Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae llawer o gynghorau yn cynnig yr hyn a elwir yn 'denantiaeth gyflwyniadol'. Tenantiaeth 12 mis ar brawf yw hwn. Ar ôl y cyfnod prawf gall tenantiaid gael tenantiaeth ddiogel, ar yr amod eu bod yn bodloni amodau eu cytundeb tenantiaeth.
Os yw eich cyngor yn rhedeg cynllun tenantiaeth gyflwyniadol (nid yw pob cyngor yn rhedeg y cynllun) rydych chi fwy na thebyg yn denant cyflwyniadol os ydych yn bodloni'r holl amodau canlynol:
Mae'n bwysig gwybod na all eich cyngor wahaniaethu rhwng pobl drwy roi tenantiaethau cyflwyniadol i rai ac nid i eraill. Os oes gan eich cyngor gynllun tenantiaeth gyflwyniadol, rhaid i'r cyngor roi'r cynllun ar waith ar gyfer pob tenant newydd.
Mae tenantiaeth cyngor gyflwyniadol yn rhoi fwy neu lai yr un hawliau i chi ag y mae tenantiaeth cyngor ddiogel, ond gallwch gael eich troi allan o'ch cartref yn haws os ydych yn denant cyflwyniadol. Ar ben hynny, ni all tenantiaid cyflwyniadol wneud y canlynol:
Fel tenant cyflwyniadol, bydd gennych yr hawliau canlynol:
Fel tenant cyflwyniadol rhaid i chi wneud y canlynol:
Mae gan denant cyflwyniadol gyfrifoldebau eraill a bydd landlord y cyngor yn egluro'r rheiny cyn i chi lofnodi'r cytundeb tenantiaeth.
Os yw tenant cyflwyniadol yn torri'r cytundeb tenantiaeth yna mae'n bosib y cânt eu troi allan o'r tw. Dyma rai sefyllfaoedd enghreifftiol lle gallai'r cyngor ddod â thenantiaeth gyflwyniadol i ben:
Bydd swyddog tai o'r cyngor yn ymweld â'r tenant yn y lle cyntaf i drafod y mater a cheisio datrys unrhyw broblemau. Ond, os yw'r tenant wedi torri unrhyw rai o amodau'r cytundeb tenantiaeth, mae'n bosib y cyhoeddir rhybudd o achos meddiannu. Bydd y rhybudd hwn yn dweud wrth y tenant bod y cyngor yn gofyn am orchymyn meddiannu ar unwaith.
Nid oes rhaid i'r cyngor brofi rheswm cyfreithiol yn y llys er mwyn gwneud cais i feddiannu, ond rhaid iddynt ddilyn y drefn gywir. Dan yr amgylchiadau hyn, mae'n bwysig cofio bod y drefn gywir yn rhoi hawl statudol i'r tenant wneud cais i adolygu penderfyniad y cyngor i geisio meddiannu.
Bydd ffurflen i ofyn am adolygiad o'r penderfyniad wedi'i chynnwys yn y rhybudd o achos meddiannu.
Mae'n bosib y cewch denantiaeth ddiogel 12 mis o'r dyddiad y dechreuwyd y denantiaeth neu o'r dyddiad y symudoch i mewn - pa un bynnag yw'r diweddaraf. Fel arfer, byddwch yn cael tenantiaeth ddiogel yn awtomatig ar ôl i'r flwyddyn gyntaf ddod i ben, ar yr amod nad yw'r cyngor wedi:
Os ydych chi wedi treulio amser fel tenant cyflwyniadol mewn eiddo arall cyn i'ch tenantiaeth gyfredol ddechrau, yna dylai'r cyfnod a dreulioch yno gyfri tuag at y 12 mis. Er enghraifft, os oeddech wedi byw yn eich cartref blaenorol am chwe mis, dim ond am chwe mis arall y bydd rhaid i chi fod yn denant cyflwyniadol yn eich cartref newydd.
Os oeddech wedi byw yno am dros flwyddyn, yna dylech chi gael tenantiaeth ddiogel yn syth bin. Mae'r un peth yn wir os oedd gennych denantiaeth gychwynnol gyda chymdeithas dai yn syth cyn y cawsoch denantiaeth gan y cyngor.
Os oes gennych gyd-denantiaeth, bydd y cyfnod prawf yn dod i ben cyn gynted ag y bydd un o'r cyd-denantiaid wedi cwblhau'r cyfnod prawf.