Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hela gyda chŵn

Mae’n anghyfreithlon i rywun hela mamaliaid gwyllt gyda chŵn – er, ceir rhai eithriadau i hyn. Mae mamaliaid gwyllt yn cynnwys llwynogod, ysgyfarnogod a cheirw. Yma, cewch wybod mwy ynghylch hela, Deddf Hela 2004 a phryd y caniateir rhai mathau o hela.

Deddf Hela 2004

Dan Ddeddf Hela 2004, mae’n anghyfreithlon hela mamaliaid gwyllt gyda chŵn yng Nghymru a Lloegr (ceir rhai eithriadau i hyn). Mae ‘hela’ yn golygu defnyddio un ci neu fwy i erlid mamal gwyllt gyda'r bwriad o'i ddal neu ei ladd.

Gallwch gael gwybod mwy am y rhesymau dros wahardd hela, rheoli plâu, yr effaith ar gefn gwlad a mwy ar wefan Defra.

Cosbau

Os caiff rhywun ei erlyn a’i gael yn euog dan y Ddeddf Hela, mae'n bosib y bydd yn rhaid iddynt dalu dirwy hyd at £5,000. Mae gan y llys bwerau eraill hefyd, er enghraifft, gall gymryd ymaith y ci neu’r cŵn neu unrhyw offer hela a ddefnyddiwyd i gyflawni’r trosedd.

Mae’r Ddeddf Hela hefyd yn ei gwneud yn drosedd caniatáu i eraill ddefnyddio’u tir ar gyfer hela anghyfreithlon.

Pryd y caniateir hela – enghreifftiau

Caniateir rhai mathau o hela, ond mae amodau caeth ynghlwm wrth yr eithriadau hyn.

Dyma rai enghreifftiau o bryd y caniateir hela gyda chŵn:

Stelcio ac erlid

Gellir defnyddio hyd at ddau gi i stelcio neu i erlid mamal gwyllt os gwneir hynny am reswm a ganiateir. Er enghraifft, er mwyn atal difrod difrifol y byddai’r mamal gwyllt yn ei achosi i dda byw neu i adar hela, neu i amrywiaeth fiolegol ardal.

Hela llygod mawr a chwningod

Gellir hela’r rhain ar eich tir eich hun, neu (gyda chaniatâd y preswyliwr neu’r perchennog) ar dir arall.

Nôl ysgyfarnog sydd wedi’i saethu

Gellir defnyddio ci i nôl ysgyfarnog sydd wedi cael ei saethu, eto ar eich tir eich hun neu (gyda chaniatâd y preswyliwr neu’r perchennog) ar dir arall.

Achub anifeiliaid sydd wedi’u hanafu

Gellir defnyddio hyd at ddau gi i achub mamal gwyllt os yw’r heliwr yn credu bod y mamal gwyllt wedi’i anafu. Er enghraifft, carw sydd wedi cael ei saethu’n gyfreithlon ond dim ond wedi’i anafu.

Hela gan ddilyn abwyd a thrywydd

Mae hela gan ddilyn abwyd yn weithgaredd sy’n defnyddio naill ai cŵn hela llwynogod neu waetgwn. Mae’n golygu rhoi arogl artiffisial y bydd y cŵn, a’r bobl ar gefn ceffylau, yn ei ddilyn.

Mae hela gan ddilyn trywydd yn ffordd arall o hela ‘prae byw’, ac mae’n cynnwys rhoi arogl (arogl mamal gwyllt fel llwynog fel arfer) y bydd y cŵn, a’r bobl ar gefn ceffylau, yn ei ddilyn.

Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn hela’n anghyfreithlon

Os ydych am riportio rhywun rydych chi’n credu sy’n hela’n anghyfreithlon, dylech gysylltu â’r heddlu.

Gall yr heddlu arestio unrhyw un y maent yn ei amau o fewn rheswm o fod yn hela’n anghyfreithlon, neu rywun y maent yn credu sydd ar fin gwneud hynny. Gallant stopio pobl a cherbydau a’u harchwilio, a gallant hefyd fynd â’u cerbydau, eu cŵn neu eu heiddo oddi arnynt i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn erlyniadau.

Gallai rhywun sy’n gadael i’w gi/gŵn erlid mamal gwyllt pan fydd wrthi’n cerdded yng nghefn gwlad hefyd gael ei erlyn dan y Ddeddf Hela.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU