Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Tenantiaethau cyngor diogel

Os yw eich cyngor yn gweithredu cynllun tenantiaeth gyflwyniadol, byddwch yn derbyn tenantiaeth ddiogel ar ôl 12 mis yn awtomatig, ar yr amod nad ydych wedi torri amodau eich tenantiaeth.

Eich hawliau dan denantiaeth ddiogel

Mewn tenantiaeth ddiogel, ar yr amod eich bod yn bodloni meini prawf perthnasol neu'n derbyn y caniatâd angenrheidiol, mae gennych chi'r hawl i'r canlynol:

  • byw yn eich cartref am weddill eich oes ar yr amod eich bod yn parhau i gydymffurfio â gofynion eich cytundeb tenantiaeth
  • prynu eich tw am bris gostyngol, ar ôl cyfnod penodol
  • trosglwyddo eich cartref pan fyddwch yn marw i rywun yn eich teulu fel eu bod yn etifeddu'r denantiaeth, ar yr amod eich bod chi heb etifeddu'r denantiaeth eich hun (yn dibynnu ar rai amodau).
  • cynnig llety i rywun arall neu isosod rhan o'ch cartref (serch hynny, dylech gofio y gallai hyn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau tai rydych yn eu derbyn)
  • trwsio eich tw (y tenant sy'n ysgwyddo cyfrifoldeb dros drwsio rhai pethau a'r cyngor sy'n gyfrifol am drwsio pethau eraill - holwch eich cyngor lleol am ragor o wybodaeth)
  • gwneud gwelliannau i'ch cartref (ar yr amod eich bod yn derbyn caniatâd gan eich cyngor)
  • derbyn iawndal am welliannau penodol a wnaethoch os ydych yn symud tw
  • helpu i reoli eich ystâd
  • cyfnewid eich eiddo am un arall
  • bod yn rhan o'r broses ymgynghori ar faterion rheoli tai
  • derbyn gwybodaeth am sut mae eich cyngor yn rhedeg y tai y mae'n berchen arnynt

Eich cyfrifoldebau dan denantiaeth ddiogel

Mewn tenantiaeth ddiogel, rydych chi'n ysgwyddo'r cyfrifoldebau canlynol:

  • rhaid i chi fodloni'r gofynion a nodir yn eich cytundeb tenantiaeth
  • rhaid i chi dalu'r rhent yn brydlon
  • rhaid i chi fod yn gymydog da gan beidio ag achosi niwsans, bod yn boen na tharfu ar denantiaid eraill

Mathau eraill o denantiaeth cyngor

Mae gan y rhan fwyaf o denantiaid y cyngor sy'n byw mewn llety hunangynhaliol denantiaethau diogel. Fodd bynnag, nid yw pob un sy'n rhentu gan y Cyngor lleol yn disgyn i'r categori hwn. Nid oes gennych denantiaeth ddiogel os yw'r canlynol yn wir:

  • roedd eich tenantiaeth wedi dechrau lai na blwyddyn yn ôl a bod eich Cyngor yn gweithredu tenantiaeth gyflwyniadol. Os ydynt, byddwch yn denant cyflwyniadol. Tenantiaeth ar gyfnod prawf yw hon ac mae'n golygu y gall eich landlord eich troi allan yn haws
  • rydych yn byw mewn llety dros dro a drefnwyd i chi gan eich cyngor oherwydd eich bod yn ddigartref. Er nad oes gennych denantiaeth cyngor, dylech gael blaenoriaeth ar restr aros am denantiaeth. Os ydych chi'n cael cynnig tenantiaeth, byddwch naill ai'n cael tenantiaeth gyflwyniadol neu ddiogel.
  • roedd gennych denantiaeth ddiogel ond mae'r denantiaeth wedi'i hisraddio oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol. O'r herwydd bydd gennych denantiaeth wedi'i hisraddio am flwyddyn. Bydd gennych hawliau cyffelyb â thenantiaeth gyflwyniadol, felly gellir eich troi allan o'ch cartref yn haws os ydych yn torri telerau'ch tenantiaeth.
  • rydych yn gweithio i'r Cyngor ac yn cael eich cartref yn sgil eich swydd. Os hynny, rydych yn breswylydd gwasanaeth fwy na thebyg, felly mae gennych hawliau gwahanol iawn i denantiaid eraill.

Cytundeb tenantiaeth

Dylai'ch cyngor roi cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig sy'n egluro'ch hawliau a'ch cyfrifoldebau fel tenant. Dylai'r ddogfen hon ddatgan:

  • pa fath o denantiaeth sydd gennych
  • beth yw eich hawliau a'ch cyfrifoldebau
  • dan ba amgylchiadau y gallech chi gael eich troi allan o'ch cartref
  • sut y dylid gwneud atgyweiriadau
  • faint o rent fydd rhaid i chi dalu, pryd fydd rhaid i chi dalu a phryd y gellid cynyddu'r swm

Prynu'ch eiddo

Mae rhai cynghorau hefyd yn gweithredu cynlluniau eraill er mwyn helpu eu tenantiaid i gael eu troed yn y farchnad dai. Efallai y gallwch brynu lle drwy ranberchenogaeth, cynllun Cymorth Prynu'r llywodraeth neu gynllun cymhelliad ariannol. Holwch eich cyngor neu mewn canolfan gynghori i gael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal.

Tenantiaethau israddedig

Tenantiaeth gan y cyngor am gyfnod prawf o flwyddyn yw tenantiaeth israddedig. Mae cynghorau'n defnyddio tenantiaethau israddedig fel camau yn erbyn tenantiaid sydd wedi bod yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol.

Hefyd, mae'n bosib bod gennych denantiaeth israddedig ar ôl i'r llys wneud gorchymyn i israddio'ch tenantiaeth ddiogel, ac nid oes blwyddyn wedi mynd heibio ers y gorchymyn hwnnw. Dylai'r cyngor fod wedi anfon gwybodaeth atoch am eich hawliau a gall llythyrau oddi wrth y llys gadarnhau am faint o amser y bydd eich tenantiaeth wedi'i hisraddio. Taflwch olwg dros y wybodaeth hon, ac os ydych chi'n dal i fod yn ansicr, holwch eich cyngor.

Os nad ydych chi'n achosi niwsans nac yn torri'ch cytundeb tenantiaeth mewn unrhyw ffordd arall, dylech gael eich tenantiaeth ddiogel yn ôl yn awtomatig ar ôl 12 mis.

Mae gan denantiaethau israddedig lawer o'r un hawliau a thenantiaethau diogel, ond gall tenantiaid fel hyn gael eu troi allan yn llawer haws.

Os ydych chi wedi cael eich israddio, bydd eich hawliau'n debyg iawn i denantiaethau diogel, ond dylech fod yn ymwybodol o'r canlynol:

  • Mae eich gallu i fanteisio ar y cynllun cymorth prynu wedi'i atal hyd nes i chi dderbyn eich tenantiaeth ddiogel yn ôl
  • Fel arfer, nid oes hawl gennych gynnig llety i rywun arall nac isosod eich tw (os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud hyn dylech gysylltu â'ch cyngor i drafod hyn ymhellach)
  • Ni allwch chi drosglwyddo na chyfnewid eich tw os yw eich tenantiaeth wedi'i hisraddio
  • Mae rheolau arbennig yn berthnasol i denantiaethau israddedig - cysylltwch â'ch cyngor i drafod hyn ymhellach.

Allweddumynediad llywodraeth y DU