Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawl i brotestio

Mae’r hawl i brotest heddychlon yn rhan hollbwysig o ddemocratiaeth, ac mae ganddo draddodiad hir a nodedig yn y DU. Dyma wybodaeth sylfaenol am brotestiadau ac am ambell ffordd arall o gael eich clywed.

Protestiadau heddychlon

Mae cymryd rhan mewn gwrthdystiad, rali neu brotest yn ffordd uchel ei phroffil o wneud safiad ar faterion sy'n bwysig i chi. Gall protestiadau wneud gwahaniaeth go iawn, ac arwain at newidiadau ym mholisïau'r llywodraeth ac yn y gyfraith. Gyda phrotestiadau heddychlon, gall pobl ddod at ei gilydd i sefyll dros yr hyn y maent yn ei gredu, a gallant fod yn ffordd effeithiol iawn o hyrwyddo newid.

Y Ddeddf Hawliau Dynol

Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn amddiffyn rhyddid mynegiant a’r rhyddid i ymgynnull – mae’r rhain yn sail i’ch hawl i ymgynnull ag eraill i brotestio.

Mae’r ddeddf yn gwahardd llywodraethau a chyrff cyhoeddus eraill (gan gynnwys yr heddlu) rhag torri’r hawliau hyn. Fodd bynnag, mae’n caniatáu ambell gyfyngiad ar yr hawliau hyn er mwyn atal aflonyddwch, trais a throsedd, ac er mwyn diogelu hawliau a rhyddid pobl eraill.

Mae’r heddlu’n gweithio i sicrhau cydbwysedd rhwng yr hawl i brotestio a hawl pobl eraill i barhau â’u bywyd bob dydd yn ddiogel ac yn ddi-rwystr.

Trefnu protest

Y neges allweddol gan yr heddlu ac awdurdodau lleol i brotestwyr yw ‘rhowch wybod i ni’.

Mae protestiadau’n fwy tebygol o beidio ag achosi gwrthdaro gyda gweithwyr neu drigolion lleol, neu gyda’r heddlu, os yw’r trefnwyr:

  • yn rhoi gwybod i’r heddlu am eu bwriad i brotestio ymlaen llaw
  • yn rhoi rhyw syniad o'r niferoedd disgwyliedig
  • yn gwneud cais am drwydded os oes angen un neu os gofynnir am un

Os ydych chi’n trefnu gorymdaith, yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol eich bod yn rhoi gwybod i’r heddlu chwe diwrnod ymlaen llaw, neu mor fuan ag y mae’n ymarferol bosib i chi wneud hynny. Os ydych chi’n trefnu protest na fydd yn cynnwys gorymdaith, nid oes yn rhaid i chi hysbysu'r heddlu, ond efallai y byddwch yn dal am roi gwybod iddynt.

Bydd y cwrteisi hwn yn galluogi awdurdodau lleol i baratoi at y brotest, i ddargyfeirio traffig os oes angen i sicrhau diogelwch y protestwyr, ac i roi gwybod i drigolion lleol os yw’n debygol y bydd y brotest yn tarfu arnynt.

Protestiadau a phwerau’r heddlu

Mae gan yr heddlu ddyletswydd i ddarparu diogelwch a chymorth er mwyn sicrhau protestiadau heddychlon, ond rhaid iddynt hefyd sicrhau cydbwysedd rhwng hynny a'r ddyletswydd i gadw'r heddwch, i gynnal y gyfraith ac i atal troseddu. Prif swyddogion yr heddlu sydd yn penderfynu sut i ymdrin â phob protest yn eu hardal.

Ni ellir ystyried gweithgarwch treisgar fel protestio cyfreithlon, ac mae gan yr heddlu hawl gyfreithiol i arestio a chyhuddo’r rheini sy’n bod yn dreisgar yn ystod protestiadau.

Mae gan yr heddlu lawer o bwerau cyfreithiol y gallant eu defnyddio i atal trais neu aflonyddwch sy'n gysylltiedig â phrotest. Er enghraifft, gallant osod cyfyngiadau ar lwybr yr orymdaith, neu ar leoliad rali neu ar yr amser y mae i fod i bara.

Ond ni fyddant yn gwneud hynny oni bai fod angen atal:

  • terfysg neu anhrefn cyhoeddus difrifol arall
  • difrod i eiddo
  • tarfu difrifol ar fywyd y gymuned

Mae hefyd yn bosib i’r heddlu 'stopio a chwilio' pobl pan fydd protest, ond rhaid iddynt gael rheswm penodol dros wneud hynny. Oherwydd hyn, os byddant yn eich stopio ac yn eich chwilio, rhaid iddynt bob amser ddweud wrthych ar ba sail y maent yn gwneud hynny.

Gellir defnyddio rheolau ymddygiad gwrthgymdeithasol a gorchmynion gwasgaru hefyd i chwalu protestiadau treisgar neu anghyfreithlon.

Gellir atal protest eistedd neu flocâd – un heddychlon hyd yn oed – os yw’n rhwystro’r traffig ar y ffordd neu’r rhodfeydd cyhoeddus. Nid yw unrhyw lafarganu hiliol na bygythiadau o drais yn dderbyniol – hyd yn oed mewn protest sydd fel arall yn heddychlon – a byddai'n bosib i'r rheini sy'n gwneud rhywbeth o'r fath gael eu harestio a'u cyhuddo.

Dewisiadau eraill yn hytrach na phrotestiadau cyhoeddus

Gwrthdystiadau cyhoeddus, o bosib, yw’r ffordd uchaf ei phroffil o fynegi beth rydych yn ei gredu, ond ceir dulliau eraill hefyd o leisio'ch barn, a gall y rheini fod yr un mor effeithiol.

Fe allech wneud y canlynol, er enghraifft:

  • siarad â’ch Aelod Seneddol mewn cymhorthfa leol neu yn eich etholaeth
  • ysgrifennu llythyr at Aelodau Seneddol ac at aelodau Tŷ’r Arglwyddi
  • sefydlu neu lofnodi deiseb a'i chyflwyno i'ch Aelod Seneddol
  • sefydlu neu lofnodi deiseb ar wefan Rhif 10
  • llunio gwefan neu ysgrifennu blog i leisio'ch barn
  • mentro i fyd gwleidyddiaeth – beth am sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad?
  • ymuno â phlaid wleidyddol a dadlau’ch achos

Weithiau, gall cyflwyno’ch achos yn uniongyrchol i’r rheini sydd wedi gwneud penderfyniadau yr ydych yn anghytuno â nhw fod yn fwy effeithiol na phrotestio.

Additional links

Ydych chi’n colli allan?

Gallech fod ag hawl i gymorth ariannol – cael gwybod beth sydd ar gael

Allweddumynediad llywodraeth y DU