Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae troseddau’n ymwneud â bywyd gwyllt yn gallu gwthio anifeiliaid a phlanhigion prin yn nes at ddifodiant. Maen nhw’n gallu achosi dioddefaint i anifeiliaid, ac maen nhw’n gallu bod yn gysylltiedig â throseddau difrifol eraill fel masnachu cyffuriau. Gallwch chi helpu drwy roi gwybod i’r heddlu os ydych chi’n amau bod troseddau’n ymwneud â bywyd gwyllt yn cael eu cyflawni, a drwy fod yn ofalus wrth brynu cofroddion sydd wedi’u gwneud o anifeiliaid neu blanhigion.
Ceir nifer o wahanol fathau o droseddau'n ymwneud â bywyd gwyllt, ond mae'r rhan fwyaf yn cynnwys:
Mae creulondeb i anifeiliaid gwyllt yn drosedd gan amlaf. Mae creulondeb yn gallu cynnwys defnyddio maglau yn anghyfreithlon a thrais tuag at anifeiliaid, fel baetio moch daear. Mae anifeiliaid sy’n cael eu cadw gan bobl hefyd yn cael eu gwarchod gan y gyfraith rhag creulondeb.
Mae modd lladd rhai anifeiliaid gwyllt, mwy cyffredin, neu eu symud o’u cynefin naturiol, yn gyfreithlon yn y DU, ond bydd hyn yn dibynnu ar y dulliau a ddefnyddir. Er enghraifft, mae saethu a defnyddio trapiau cewyll yn aml yn gyfreithlon, tra mae dulliau eraill yn anghyfreithlon, megis gwenwyno neu ddefnyddio ffrwydron.
Mae nifer o fathau o anifeiliaid a phlanhigion yn cael eu gwarchod gan y gyfraith am eu bod yn brin, yn mynd yn fwyfwy prin, neu ar y ffordd i ddifodiant. Gall troseddau yn erbyn anifeiliaid a phlanhigion sy’n cael eu gwarchod gynnwys:
Mewn rhai achosion arbennig, caniateir lladd neu symud anifeiliaid sy'n cael eu gwarchod, er enghraifft pan fydd gan rywun drwydded i wneud hynny. Bydd y bobl sy’n ymchwilio i adroddiadau o droseddau a amheuir sy’n ymwneud â bywyd gwyllt yn edrych i weld a oes trwydded wedi’i rhoi.
Mae’n bwysig atal troseddau’n ymwneud â bywyd gwyllt am eu bod nhw’n gallu:
Mae’r heddlu a'r llysoedd yn ystyried troseddau’n ymwneud â bywyd gwyllt yn ddifrifol iawn. Rhoddir dirwyon a hyd yn oed dedfrydau o garchar i droseddwyr a geir yn euog. Dyma rai enghreifftiau o gosbau a roddwyd i bobl sy’n gyfrifol am droseddau'n ymwneud â bywyd gwyllt yn ddiweddar:
Gall aelodau o’r cyhoedd chwarae rhan bwysig i atal troseddau’n ymwneud â bywyd gwyllt. Mae’r wybodaeth isod yn dweud sut mae rhoi gwybod am droseddau’n ymwneud â bywyd gwyllt a beth y dylech fod yn ymwybodol ohono wrth brynu anifeiliaid, planhigion neu eitemau sydd wedi’u gwneud ohonynt.
Os byddwch chi’n gweld unrhyw beth sy’n ymddangos fel trosedd yn ymwneud â bywyd gwyllt wrth iddo ddigwydd, dylech gysylltu â'r heddlu ar unwaith drwy ffonio 999. Peidiwch ag aros nes bydd hi’n rhy hwyr. Er eich diogelwch eich hun, peidiwch â mynd ar gyfyl y rheini dan amheuaeth.
Os bydd modd, rhowch y canlynol i’r heddlu:
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am droseddau’n ymwneud â bywyd gwyllt, neu am bobl sydd wedi cyflawni troseddau’n ymwneud â bywyd gwyllt, rhowch wybod i’ch heddlu lleol. Mae gan nifer o heddluoedd swyddogion arbennig ar gyfer troseddau'n ymwneud â bywyd gwyllt. Edrychwch ar wefan eich heddlu lleol i weld a yw manylion y swyddog troseddau’n ymwneud â bywyd gwyllt yno. Gallwch chi hefyd ffonio eich gorsaf heddlu leol gan ddefnyddio eu rhif arferol ar gyfer galwadau nad ydynt yn rhai brys, a gofynnwch am gael siarad â’r swyddog troseddau’n ymwneud â bywyd gwyllt.
Os nad ydych chi’n dymuno rhoi eich enw, gallwch chi gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111. Byddan nhw’n trosglwyddo manylion troseddau'n ymwneud â bywyd gwyllt i'r heddlu cywir.
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am achosion o smyglo anifeiliaid neu blanhigion sy’n cael eu gwarchod, ffoniwch y llinell ffôn ar gyfer tollau ar 0800 59 5000. Gallwch chi hefyd ddilyn y ddolen isod i ddarparu gwybodaeth ar-lein.
Os byddwch chi’n dod o hyd i anifail ac yn meddwl ei fod wedi cael ei wenwyno, neu’n gweld unrhyw dystiolaeth arall o wenwyno, rhowch wybod i’r Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt. Gellir cysylltu â nhw ar: 0800 321 600
Mae rhai anifeiliaid neu blanhigion sy'n cael eu gwarchod yn cael eu gwerthu’n anghyfreithlon yn y wlad hon, dramor ac ar y rhyngrwyd. Gall hyn gynnwys:
Dilynwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am yr eitemau i’w hosgoi.
Gwaherddir yr anifeiliaid a'r planhigion mwyaf prin rhag cael eu masnachu'n rhyngwladol. Weithiau, gellir dod â phlanhigion ac anifeiliaid llai prin i mewn i’r Undeb Ewropeaidd, os bydd trwydded wedi’i rhoi. Mae’r gyfraith yn gallu bod yn gymhleth, ond os nad ydych chi’n siŵr, holwch yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid:
Ffôn: 0117 372 8774
Ffacs:
0117 372 8206
E-bost:
wildlife.licensing@animalhealth.gsi.gov.uk
Os na fydd modd i chi holi, neu os byddwch chi’n ansicr am eitemau wrth deithio dramor, efallai y byddai’n well i chi beidio â’u prynu.