngiad) yng ngwerth yr eiddo dros gyfnod y benthyciad. Drwy ad-dalu'r benthyciad i gyd, neu ran ohono, yn gynt, gallwch leihau'r swm y bydd gan eich darparwr hawl iddo pan gaiff eich cartref ei werthu. Darperir benthyciadau ecwiti ar gyfer y cynllun Cymorth Prynu Uniongyrchol drwy arian cyhoeddus a chan adeiladwyr tai sy'n rhan o'r cynllun.

A fydd yn rhaid i chi dalu ffioedd neu gostau ar y benthyciad ecwiti

Yn ystod pum mlynedd gyntaf y benthyciad, ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi. Ar ôl hyn, codir tâl bach bob mis.

Gewch chi werthu eich eiddo Cymorth Prynu Uniongyrchol?

Cewch. Pan fyddwch yn gwerthu eich cartref, bydd angen i chi ad-dalu eich morgais a'ch benthyciad ecwiti gyda'r arian a gewch o werthu.

Os yw gwerth eich cartref wedi codi, bydd yn rhaid i chi rannu'r elw rhyngoch chi a darparwyr y benthyciad ecwiti. Os cawsoch fenthyciad ecwiti o 25 y cant i brynu'r eiddo, bydd eich darparwr ecwiti yn cael 25 y cant o'r arian pan fyddwch yn gwerthu'r eiddo.

Os yw gwerth eich cartref wedi disgyn pan rydych yn gwerthu, bydd angen i chi ad-dalu eich morgais yn gyntaf. Yna, bydd angen i chi ad-dalu'r benthyciad ecwiti o'r hyn sy'n weddill.

Allweddumynediad llywodraeth y DU